Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Y ddwy Chwaer

Oddi ar Wicidestun
Y Gân o Hedd Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Difyr sôn am Gyfaill gynt

Y DDWY CHWAER.
(Lled-gyfieithiad o J. G. Whittier.)

ENID a Gwladus, ddwy chwaer dlos,
Ddeffroent yn swn trwm wlaw y nos,
Rhuthriad y gwynt, a rhuad bàn
Donnau wrth ddringo'r greigiog lan.

O'i gwely cyfododd Enid gu,
A thremiodd allan i'r storom ddu.

"Ust! O, gwrando!" sibrydai'n daer,
Glywi di ddim, fy anwyl chwaer?"

"Mi glywaf y môr, a thrwst y glaw,
A rhuad y dymestl erwin draw.

Tyr'd yn ol i'r gwely, ar nos mor ddu:
Pa les yw gwylio'r ystorm a'i rhu?

Beth yw i ti fod y nen wedi duo,
Y gwynt yn brochi, a'r tonnau'n rhuo?

'Does neb a'th gâr ar y wallgof dòn
I fethu'r porthladd ar nos fel hon."

"Ond mi glywais lais-a'm henwi wnaeth:
I fyny o'r môr ar y gwynt y daeth.

Dwywaith a theirgwaith y clywais hyn—
A'r llais yw llais Ednyfed Wyn."

Y chwaer yn y gwely ddirmygai'i chri,
"Mae Ednyfed Yr Heron' yn sâff," medd hi.

"Yn y sgwner gadarnaf a nofiodd för
Mae wedi angori gerllaw Greenore.


A phe ym mheryglon brochwyllt li,
Neu greigiog làn, a alwai di?"

Ai ni chlywai'r fun ond y gwynt a'r lli?—
Gan blethu ei dwylaw'n dynn, medd hi:—

"O, Gwladus anwyl, mae drwg yn bod!
Fe'i clywaf eto, yn uwch yn d'od.

Enid! Enid!' yw'r seiniau syn—
A'r llais yw llais Ednyfed Wyn."

"Taw!" eb yr hynaf, tra'n neidio'n syth,
"Ni alwai Ednyfed dy enw byth.

Pe gwnaethai, tynghedwn y gwynt a'r lli
I'w gadw fo byth rhagot ti a fi."

Bryd hyn rhoes y 'storm ofnadwy floedd,
A swn fel rhyw gri angeuol oedd.

Enid ollyngodd ochenaid wan;
Ond yn ei threm 'roedd rhyw oleu càn—

Goleuni'r serch yn ei mynwes brudd,
A fynnai'n awr lefaru'n rhydd.

"Anwylaf un," sibrydai'n anghlir,
Bywyd oedd gelwydd: marw sydd wir!

Y cariad a gelais, ffyddlon fydd,
A chaiff bellach fyw yng ngolau dydd.

Fy nghlust ni wrendy gynygiad llanc;
Ni chyffyrdd gwefus fy min hyd dranc!

I ti'n gysegredig i f'olaf awr—
Tydi yn y nef a minnau i lawr."


Wrth wely ei chwaer dywedai'n brudd,
"Ednyfed Yr Heron' yn farw sydd!

Eu gwaetha' gyflawnodd y gwynt a'r dòn:
Nis gwelwn ef mwy ar y ddaear hon.

Ychydig a deimla dy galon di:
Ni charai ef fel y'i carai f'un i.

Pe'r llanc yn fyw, er ei fwyn gall'swn i
Hemio dy wisg briodasol di—

Er i ddwylo grynnu a dagrau ffoi,
A phwyth am bwyth yn fy mron gael ei roi.

Ond yn awr, er gwaethaf y gwynt a'r lli,
Fy enaid â'i enaid briodaf i—
Y byw i Gwladus, a'r marw i mi."


Nodiadau

[golygu]