Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Y Deryn Pur

Oddi ar Wicidestun
Cân yr Eisteddfod Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Gwerddon y Ffridd

Cathlau'r Prydnawn.

Y DERYN PUR.

ADERYN brig y glesni glân,
Mor lân yw'r gân a geni!
O'i wledd i ni is llenni'r llwyn
Hael ydyw'th fwyn felodi.
Nid oes un gwyn o fewn dy fynwes,
Na gelyn gan dy galon gynnes;
Rhyw hwyl dyddorol yw dy ddyri;
I wawr o gariad pur agori.
O gantor llon, i'n hudo ni
Dal, aros i delori!

Yn llys y dail arllwysi di
Win alaw i'th anwylyd;
A llawen wyt o'i llonni hi,
Ac eilio'i bri a'i golud.
Gywired wyt o gariad ati
I ddal yn nodded ffyddlon iddi!
I hon y gloywi ddawn i'w glywed,
I hon dy galon wnaed i'w gweled.
Aderyn pur mor lwysbur lŷn,
Na lynai dyn ffyddloned!


Nodiadau

[golygu]