Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Hen Fynwent Bro Hûd

Oddi ar Wicidestun
Y Fioled Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Dros y Ffin

HEN FYNWENT BRO HUD.

TAIR prudd ywen fel chwiorydd
Yno'n gwylio sydd,
Hudant ambell fwyn delorydd
Seinia dônau dydd;
A'r awelon rhwng eu cangau,
Er yn lleddf eu sû,
A sibrydant nas gall angau,
Deithydd du,
Hel o fod sisialau fu.

Tyn beddrodau at y meini
Hiraeth byrr ei hûn;
Yno mae rhyw lu o'r rheini,
Oes, ac hefyd un.
Mae at hwnnw fil o weithiau
Un pererin ài,
Heb ei flino gan y teithiau,
Pe y ca'i
Glywed llais a'i llawenhâi.


Barrau heyrn a geir o'i amgylch,
Rhag ei fathru mwy;
Ac mi welais dyner fflamgylch
Fel o'u hamgylch hwy.
Ni raid canllaw rhag ei dyfod
Hi a gysg i lawr
I'r helbulon: gwaeddi "Cyfod,"
Lawer awr,
Wrth y fan bu hiraeth mawr.

Tlos ac anwyl oedd y rïain,
Mwyn fel cél y coed;
Gwynnach oedd ei bryd na'r llïain
Iddi'n amdo roed.
Prin y clywai'r llon gwmnïau
Swn ei geiriau gwin,
Ond fe welai'r glân liliau
Wrth eu trin
Iaith a garent ar ei min.

Ni ddywedai bod hi'n caru,
Nac yn gweled nôd,
Un sydd heddyw yn galaru.
Ac a wyr ei bod.
Wyr hi'n awr ei fod, pan dd'wetto
Hiraeth, wrth ei bedd?
O! fe garai weled eto
Wawr ei gwedd,
Megis cyn yr hûn a'r hedd.


Nodiadau

[golygu]