Cathlau Bore a Nawn/Methu canu
| ← Ar drothwy Blwyddyn Newydd | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Llwybrau Bro Mebyd → |
METHU CANU.
O, DLYSION Mehefin,
Mor anwyl i gyd,
A mwynder mor ddibrin
Yn tarddu o'ch bryd,
Mi feddyliais am ganu i chwi;
Ond fy nghalon, am wylo mae hi,
Ac nis gwn i paham yn y byd.
O, dlysion Mehefin,
Sy'n llenwi y wlad,
Rhy dawel i chwerthin-
Rhy ddwfn eich boddhad;
A minnau, ni chwarddwn, pe cawn,
Ond gwenu pe gallwn a wnawn,
A chanu cyfrinach mwynhad.
A glywch chwi y truan
Mewn cadwyn gerllaw,
O'r trais ar ei anian
Yn udo'n ddi-daw?
Ni ddymunwn i gwynfan ci
Gael lleihau eich tangnefedd chwi,
Sy'n gwenu mor syn a di-fraw.
A welsoch chwi neithiwr
Y Bronfraith fu lon,
Ar lawr mor ddi-swcwr,
A'r briw yn ei fron?
Ond heddyw paham y ca'i hyn
I chwi fod yn ofid na chryn?—
I chwi yn eich gwynfa ddi-dòn?
Yn ymyl mae cyfaill
Ar derfyn ei ddydd,
Yn clywed rhai eraill
Yn rhodio yn rhydd.
Ond paham y ca'i c'ledi gwr claf,
Ar ddiwrnod mor hyfryd o haf,
Wneud i chwi fod yn glwyfus a phrudd?
Draw acw mae rhïain
Yn barod i'w bedd,
Doedd gynnau mor firain,
Mor gynnes ei gwên.
Ni wêl ond Mehefin byth mwy;
Ac eto mae 'nghalon dan glwy:
Chwi, chwi, byddwch hyfryd mewn hedd.
O, dlysion Mehefin,
Sy'n gwenu mor fwyn,
I chwi anghynefin
Yw gwrando prudd gwyn:
Mi hoffwn roi cân a'ch boddhai;
Ond wylo wnai 'nghalon, pe ca'i.-
Gwrandewch ar ddyrifau y llwyn.
Y delyn eolaidd
A glywais i gynt,
Hi ganai mor beraidd
Dan fysedd y gwynt;
Ond lleddf oedd y nodau i gyd;
A lleddf dan awelon y byd
Yw 'nghalon fach innau ar hynt.