Cathlau Bore a Nawn/Nel Yr Ynys
| ← Ar lan yr Afon Lonydd | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Llwyd yr Helyg → |
NEL YR YNYS.
UN chwim yw Nel yr Ynys,
A digon ffraeth ei gair;
Hi weithia pan fo galw
Lawn mwy na dwy neu dair.
Ni ŵyr beth yw diogi,
Ni wrendy salwch bach;
A chlo rhag rhith a rhodres
Sydd ar ei chalon iach.
Hi gân wrth fynd i odro,
Hi gân wrth wasgu'r dêth;
A dywed dull y gwartheg
Nad yw ei gwrando'n dreth;
Hi gân ar ol dychwelyd,
Ar hyd y dydd o'r bron;
A thyna pa'm mae'r Ynys
Yn lle mor iach a llon.
Ni rêd pan wêl ddieithriaid
Yn cyrchu at y tŷ:
Mae Nel yn dwt bob amser,
A'i gwallt o'r tlysaf ddu.
Dirgelwch uwch ei ddirnad
I rai sy'n gwisgo'n ddrud
Yw harddwch Nel; a balchder
Sy'n syllu arni'n fud.
Chwi dybiech wrth ei golwg
Na wêl hi ddim o bwys,
Ac wrth ei ffraeth atebiad
Nad all hi deimlo'n ddwys.
Gofynnwch i'r cym'dogion,
Neu i'r amddifad oen,
Neu'r adar at Yr Ynys
Yrr eira, rhew, neu boen.
Mae'r llanciau'n methu deall
Paham mae bûn mor lon
Yn ateb mor ddidaro,
Gan aros llai na'r dòn.
Eu casgliad yw mai bychan
Neu oer ei chariad hi;
Ond arall ydyw syniad
Ednyfed Nant y Lli.