Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Trin yr Ardd

Oddi ar Wicidestun
Dygwyl Dewi Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Ystormus Wynt

TRIN YR ARDD.

DIOLCH am ddydd o ryddid,
Heb neb na dim yn gwahardd,
I 'mollwng i'r hen gelfyddid
A gâr pob hen gyfaill gardd!
Ymaith, ti bin sgrifennu,
Chwi lyfrau, aroswch draw:
Dydd ydyw hwn wedi ei bennu
Yn ddiwrnod y fforch a'r rhaw!

Chwi, sydd a'ch bryd ar ofwyo
Gwychderau y dref neu'r wlad,
Na ddeued dim i andwyo
Eich darlun o lon fwynhad.
Nid wyf yn eiddigeddu
Wrth feddwl am danoch chwi:
Gwelech chwi'r llon gordeddu
Rhwng mwynder fy ngardd a mi!

Gwenu mae'r pridd fu yn cysgu,
O'i ddeffro i newydd waith,—
Boddlon i'w drin a'i addysgu,
A'i arogl yn groesaw llaith;
Gwenu mae'r coed sy'n blaguro,
Gan addaw eu ffrwyth di—glwy',—
Diolch am weled y curo
Ar y chwyn fu'n eu blino hwy.

Pyncio'n foddhaus hyd y brigau
Mae'r adar uwch gweryd ir;
A chwerthin yn swn eu canigau
Mae Ebrill mewn mwynder gwir;
Cyffwrdd fy ngrudd yn chwareuol
Mae ysbryd y Gwanwyn glân;
A dangos eu diamheuol
Foddineb mae'r blodau mân.


Pleser yw'r trin a'r manylu,—
Mwynhad yw'r llafur i gyd;
Yma 'does dim yn cymylu
Ffurfafen fy encil clyd.
Sibrwd o'm cylch mae addewid
Am degwch a llonder Haf;
Melysach na hyn yw'r newid,
A'r gwenau o'r pridd a gaf.

Hawdd ydyw credu ystori
Y bell baradwysaidd ardd:
Beth oedd yn well i ddyddori
Y newydd greadur hardd?
Diolch fod gardd ar y ddaear
O hyd, er y chwyn di—ri';
A diolch am ddyddiau claear
I hudo'i hyfrydwch hi!


Nodiadau

[golygu]