Cathlau Bore a Nawn/Araf try'r Olwynion Mawr
| ← Gwylder | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Llenni Dirgelion → |
ARAF TRY'R OLWYNION MAWR.
GAN bwyll,
Gynhyrfwyr penboeth, chwyrn, a chroch, gan bwyll!
A cheisiwch dynnu'r tân yn is i lawr-
I galon well, yn dân o eirias wawr
A ddengys dybus dwyll.
Gan bwyll:
Paham y gwnewch i'r adar caeth eu byd
Yn erbyn barrau guro'u hesgyll, nes
Dinystrio'u plu? Daw dyddiau gwell eu gwres
A rhyddid mewn iawn bryd.
Gan bwyll:
Paham y torrwch argae'r llyn, i'r lli
Lifeirio dros y tir, a pheri gwae
I fyrdd, a'r gofyn prudd "Pa le y mae
Y dwfr a'i dybiol fri?"
Gan bwyll:
Yn araf try'r olwynion mawr i gyd.
Ni sylwant ar eich egni gwallgo chwi;
A gwyr yr Hwn a glyw y pellaf gri
Pa fodd i wella'r byd.
Diwygiad?
—P'odd y daeth pob un oedd iawn erioed?
Ni anwyd eto genedl mewn un dydd,
Na rhyddid chwaith, nes daeth y tymp; a ffydd
A phwyll sydd sicr eu troed.
Nid dydd
Nac oes dry dryblith mawr yn drefn a gwên;
Nid mewn un mis y troir diffaethwch mall
Yn feusydd ac yn erddi; nac o'i wall
Y troir camwri hen.
Diwygiad!
—Persain ini oll y gair—a'r peth.
Diwyllio, paratoi, drwy lafur hael,—
Cymhwyso'r tir a'r rhaid, yw'r ffordd i'w gael—
Yr unig fodd di feth.