Cathlau Bore a Nawn/Edrych i fyny
Gwedd
| ← Dyfnder a eilw ar Ddyfnder | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Rhaid iddo Ef gynyddu → |
EDRYCH I FYNY.
(Ysgrifenwyd yn Album geneth 18 oed, orweddiog er yn blentyn.)
PAN deimli dy galon yn isel a gwan,
Pan deimli dy hoen yn pallu,
Cofia pa le mae dy nerth a dy ran:
Edrych, edrych i fyny.
Pan ddelo'r tywyllwch o'th gylch i ymgau,
A'r nos i roi taw ar dy ganu,
Dal i obeithio: mae'r wawr yn nesau:
Edrych, edrych i fyny."
Prudd, prudd yw caethiwed, a'r awydd yn gref
Am ryddid a gwaith; ond er hynny
Cystudd sydd fantais i weled y nef:
Edrych, edrych i fyny.