Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Y Brongoch briw

Oddi ar Wicidestun
Meudwy'r Ardd Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Charles Gavan Duffy

Y BRONGOCH BRIW.

Вов у galwn i'r un tirion,
Ac fe hoffai'r enw'n burion.
Llawer wrtho a siaredwn,
Yntau'n gwrando'r hyn a dd'wedwn.

Nid awn byth i'r ardd i balu
Na ddoi ef i wylio'r chwalu.
Weithiau âi i'r goeden gelyn
Am arolwg rhag rhyw elyn.

Ryw ddiwrnod fe ddisgynnodd
O fy mlaen, ac fe'm dychrynnodd.
Ar ei ochr yn brudd gorweddai—
Un goes fuddiol, gyfa, a feddai.

Gyrrodd hyn bob rhyw ofalon
Brithion eraill o fy nghalon:
Rhoiswn lawer iawn am allu
Tynnu Bob o'i boen a'i ballu.

Rhoiswn fwy am allu tynnu
Dyn y dryll yn uwch i fyny.
Rhyfedd yw fod dyn anwiwed,
Allai saethu Bob ddiniwed.


Nodiadau

[golygu]