Cathlau Bore a Nawn/Nant y Garth
| ← Wrth Fedd Mair Eluned | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Wyt ti'n cofio → |
NANT Y GARTH.
MAE Nant y Garth yn para'r un,
A'i rhodio lawer pryd
Y gwelir eto lanc a bûn,
Ond nid yr un yw'r byd.
Mae'r sycamorwydd heirdd a'r pin
A'r deri'n fwyn eu gwedd,
A'r llawryf glas oddeutu min
Y ffordd yn delwi hedd.
Gwna Mai o hyd y ddraenen wèn
Yn dlos a phêr ei sawr;
A chanu, canu, er dan lèn,
Mae'r ffrwd wrth lifo i lawr.
O Wanwyn ir i Hydref syn
Mor brydferth yw y coed!
A phan â'r Gaeaf trwy y glyn,
Mor ysgafn yw ei droed!
Hyfrytach man o dan y ne'
Nid oes na Nant y Garth.
Paham mae'm llygaid yn y lle
Yn tynnu dirgel darth?
Eis trwyddi ddoe, a'm cymrawd llon
A dybiai 'mod i'n ffri;
Ond llwyd aderyn rhudd ei fron
A gathlai 'nheimlad i.
'Rwy'n caru coed ac adar cân
A ffrydlif Nant y Garth;
Ond hedeg fyn fy meddwl syn
O'r lle i arall barth.
"Tw—hw, tw—hŵ" o'r mud gyhûdd:
Ryw hwyr roes imi fraw—
Yn ateb cri tyllhüan brudd
Y llwyn ger mynwent draw.
A thrist ysguthan ambell hwyr
A glywais ynddi hi
Yn seinio cwyn mewn cydgord llwyr
A chwyn fy nghalon i.
Ai camwedd ydyw cwyno c'yd?
A oes i hirgwyn warth?
Mi garwn fod yn llon o hyd
Yn llonder Nant y Garth.