Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Daeth yr Haf

Oddi ar Wicidestun
Ysbryd Gwanwyn Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Ar lan yr Afon Lonydd

"DAETH YR HAF."

HYFRYD fwynder sy'n cyniwair
Heddyw dros y tir,
Pob rhyw delyn sydd mewn cywair,
Pob rhyw dwf yn ir;
Llonni dan ei fwyn gyffyrddiad
Y mae pobpeth a fedd deimlad,
Llonni mewn rhyw syn ddeffroad-
Syn ddeffroad a boddhad:
Megis ysbryd adgyfodiad
Traidd y wlad.

Pob anifail yn ei borfa
Mewn mwynhad ymgyll;
Pob trychfilyn âd ei guddfa
Mewn mwynhaol ddull;
Pob aderyn sy'n mynegi
Ei ddifyrrwch pêr, diwegi-
Ffrydio, ffrydio mae'r melodi
O'r calonnau brwd yn glau;
Pob gwibedyn sydd yn codi
I fwynhau.

Glân yw'r coed a'r gwair a'r llysiau,
Melys yw eu hedd;
Newydd dlysni a wisg y blodau-
Gwynfyd yn eu gwedd.
Beth yw'r mwynder hwn a deimlir?
Beth yw'r ysbryd hwn groesawir?
Beth yw'r newid hwn a welir?
Pa'm mae'n iach y galon glaf?
Dyma'r ateb llawen glywir-
"Daeth yr Haf."


Mor ddi sŵn a sydyn daethost,
Hyfryd Haf, ger bron!
Mor ryw hawdd a llwyr y gwnaethost
Fyd oedd brudd yn llon!
Sut y gwyddai'r holl dyfolion
Dan y perthi, trwy'r encilion,
Am dy ymdaith? Mae'r eiddilion,
Fel eu cryf gymdeithion braf,
Wedi'th gwrdd i ddweyd o'u calon,
"Henffych, Haf!"


Nodiadau

[golygu]