Neidio i'r cynnwys

Cathlau Bore a Nawn/Yr anwyl Eneth

Oddi ar Wicidestun
Dafydd Grwydryn Cathlau Bore a Nawn

gan Owen Griffith Owen (Alafon)

Mae rhan o'r Lloer o'r golwg

YR ANWYL ENETH.
(Nis gwn ai cyfieithiad, ai beth.)

DAN awyr glir Virginia dlos.
Mi gwrddais fûn mor ddifeth,—
Dwy wefus dyner fel y rhôs
Oedd gan yr anwyl, anwyl eneth.
Ei thonnog wallt, ei llygaid llon,
A'i deurudd gwridog, tirion,
A barent im' lesmeirio bron,
A theimlo'n fwy na hanner gwirion.

O flaen y rhyfel, flwyddi'n ol
(Mi gofia'r dydd drwy bobpeth),
Y deuais i, yn Ílencyn ffol,
I gwrdd yr anwyl, anwyl eneth.
Mae'n debyg fod rhyw lanc o nod
Cyn heddyw wedi ei hennill,
Ac na chaf fi ond seinio'i chlod
A dweyd fy nghwyn mewn gwirion bennill.

Tra byddo bywyd yn fy nghof
A churiad yn fy nghalon,
Mi gofia'r eneth lon, a rhof
Fawrhad i'w hanwyl, anwyl swynion.
Os na ddaw'r feinir hoff ei hun
Yn drysor i fy mynwes,
O fewn fy nghalon bydd ei llun,
A lle i hon hyd angau'n gynnes.


Nodiadau

[golygu]