Cathlau Bore a Nawn/Hen Gerddi'r Werin
Gwedd
| ← Llwyd yr Helyg | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Tipyn o Ymgom → |
HEN GERDDI'R WERIN.
HEN gerddi gwerin Gwalia,
Nid oes eu hail, mi ddalia':
Pwy yn eu gwerth a'u gwir fwynhad
O filoedd gwlad na falia?
Mi glywais gerddi gwerin
Yr Alban falch ac Erin:
I'n cerddi ni nid nes y rhain
Na thwrw brain Gwytherin.
Yr anwyl inna' hefyd!
Ein cerddi pwy na threfyd?
Gwna'r "Hen Wr Mwyn" a'r "Gwcw Fach"
Wyw glaf yn iach o'i glefyd.
Hen gerddi gwerin Cymru,
O ddyddiau'r uwd a'r llymru,
I'w galw hwynt o'r ciliau rhwd
Daw amryw'n frwd eu hymru.
Rhyw freuddwyd pêr a gefis,
Hyd oni lafar lefis,—
Gwel'd Doctor Lloyd yn lluchio sêr
I'r diva, Mary Davies.
Drigolion gwlad y canu,
Yn lle pob gwâg fychanu
Rhown groeso i'r hen gerddi prin
A ddenir i'n diddanu.