Cathlau Bore a Nawn/O fewn y Cylch
| ← Wyt ti'n cofio | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Y Fioled → |
O FEWN Y CYLCH.
(In Memoriam).
W. H.
URDDASOL ddyn,
A'i eiriau'n gynnil ac yn ddoeth,
A'i drem a'i wên a'i ddull yn goeth,
Fel ef ei hun.
Oedd gyfaill rhydd,
Agorai lawer 'stafell hardd,
Ond safai weithiau i'n gwahardd
I'r gafell gudd.
Yr olaf dro
'Roedd mwy o'i galon yn ei law,
A daeth rhyw gynnes air o'i daw
Nad aiff o'm co'
J. H.
BONEDDWR llon,
Mor rydd ei ffordd, mor rydd ei iaith,
Nes peri ini ambell waith
Ryfygu bron.
Mewn ymgom, pwy
A wnai ddiddanwch gwell ei sawr?
Neu daflai air i dyrfa fawr
O effaith hwy?
Ei dyner wres
A'm tynnai ato'n agos iawn;
Ac os cyfarfod eto gawn,
Mi af yn nes.
M. A.
Ei llawen bryd
A wnai yn oleu'r man lle b'ai,
Ac yn ei gwydd diffaethwch âi
Yn siriol fyd.
Enillodd hi
Y'nghalon pawb a gaffai'r wledd
Am wir ddoniolwch tlws ei wedd
Yr uchaf fri.
Ah! nid oedd dwyll
O dan y ffraeth lawenydd hwn;
A dangos serch yn dwyn ei bwn
Wnai'r prydferth rwyll.
M. A. H.
CYFUNIAD hardd
O londer a thynerwch blydd
Oedd hi, ac o'r hyfrydwch sydd
Yn llenwi gardd.
Fe welsoch chwi
A minnau chwerthin bore clir
O wanwyn ieuanc: felly'n wir
Ei chwerthin hi.
Fe welai pell
Gymdeithion ynddi fwynder tês;
Fe welem ni gaem fynd yn nes
Y pethau gwell.
K. L.
A'i geiriau'n brin,
Mynegai hi ei chalon fwyn
Drwy drem a gwên o ryfedd swyn
Oedd hudol in'.
Ac yn ei thŷ
Perffeithrwydd hardd o wraig a mam,
Oleuai'r lle â nawsaidd fflam
I ninnau, fu.
Ymgomiem ni,
A'i llygaid hithau'n traethu mwy.
O, sawl cyfrinach wen aeth trwy
I'w thrigle hi!
E. L.
CARIADUS wr,
O feddwl glân ac ysbryd pur,
A'i gyfeillgarwch fel y dur,
Heb rith o stŵr.
Ei hoffedd ef
Oedd chwarae dawn, a chyd-fwynhau
Danteithion llên, a llawenhau
Y ffordd i'r nef.
O, eithriad ffrynd!
Pob rhyw ragoriaeth ynddo oedd;
A'm henaid roddodd orddofn floedd
O'i wel'd yn myn'd.
J. E.
YR i'engaf un;
A d'wedai'r awel fwyn ei si,
A phob blodeu'n adwaenwn i,
Mai yr anwylaf ydoedd hi,
O wylaidd lun.
Os gwelai'r swil
Friallen ynddi beth o'i llun,
Yr oedd ei meddwl ar ddi-hûn,
A naturioldeb dawn y fun
Mor bêr a'r dil.
Ehedydd briw
Fu gen' i'n hir; ryw Ebrill ddydd
Fe glywodd lais; ca'dd fyn'd yn rhydd:
Ac felly hi-a'i gwynfyd sydd
I'r riain wiw.