Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Chwaon Ffordd y Wawr

Oddi ar Wicidestun
Llanycil Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Hûd yr Encilion

CHWAON FFORDD Y WAWR.

RHY gynnar yw
I neb o amgylch deimlo'i ffûn,
Na bod crâs dyrfau ar ddi—hûn,
Na süon chwaith—yr un, yr un,
Ond süon Duw.

Fy enaid llwfr,
Na thro'n gyhuddgwyn am dy fyw
Y sŵn o'r afon ddaw i'th glyw,
Ond gwybydd mai sŵn Cariad yw
Suadau'r dwfr.

O! chwäon glân,
Rhy brin mae'ch cyffyrddiadau mwyn
Yn cyffro cwsg y grug a'r brwyn,
A thrwy eu hûn mae dail y llwyn
Yn cofio'u cân.


Y tyner lyn,
Ca'dd yntau hûn fel cwsg y bedd,
Ond teimla ef eich cusan hedd:
Mae arwydd deffro ar ei wedd,
A llonder syn.

A ddaethoch chwi,
O wel'd y nos yn ffoi yn wir,
O rywle pell dros for a thir?—
O wlad lle mae goleuni clir
Mewn bythol fri?


O! chwäon pur,
Mae ynoch naws rhyw fywyd llon
Na welodd dyn ar dir na thòn,
A blas rhyw fyd heb ynddo fron
Yn cofio cur.

Ai son wnewch chwi
A'r wawr sy'n llonni ffridd a rhos
Am hwyl y ddaear newydd " dlos,
Pan yrr goleuni gwell y nos
O'n bywyd ni?


Nodiadau

[golygu]