Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Meudwy'r Ardd

Oddi ar Wicidestun
I nol ei Fun fe ddaw Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Y Brongoch briw

MEUDWY'R ARDD.

O! HEN bererin llwyd-ddu, cefngrych, tynn,
Ba dynged barodd dy drywanu di,
Ar ol yr hir ymddiried ynof fi?
O'th gudd y daethost lawer gwaith cyn hyn
I syllu arnaf fel athronydd syn,
A minnau'n syn ddyfalu a oedd gri
O fewn dy ddirgel fyd, neu awydd bri,
A beth oedd dan dy araf bwyll di-gryn.
A ydyw'th loes mor fawr a loes fy mron
Anesmwyth i o'th weled fel yr wyd?
A feddi dyb am "ddamwain," brudd neu lon?
A'r rhagor rhwng amryfus wall a nwyd?
Cyn tranc a fedri faddeu'r ddamwain hon
I un a deimla'r loes tra'r cof a gwyd?


Nodiadau

[golygu]