Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/I nol ei Fun fe ddaw

Oddi ar Wicidestun
Llys Dinorwig Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Meudwy'r Ardd

I NOL EI FUN FE DDAW.

MAE cariad pur yn dal fel dur,
Er myn'd i Affrig draw;
A dywed pawb a wyr ei rym,
Er gwaethaf pell brysurdeb llym
I nol ei fun fe ddaw."

Yr hoyw Gelt wrth dramwy'r Veldt
A sibryd wrtho'i hun,
"Mi welais aml olygfa deg,
Mi welais lawer tlysbeth chweg,
Ond dim fel hi, fy mun."

A hithau'r ferch, yn swil ei serch,
Y'ngwydd Elidir lwyd
A ddywed wrth y llanc dros dòn,
A wel ei chariad ger ei bron,
"Tydi, fy eilun wyd."

Yn llesmair bardd o Goleg hardd
Pretoria try efe,
A dywed wrtho'i hun yn syn,
Beth dâl rhoi gwersi oer fel hyn,
A'm calon draw o dre?

Af dros y lli i'w chyrchu hi
A ddug y galon fau:
Mi wn y daw, mi wn y daw,
A sêl fy nghariad ar ei llaw,
A byddwn ddifyr ddau."


A thros y dón y daeth yn llon,
A'i obaith ar ddi-hûn;
Ac aeth yn ol yn ddedwydd wr,
A dymuniadau'n haid ddi-stwr
O'i amgylch ef a'i fun.


Nodiadau

[golygu]