Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Cwyn a Chysur

Oddi ar Wicidestun
Paid a'i goelio Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Yr hen Dorrwr Cerrig

CWYN A CHYSUR.

I.
GAEAF ydyw bywyd—
Gaeaf oer a blin,
Llym yw'r gwynt gwenwynllyd,
Gerwin ydyw'r hin;
Ond ni ddigalonnaf—
Canu ynddo wnaf:
Cilio raid i'r gaeaf,
Dyfod mae yr haf.

II.
Cefnfor ydyw bywyd—
Cefnfor garw, du;
Tonnau mawr dychrynllyd
Welaf ar bob tu;
Ond yng nghwch bach hyder
Canaf yn ddi—daw:
Myn'd yn llai mae'r pellder,—
Glaniaf maes o law.

III.
Canaf yn nhymhestlodd
Geirwon gaeaf du;
Canaf uwch dyfnderoedd
Tonnog fôr a'i ru;
Canaf tra y dalio
Hwyliau gwynion ffydd;
Canaf wedi glanio
Am dragwyddol ddydd.


Nodiadau

[golygu]