Cathlau Bore a Nawn/Pethau Prydferth
| ← Bwlch Derwin | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Hwiangerdd y Weddw → |
PETHAU PRYDFERTH.
(Cyfieithiad.)
PRYDFERTH wynebau yw'r rhai fedd lun
(Ai tywyll ai goleu, ni waeth pa un)
Trwyadl onestrwydd na wâd ei hun.
Prydferth lygaid—sydd yn ennyn dawr—
Yw'r rheiny sy'n dangos eirias wawr
Prydferth feddyliau losgant i lawr.
Prydferth wefusau yw'r rhai y sydd
A'u geiriau o'r galon yn treiglo 'n rhydd,
Eto dan reol doethineb gudd.
Prydferth ddwylaw yw y rhai yn glir
Wnant waith digellwair, gwrol, a gwir
O awr i awr trwy'r goleuddydd hir.
Prydferth draed yw y rhai a dyn
Cariad i weini ar druain syn—
Hyd yr isaf ffyrdd, os Duw a'i mŷn.
Prydferth ysgwyddau yw'r rhai sy'n dwyn
Beichiau diddiwedd cartref a'i gwyn,
Drwy ddwyfol nerth ac amynedd mwyn.
Prydferth fywydau yw'r rhai bob dydd
Droant yn fendith,-ffrydiau di-ludd
Na ŵyr y llu am eu tarddell gudd.
Prydferth fachludiad y'mrig yr hwyr;
Prydferth gamp, wedi rhedeg di-ŵyr;
Prydferth orphwysdra, 'rol gweithio llwyr.
Prydferth feddau, twmpathog eu llun,
Lle cwymp y dail, lle'r lluwchfa lŷn,
Uwch dwylaw treuliedig-O, brydferth hûn!