Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Yr Hafaidd Nos

Oddi ar Wicidestun
Elsie'r Glyn Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Dygwyl Dewi

YR HAFAIDD NOS.

O! FALMAIDD hafaidd hwyr,
Distawodd byd yn llwyr
I wrando'th süon di.
Y grwydrol chwâ lesgâ i gwsg
Dan swyn aroglau rhôs a mwsg,
A huno bron mae swn y lli.

Swil adar cudd y gwair a'r ŷd,
Eu seiniau hwy sydd swyn a hud
O dan dy esmwyth aden di.
Na thorred sain, O dyner nos,
Ar ysgafn hûn Aurora dlos:
Rhy fyrr, rhy fyrr ei chyntun hi!

O! dawel nos o haf,
Dy falm lonyddo'r claf,
Dy süon leddfo'i loes.
Na wyped cwsg y gweithiwr blin—
Y cwsg a ŵyr dy rywiog rin—
A:r fore dydd mor ferr dy oes!


Nodiadau

[golygu]