Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Llenni Dirgelion

Oddi ar Wicidestun
Araf try'r Olwynion Mawr Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Meddyliau Mam

LLENNI DIRGELION.

Ai tybiau ynte sêr
Yw'r goleuadau têr
A wêl fy enaid yn ei wybren weithiau?
Pa beth sydd ynddynt hwy?
A beth sy'n tramwy trwy
Y gofod mawr Ile troant ar eu teithiau?

Fy nghyd—ddyn agos, sydd
Yn troi gerllaw bob dydd,
Nis gwn ei gof na'i feddwl na'i fwriadau.
I mi y mae yn fyd
Sydd geuad bron i gyd,
Na feddaf onid rhai o'i agoriadau.

A thyma fi fy hun:
Rhy brin y gwn pa lun
Sydd ar fy mywyd bach a'r galon ynof.
Pa beth i'm cwrdd a ddaw?
Pa beth a'm herys draw?—
Llenni dirgelion, trof i'r fan a fynnof.


Nodiadau

[golygu]