Cathlau Bore a Nawn/Anita'r Ddol
Gwedd
| ← Lliwiau'r Hydref | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Disgwyl Amser Gwell → |
ANITA'R DDOL.
GWENI di, O fûn ddi fai,
'Run fath a Mai yn union;
Gwêna synwyr pur dy ben
Trwy loywaf lenni tlysion;
A gwêna'r serch o nefol nwyd
A gelwyd yn dy galon.
Ti fedri'n rhigil bedair iaith,
Ti fedri waith goleuni;
Ti fedri droi yn llon a rhydd
Werinol brudd gwmpeini;
A medri'n tynnu o bob man
I wanwyn pan y mynni.
Dos di yn uwch, yn uwch o hyd,
I'th anwyl fyd doethineb;
A gwrided llawer geneth ddel
O wel'd dy naturioldeb;
O riain fwyn a llonna'n fyw
Loes anwyl yw'th dlysineb!
Tlysion yw yr adar llon
Ar goed y fron a'r faenol;
Tlysion yw y blodau, sydd
Yn denu'r dydd i'w canmol;
Ond mewn hawddgarwch ni ddaw'r un
At oreu bûn naturiol.