Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Gobaith Gwell

Oddi ar Wicidestun
Meddyliau Mam Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

GOBAITH GWELL.

A MI mewn myfyr am a fu
Yn fy nghell—
Yn crwydro trwy helyntoedd lu,
Fel rhyw awel
Dyner, dawel,
Daeth i'm clyw sibrydol sû—
"Gobaith gwell."

Wrth groesi llawer llannerch lom
Ar y daith.
Fe ddaeth sydyn storom drom,
Gan ddyrysu
Pob melysu;
Hudol obaith drödd yn siom
Lawer gwaith.

Ond wedi pob ystormus nos
Torrodd gwawr,
Ac eilwaith troai'r wlad yn dlos:
Wrth y gofid
Nad anghofid
D'wedai Rhywun tyner, "Dos"—
Rhywun mawr.

I mi mewn myfyr am a fu
Yn fy nghell—
Yn cofio llawer noson ddu,
Ac yn cofio
Oriau nofio
Ar obeithion, pêr y sû
"Gobaith gwell."


Edrych mae fy enaid gwan
Draw ymhell;
Hi ddaw'n oleuach yn y man:
I'r blynyddoedd
Dros fynyddoedd
Chwyddo y mae goleuni cann
Gobaith gwell.







ARGRAFFWYD GAN GWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.),
SWYDDFA "CYMRU," CAERNARFON.

Nodiadau

[golygu]