Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Mae'r oll yn gysegredig

Oddi ar Wicidestun
← Llwybrau Bro Mebyd Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Gwylder →

"MAE'R OLL YN GYSEGREDIG."
(Y Bala).

ER gwaethaf ffair a marchnad,
A'u holl drybestod hwy;
Er gwaethaf nwyd etholiad,
A dwndwr sir a phlwy;
Er gwaetha'r brwnt aredig
Trwy galon llawnt ei chân;
Er gwaethaf trwst cerbydau'r byd,
A gwawch peiriannau croch o hyd,
Mae'r oll yn gysegredig
O gylch Y Bala lân.

Mae adsain pêr ymgomiau
Y pererinion gynt
Yn aros uwch y llwybrau
Sancteiddiwyd gan eu hynt.
Mae swn yr hen bregethau
A dynnai'r dwyfol rin,
A swn y gorfoleddu mawr
Uwchben y seigiau ddoent i lawr,
Yn aros heb ei lethu
Yn awyr ciliau'r Green.

Freintiedig ffyrdd Y Bala!
Gwroniaid penna'r ffydd
A phrif ddysgawdwyr Gwalia
A welsant lawer dydd;
Hwy glywsant alar chwerw
Y lluoedd gynt a fu
Yn hebrwng i Lanycil syw
Weddillion tywysogion Duw:
O ddorus sanctaidd erw
Yw hen Lanycil gu!


Cartrefle dysg ddi-falchder,
Hoff dre prophwydi, yw
Y Bala—ddysgodd lawer
I drin arfogaeth Duw.
Er mwyn ei hen barchedig
Athrawon pur, di—lŷth,—
Er mwyn y dwyfol nerthoedd fu
Yn tramwy trwyddi oddi fry,
Mae'r oll yn gysegredig
O gylch Y Bala byth.


Nodiadau

[golygu]