Cathlau Bore a Nawn/Molawd Gwlad y Gorllewin
| ← Henry Richard | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Dol yr Onnen → |
MOLAWD GWLAD Y GORLLEWIN.
I.
WLAD y rhyfeddodau bythol,
Wlad y llawn eangder mawr,
Welaist fyrdd o lygaid rhythol
Yn amlygu mewnol ddawr,
Pwy erioed a welsom ni
Allodd roddi teilwng fri,
Drwy gyfrifiad neu ddisgrifiad,
I dy werth a'th fawredd di?
II.
Wlad yr ynni cryf, aflonydd,
Wlad yr egni mawr ei lwydd,
Fel llifeiriad dy afonydd
Ydyw nwyf dy fywyd rhwydd;
Myn'd mae'th bawb a'th bobpeth di,
Myn'd yn gyflym, myn'd yn ffri,-
Myn'd nes rhoddi teimlad boddi
I rai araf fel nyni.
III.
Wlad y rhyddid cymdeithasol,
Wlad y parchu dyn fel dyn,
Lle mae'r gweithiwr yn urddasol
Sydd yn medru parchu ei hun,
Duwies Rhyddid ar dy lan
Ddeil o'n blaen ei llusern gàn;
Ysbryd Rhyddid, seiniau rhyddid,
Gwrddwn ynot ymhob man.
IV.
Wlad y croesaw! caredigrwydd
Gwlad y Bryniau ynot sydd
Wedi cyrhaedd arbenigrwydd,
A gwresogrwydd canol dydd;
Dy Gymreig gartrefi llon
Sydd agored tua'r dòn:
Mewn calonnau sibryd tonnau
Glod eu serch yr ochor hon.
IN PRAISE OF THE WESTERN LAND.
Y Cyfieithiad Buddugol o "Molawd i Wlad y Gorllewin "
yn Eisteddfod Denver, Medi, 1896.
GAN AP DANIEL, NEW YORK.
I.
LAND of wonders, great and lasting,
Land of such abounding space,
Countless eyes hast thou seen casting
Searching looks upon thy face;
Whom at any time have we
Seen due praises give to thee,
By notation, or description,
For thy worth and majesty?
II.
Land of force and animation,
Where success is ever rife;
As thy rivers' inundation
Is the vigor of thy life.
All and every thing in thee
Goeth fast, and goeth free,—
Goeth onwards, till we laggards
Feel like drowning in the sea!
III.
Land where social Freedom reigneth,
Land where "man to man" doth stand,
Where the worthy toiler gaineth
Due respect on every hand,
Freedom's Goddess on thy shore
Holds her lamp to light thy door;
Signs of Freedom, sounds of Freedom,
Greet us in thee evermore!
IV.
Land of welcome and of kindness,
Cambria's interesting ways
Thrive in thee, with added brightness,
Like the warmth of noontide rays,—
Thy Welsh homesteads near and far
Have their Eastern doors ajar:
In heart—corners there are whispers
Of their praise this side the Bar.