Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Gwylder

Oddi ar Wicidestun
Mae'r oll yn gysegredig Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Araf try'r Olwynion Mawr

GWYLDER.

NID oes ar y ddaear un
Hafal gamp i brydferth fun;
Ac o'i holl addurnau hi
A'i thlyseddau a'i rhinweddau,
Gwylder yw yr ucha'i fri.

Ni rydd addysg gwlad na thref
Dlysed addurn ag yw ef;
Ac heb hwn i harddu merch
Ni wna dysgu fwy na chysgu
I'w mawrhau yn syniad serch.

Beth sy'n rhoddi gwylder gwir?
Calon dda a synwyr clir,—
Gwell na hwn y gwylder cu
Sydd yn dyfod megis cafod
Dyner, dyner oddi fry.


Nodiadau

[golygu]