Neidio i'r cynnwys

Ceir dihangfa rhag marwolaeth

Oddi ar Wicidestun
Eheded iechydwriaeth Ceir dihangfa rhag marwolaeth

gan William Williams (Caledfryn)

Pam, O! pam, bechadur cyndyn
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

302[1] Trwy Waed yr Oen.
84. 84. 8884.

1 CEIR dihangfa rhag marwolaeth
Trwy waed yr Oen;
Nid oes ffordd o waredigaeth
Ond gwaed yr Oen;
Gwelir miloedd wedi eu golchi
Draw yn glanio ar dir goleuni,
Heb frycheuyn, chwaith na chrychni,
Trwy waed yr Oen.

2 Fe agorwyd ffordd gyfreithlon
Trwy waed yr Oen,
I ryddhau troseddwyr caethion,
Trwy waed yr Oen;
Haleliwia byth heb dewi
Fydd y gân yng ngwlad goleuni,
Gan y dyrfa ddirifedi,
Am waed yr Oen.

3 Wedi cael eu gynau'n wynion,
Trwy waed yr Oen,
Cael yr hedd, y wledd, a'r goron,
Trwy waed yr Oen,
Peraidd bynciant Haleliwia
Am yr Iawn roed ar Galfaria:
Cofiant byth am eu dihangfa
Trwy waed yr Oen.

William Williams (Caledfryn)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 302, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930