Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Bwlch Derwin

Oddi ar Wicidestun
Yr Hen Fron'rerw Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Pethau Prydferth

BWLCH DERWIN.

ER na fedd brydferthwch daear,
Er na fedd enwogrwydd llachar,
Mae rhyw swyn a ddeil yn ddibrin
Wedi aros ym Mwlch Derwin.

Mynych yno hêd fy nghalon.
Ar adenydd chwim adgofion,
Ac mewn ambell hen gynefin
Oeda oriau ym Mwlch Derwin.

Ofer chwilio am wynebau
Rhai a welais hyd ei lwybrau;
Ond parhau mae symledd gwerin
Iach a durol ym Mwlch Derwin.


Hawdd yw cofio hen dywysog
Cors y Wlad, a'i wyneb rhychog.
Blwch y nard na'r geiriau gerwin
Amlach dorrai ym Mwlch Derwin.

Gwelwyd yma wledda lawer
Ar ddanteithion o'r uchelder;
Cafodd llawer gwael bererin
Iachawdwriaeth ym Mwlch Derwin.

Y mae llu o'r rhai fu ynddo
Gyda'r byd yn caled frwydro
Wedi myn'd i wlad ddi-lychwin,
Uwch ei dwrw o Fwlch Derwin.


Nodiadau

[golygu]