Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Llwyd yr Helyg

Oddi ar Wicidestun
Nel Yr Ynys Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Hen Gerddi'r Werin

LLWYD YR HELYG.

LWYD YR HELYG bychan, llon,
Pa'm y ceni mor ddi-donn?
Beth sy'n peri'r miri mawr
A wnei di o awr i awr?

"Re-mi, re-mi, rê-re, rê-re,
Darfu son am miserere;
Haul a helig i'm diddanu,
Rhaid yw, rhaid yw troi a chanu.
Re-re, re-re, mi-re, mi-mi,
Oriau haf, mor ddifyr imi!"

P'le yr oeddit dridiau'n ol?
Pa'm yn awr wrth ffrwd y ddol?
Pa'm mae'th naid a'th gân mor chwim,
Tithau heb orphwyso dim?

"Re-mi, re-mi, mi-re, rê-re,
Ond yr Haf a waeddodd 'dere.'
Dyma Mai, a daw Mehefin;
Dyma'r anwyl hen gynefin.
Re-re, re-re, mi-re, mi-mi,
Oriau haf, mor ddifyr imi!"


Oni chlywi'r byd a'i gri?
Oni sylwi arnom ni?
Onid oes, aderyn llon,
Ofid ar y ddaear gron?

"Haf a'i heulwen, rê—re, rê—re,
Pa raid sôn am miserere?
Doniau dolydd, coed yn deilio,
Dwfr a helig,—difyr eilio.
Re—re, heulwen, rê, awelig,
Dyma nefoedd Llwyd yr Helig."


Nodiadau

[golygu]