Cathlau Bore a Nawn/Plas Eryr
Gwedd
| ← Tipyn o Ymgom | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Marged uch Ifan → |
PLAS ERYR.
NID oes dŷ sydd hoffach man
O dan yr eang wybyr:
I'r ymwelydd ger ei ddrws
Ei groesaw tlws a egyr;
Ac nid oes unlle mwy di lol
A siriol na Phlâs Eryr.
I wneyd y niwliog wedd yn glir
A gwir effeithiol gyffyr;
I foddi holl flinderau'r dydd
Mewn rhydd hyawdledd difyr,
Mae'r dyn doniolaf yn y wlad
Yn siarad ym Mhlas Eryr.
Yma'r myrdd sy'n diodde cam
Gant amddiffyniad pybyr;
Nid oes i'r fan am nawdd a dry
Un dyn yn rhy ddi—ystyr;
Ac nid oes i'r gwenoliaid bach
Le siwrach na Phlâs Eryr.
Tua'r lle o flwydd i flwydd
Cyfeiria llwydd ei ebyr;
A gwenu ar ei fywyd rhydd
Y mae pob dydd a egyr.—
Na ddeued dim i dorri hedd
Na suro gwledd Plâs Eryr.