Cathlau Bore a Nawn/Disgwyl Amser Gwell
| ← Anita'r Ddol | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Dyfnder a eilw ar Ddyfnder → |
DISGWYL AMSER GWELL.
CLYWAIS wed'yn neithiwr,
A thwrf y byd ymhell,
Fyrdwn oes y gweithiwr—
"Disgwyl amser gwell."
Maith fu'r disgwyl yma—
Maith a phrudd, yn wir;
A fyn yr hyn orthryma
Lado bara'n hir?
Gwelwyd Masnach weithiau
Ag addawol bryd,
Wedi bod ar deithiau
Ar hyd a lled y byd.
Masnach! pwy a'i beia?
Euog nid yw hi;
Gwaeth yw'r gwaeddwr lleia'
Waedda "'Roll i mi."
Rhwysgfawr yw Cyfalaf,
Nerthol is y nef;
Ond mae'r gweithiwr salaf
Yn fwy o werth nag ef.
Ah! mae'r wawr yn torr
Dros y bryniau pell;
Os yw rhai yn sorri,
D'od mae'r amser gwell.
Gwelwn ofn yn plygu
Ysbryd Gorthrwm hen,
A lleihau'r edmygu
Ar ei anfad wên.
Cyffry aidd Dyngarwch
Uchel-fannau'r byd.
Weithwyr, nac amharwch
Hwn, fu'n cysgu c'yd.
Gwelwch fod calonnau
Grymus wŷr o'ch tu;
Ond araf waith i'r tonnau
Yw plygu'r barrau lu.
O! mae'r wawr yn torri
Dros y bryniau pell:
Os yw rhai yn sorri,
D'od mae'r amser gwell!