Cathlau Bore a Nawn/Dygwyl Dewi
Gwedd
| ← Yr Hafaidd Nos | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Trin yr Ardd → |
DYGWYL DEWI.
Ni ganwn heddyw'n gynnes
Ddi-rith wladgarol gerdd,
A gwisgwn ar ein mynwes
Yr hen geninen werdd.
Gwlad awen, ddydd Gwyl Dewi,
A gaiff ein serch i gyd,
A thân a draidd ein gwythi
Drwy bedwar cwrr y byd.
O, Walia, er pob gelyn
Dy bleidio wna dy blant,
A dal dy glod ar delyn
Ar ddydd Gwyl Dewi sant.
Yn felys Nêr a folant,
Medd enwog fardd a fu;
Eu gwiwdeg iaith a gadwant
Yn gannaid ac yn gu;
Eu gwullog dir a gollant,
Ond Gwalia deg ei hun:
Yn ddilyth hon a ddaliant
Tra deil yn gartre dyn.
O, Walia, &c.
Er gwel'd goludog wledydd,
Ni welwn is y nen
Gu lannerch ddwg lawenydd
Fel distaw Walia wen.
Ar anwyl Wlad y Bryniau,
A'i holl rinweddau hi,
A'i noddol hen fynyddau,
Boed bythol freiniol fri!
O, Walia, &c.