Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Hûd yr Encilion

Oddi ar Wicidestun
Chwaon Ffordd y Wawr Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Ysbryd Gwanwyn

HUD YR ENCILION.

AGOS a phell ynt hwy—
O dan glogwyni a choed,
A cher yr afonydd a lifant trwy
Gysegroedd oed.

Ynddynt 'rwy'n caru bod—
Cryf yw eu tynniad hwy.
Bum ynddynt yn llon, bum ynddynt dan nôd
Hiraethus glwy.


Ynddynt mae Natur fwyn
Yn dangos ei thlysau hi—
Tlysau y twf dan y graig a'r llwyn,
A thlysau'r lli.

Pell yw y byd a'i ddrwg
O'r tawel encilion cu,—
Pell ydyw crechwen sarhaus a gwg
Pob gelyn du.

Melys yn wir yw'r hedd
I fyfyr o'u mewn y sydd;
Hyfryd yw llonder neuaddau a gwledd
Breuddwydion dydd.

Iddynt ysbrydion ddônt
A osgoant ynfydion byd,
A llawer cyfrinach agored ront
I ddifalch fryd.

Bywyd a'i ddrysi prudd
I'w golwg ddaw bron yn glir,
A rhyfedd droadau'r olwynion cudd
Uwch anial dir.

Mi welais ryw ambell awr
Rhwng llenni'r ymguddiol hedd
Y bannau tragwyddol sy bell, a'r wawr
Tu hwnt i'r bedd.

Anwyl encilion clyd,
Ynoch 'rwy'n hoffi byw,
I glywed y lleisiau na chlyw y byd,
A gwel'd fy Nuw.


Nodiadau

[golygu]