Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Y Rhosyn Du

Oddi ar Wicidestun
Dros y Ffin Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Llanycil

ROSYN gwyllt fy nghalon i,
Rosyn Du, Rosyn Du,
Pa'm y rhaid ein hysgar ni,
Rosyn Du?
Cwrdd i 'mado maes o law?
Ai am nad oes i ni fraw
Yn y gwynt nac yn y glaw?
Am y carwn boen pan ddaw,
Rosyn Du?

Rosyn gwyllt fy nghalon i,
Rosyn Du, Rosyn Du,
Lle b'wyf fi fe'th welir di,
Rosyn Du!
Deued haf,—aed heibio'n chwai,
Deued glaw, neu eira crai,
Deued llanw, deued trai,
Ti o hyd fy nghwmni gai,
Rosyn Du.


Rosyn gwyllt fy nghalon i,
Rosyn Du, Rosyn Du, . . .
Saeth gudd amser, parod hi,
Rosyn Du!
Beth am hyn, O dlws fy mron,
Gan nad y'm ond megis tonn,
Gan nad ydyw cariad llon.
I ni ond fel y 'storom hon,
Rosyn Du.


Nodiadau

[golygu]
  1. NODIAD—Yr oedd y llenor coeth a melys William Sharp—ag y tynnodd ei ganeuon tyner dan gudd yr enw benywaidd prydferth "Fiona Macleod" gymaint o sylw—yn teimlo ei fod yn agos i ddiwedd y daith pan wnaeth efe y gân fach hon; ac felly yr ydoedd. Gwerthfawr yn fy ngolwg yw y llythyr cynnes a gefais oddiwrtho pan ofynnais am ganiatad i gyhoeddi'r cyfieithiad. Nis gwn yn iawn pa flodeuyn a eilw Celtiaid Ucheldiroedd yr Alban yn "Ròseen Dhu."