Cathlau Bore a Nawn/Rhaid iddo Ef gynyddu
Gwedd
| ← Edrych i fyny | Cathlau Bore a Nawn gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
Fel yr Awel → |
RHAID IDDO EF GYNYDDU.
'DOES neb a aiff yn uchel
Heb ganddo uchel nod;
'Does neb na ddarostyngir
A garo hunan-glod.
Mae Un, o edrych arno,
A'i ddilyn bob yr awr,
A'n tywys i uchelder,
Ac i ogoniant mawr.
A dyma iaith y Cristion,
Sy'n dilyn Iesu'n glau,
"Rhaid iddo Ef gynyddu,
A rhaid i mi leihau."