Cathlau Bore a Nawn/Hwiangerdd y Weddw
| ← Pethau Prydferth | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Wrth Fedd Mair Eluned → |
HWIANGERDD Y WEDDW.
(Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd, 1893).
Su, fy maban, su hwi hwian,
Hwian lwli bei;
Wrth fy mynwes brudd ei hanes
Noddfa gynnes gei.
Cwsg yn dawel, ni cha'r awel
Gluda swn yr yw,
Na thwrf dyli calon mami,
Ddisgyn ar dy glyw.
Su bei babi, su hwi lwli,
Huna, dlws dy fam;
Cwsg heb ofni, calon mami
Rhyngot sydd â cham.
Yn dy wyneb gwelaf ardeb
Arall anwyl un,
Wrth ei gofio hawdd yw gwylio―
Effro wylio'th hûn.
Su hwi lwli, hwian, babi—
Cwsg, anwylyn cu;
Cwsg dan wenu, boddia hynny
Galon tada fry.
Edrych, edrych wnai yn fynych
Yma ar dy bryd:
Cofio am danat, syllu arnat,
Wna o'r dedwydd fyd.
Su, fy maban, su hwi hwian,
Huna mewn mwynhad;
Cwsg yn dawel, cofia'th angel
Air dy ddwyfol Dad.
Tad sy'n aros, Tad sy'n agos—
Nês na chynt—yw Ef;
Tad ofala, Tad a'n llywia
Ninnau tua'r nef.