Cathlau Bore a Nawn/Ar drothwy Blwyddyn Newydd
← Fel yr Awel | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Methu canu → |
AR DROTHWY BLWYDDYN NEWYDD.
BETH, beth yw cyfrinachau
Y flwyddyn newydd hon?
Pa rif o newidiadau?
Pa faint o'r lleddf? a'r llon?
Mae ffael neu ffawd
Y cartref tlawd,
A thynged llywodraethau,
Yn llechu ar ei rhawd.
Disgwylia'r glwth a'r ynfyd
Bleserau gwamal fryd;
Mae yntau'r gweithiwr diwyd
Yn disgwyl tro ar fyd.
'Does neb yn awr
Trwy raddau'r llawr
All wel'd trwy lenni'r flwyddyn
Droadau'r olwyn fawr.
Edrycha'r ieuanc nwyfus
Ymlaen trwy lygaid llon,
A gwêl anelwig enfys—
Arwyddlun modrwy gron.
Pa hanes fydd
I'r denol ddydd ?—
'Dall Gobaith wel'd mo'r Siomiant
O borth y flwyddyn gudd.
Tra'n ofni Mawrth ac Ebrill,
Disgwylia'r hen a'r claf
Y lwydlas Gôg a'i deusill,
A hyfryd wenau haf;
A gall ca'r ddau
Wel'd hafddydd clau—
A gweled llygaid gloywach
Cyn hynny wedi cau.
Mae'r maeliwr a'r marsiandwr
Yn syllu draw am lwydd,
A Hyder, fel creawdwr,
Yn dwyn ei rith i'w gwydd:
Ni welant lun
Na rhith yr un
O'r dirgel Ddigwyddiadau
Sy'n cau cynlluniau dyn.
Mae'r Cristion syml yn tremio
Drwy ffydd dros dir a môr,
Gan ddisgwyl gwel'd yn llwyddo
Efengyl cariad Iôr;
A chlywaf lef
O'r uchaf nef,
Lle trefnir rhawd y flwyddyn,
Yn dweyd na siomir ef.