Ceiriog (Darlith y BBC 1939)/Y Ddarlith
| ← | Ceiriog (Darlith y BBC 1939) gan William John Gruffydd (1881-1954) |
→ |
CEIRIOG
Pe bai rhywun yn gofyn inni roddi prawf o bwysigrwydd Ceiriog ym mywyd Cymru, un o'r pethau cyntaf a ddeuai i'n meddwl fyddai'r cyfnewid mawr sydd wedi bod fwy nag unwaith yn syniadau'r Cymry amdano. Ni wn am yr un bardd Cymreig a fu'n achos cymaint o ddadlau am ei werth, na'r un bardd Cymreig diweddar sydd yn ddigon pwysig i'r beirdd ieuainc i ennill tipyn o hynodrwydd iddynt eu hunain drwy ei wneuthur yn gocyn hitio. Pan oedd Ceiriog yn dechrau ar ei yrfa, tybiai ei gyfoeswyr am ei ganeuon na bu dim erioed mor annhebyg i'r hyn a dybient hwy yn farddoniaeth. Yr oedd yn naturiol, efallai, i John Roberts, Conwy, yn y Cronicl, ymosod yn chwerw arno, gan fod Ceiriog ei hunan wedi bod yn rhemp o annheg ac o gïaidd at ei frawd, Samuel Roberts; ond am y rhan fwyaf o'i feirniaid, nid oedd ganddynt yr un esgus i gyfrif am eu dirmyg tuag ato ond anwybodaeth a diffyg chwaeth.
Aeth cyfnod y dibristod hwn heibio yn fuan, ac o adeg ei farw ymlaen hyd y Rhyfel Mawr yr oedd bri Ceiriog ar ei eithaf.
Yng ngolwg llawer o'i gydwladwyr, ef oedd bardd mwyaf Cymru er amser Dafydd ap Gwilym, a phrawf bod ei boblogrwydd yn wirioneddol ac nid yn beth ffasiynol oedd hyn,—bod y naill fardd ieuanc ar ôl y llall yn yr oes honno yn ail ddarganfod Ceiriog drosto 'i hun, ac yn cael ysbrydoliaeth ac awen i ddechrau canu, fel y caiff beirdd heddiw ysbrydoliaeth yng ngwaith Williams Parry a Gwynn Jones. Credaf fod Elfed ac Eifion Wyn yn engreifftiau o ddau fardd a gychwynnwyd ar eu gyrfa gan gyfaredd yr unig delynegwr gwirioneddol a gynhyrchwyd yn rhan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn ein hoes ni, y mae'r olwyn wedi rhoddi tro crwn eto, ac, fel y dywedais, mae beirdd ieuainc heddiw yn paratôi at frwydr bywyd drwy hogi eu cleddyfau ar garreg fedd Ceiriog. Nid wyf yn beio dim arnynt am hynny,—gwneuthum innau yr un peth fy hunan. Ond y mae gennyf i hawl i un hynodrwydd,—nid oedd neb wedi gwneud hynny o'm blaen.
Wrth gwrs, gwaith ofer fyddai i neb sydd yn gymwys ac yn onest yn ei feirniadaeth lenyddol geisio amddiffyn Ceiriog yn erbyn llawer o'r cyhuddiadau a ddygir yn ei erbyn. Fel y cawn weld efallai, y mae peth o'i waith na ddaw byth yn ôl i ennill ffafr y Cymry diwylliedig. Ond nid fy amcan yw sôn am y rhan hon o waith Ceiriog, ond yn hytrach geisio galw sylw'r rhai sydd yn fy ngwrando at ei wir ragoriaethau, ac efallai awgrymu iddynt resymau newyddion i gadarnhau eu hedmygedd ohono.
Yn y lle cyntaf, dylem gofio mai canu i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd Ceiriog, ac mai o ganol bywyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg y tyfodd ei ddawn. Er y dylai bardd mawr godi uwchlaw rhagfarnau ei genhedlaeth, a sarnu ar y pethau sydd fwyaf diwerth yn ei oes ei hun, eto ni ellir disgwyl i'r un bardd godi uwchlaw'r rhan honno o ymwybyddiaeth ei genhedlaeth sydd yn dibynnu ar gynnydd gwybodaeth ac ar y cyfanswm o olau a diwylliant sydd gan ei gyd-genedl yn gyffredinol. Am hynny, am mai canu i gynulleidfa y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr ydoedd, ac mai offeryn wedi ei lunio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd ei delyn, ni ddylem ddisgwyl clywed arni alawon sydd uwchlaw amgyffred ei wrandawyr, ac ni ddylem chwaith ofyn am berfformiad rhagorach nag y gall neb ei roddi ar y cyfryw offeryn ag sydd ganddo. Mae condemnio Ceiriog am fod ynddo wendidau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg mor ddireswm â beio Tennyson am fod yn "Victorian." Ond un peth y mae gennym hawl i'w farnu, sef awen a medr y gŵr sydd yn canu'r delyn, canys y mae'r rhain yn annibynnol ar amser a lle. Ac wrth y safon hwn rhaid rhoi Ceiriog ymhlith beirdd mwyaf Cymru, ond ni wnawn chwarae teg â'i fawredd oni allwn hefyd wahanu'r gwenith sydd yn ei waith oddi wrth yr efrau.
Pan ddechreuodd Ceiriog ganu ym Manceinion ym mlynyddoedd canol y ganrif ddiwethaf yr oedd barddoniaeth delynegol Cymru, ac yn wir holl farddoniaeth y mesurau rhyddion, ym mhwynt isaf ei hanes. Nid oedd yr un telynegwr wedi codi i ganu yn y mesurau rhyddion ar ôl Ieuan Glan Geirionydd; mae'n wir nad arllwyswyd erioed ar y wlad y fath swm enfawr o'r hyn a elwid yn farddoniaeth, ond yr oedd chwaeth y genedl wedi ei foddi o dan y dilyw enbyd hwn. Yr oedd llenyddiaeth wedi myned i law urdd arbennig o ysgrifenwyr, y bardd-bregethwyr, a chelfyddyd y llenor a'r bardd wedi ei gostwng i fod yn llaw-forwyn i syniadau'r oes am foesau a chrefydd. Ac yn waeth na'r cwbl, yr oedd mympwyon am iaith a gramadeg yn chwilenna trwy ben yr ysgrifenwyr hyn; mewn gair, yr oedd pob safon ar awen ac iaith a fu erioed yng Nghymru wedi ei anghofio. Os rhaid cael gair i ddisgrifio sylwedd a ffurf ein llenyddiaeth tua'r amser hwn, ni wn i am well gair na therm yr Eifftegwyr, "debased hieratic," ffurf isel ar ddull offeiriadol o ysgrifennu. Wel, peth hawdd yw i ni heddiw ganfod tlodi'r blynyddoedd hynny, ond pe buasem ni'n byw yn yr oes honno nid yw'n debyg y buasem ni na neb o'r rhai sydd erbyn heddiw yn ddigon iach eu barn lenyddol yn gallu cynhyrchu barddoniaeth a fyddai'n ddim gwell. A dyma'r gwahaniaeth rhwng Ceiriog ac ymhonwyr llenyddol ei oes,—er mai yng nghanol y diffeithwch hwn y deffrowyd ei awen gyntaf, yr oedd ynddo ddigon o wroldeb ac annibyniaeth chwaeth i ymwrthod â'r rhan fwyaf o safonau ei oes. Os craffwn ar ei ddatblygiad yn ei flynyddoedd cyntaf gwelwn ynddo ryw fath o ddiniweidrwydd llenyddol hoffus iawn; yr oedd fel pe na bai'n gwybod dim ar y dechrau am ffasiwn yr oes mewn llenyddiaeth, ac fel y bydd ambell ferch dlawd o'r wlad, am nad yw yn gwybod y ffasiwn, yn ymddangos yng nghanol gwychder y cyfoethogion yn fwy chwaethus oherwydd symledd ei gwisg,—felly yr oedd Ceiriog hefyd. Nid oedd yn gwybod am y crandrwydd gwneud ofnadwy a dderbynnid fel gwisg i farddoniaeth yn yr oes honno, onid e efallai y buasai ef ei hun ar y dechrau cyn waethed â'r un ohonynt. Hogyn o'r wlad ydoedd wedi ei fagu yn Llanarmon, yn un o unigeddau mwyaf anghysbell Cymru, ac yn perthyn i enwad bychan distadl y Bedyddwyr Albanaidd, ac yr oedd llifeiriant llenyddol ei oes ef yn rhedeg drwy gymoedd nad oedd ef erioed wedi ymweled â hwy. Mewn gair, yr oedd Ceiriog yn byw'n ddigon pell oddi wrth ffasiynau Cymru i dybio bod yr awgrym cartrefol sydd mewn geiriau cynefin yn ddigon i gynhyrchu telyneg; yr oedd yn ddigon diniwed i feddwl bod rhediad melys y mydr a llyfnder y seiniau yn ddigonol, heb ymdrafferthu i geisio gwthio sylwedd y Deg Gorchymyn neu Athrawiaeth yr Iawn i'w ganu. Yr oedd wedi ei drwytho yn yr hen emynau, ac yr oedd yn ddigon gwreiddiol hefyd i feddwl mai ei ddyletswydd oedd ail-gynhyrchu yn y canu seciwlaraidd yr un ysmudiadau ag a gynhyrchodd Williams Pant-y-celyn ac eraill yn eu hemynau, ac ar yr un pryd gadw ei ganeuon allan o faes cyfreithlon yr emyn. Yn 1856 yn ei Fugeilgerdd gynnar, "Owain Wyn," y mae'n canu llinellau fel hyn:
Hen fynyddoedd fy mabandod,
Syllant eto ger fy mron,
Wele fi yn ail gyfarfod
Gyda'r ardal dawel hon.
Pennill yw hwn, er mor wanllyd ydyw, na allasai neb ei ganu ond un â sŵn telyn Pant-y-celyn yn tiwnio drwy ei enaid, a'i glustiau wedi eu cau'n dynn rhag gwrando ar ddrycsain y beirdd cyfoes. Erbyn iddo ddechrau sylwi ar y byd a dyfod yn fwy cymhleth yn ei feddyliau, yr oedd ei ddiniweidrwydd cyntefig wedi rhoddi argraff ar ei waith nas dileid byth, a phan ganodd "Alun Mabon" a "Myfanwy Fychan " ymhen blynyddoedd ar ôl iddo adael cyf yngder Llanarmon a gweled symudiadau'r byd mawr oddi allan, gwnaeth rywbeth a gloddiodd dan sail yr hen farddoniaeth offeiriadol—y "debased hieratic." Yr oedd Ceiriog, trwy ddamwain megis, wedi darganfod yr un gwirionedd ag a ddarganfu Wordsworth a Coleridge trwy ddysg hanner can mlynedd o'i flaen. O'i deimladau ei hun nyddodd allan syniad a oedd yn newydd i Gymru am farddoniaeth, sef mai yn y pethau cartrefol cynefin agos-atom y mae annedd yr awen. Erbyn heddiw y mae llawer yn ymorchestu i wrthbrofi'r syniad hwn, ac yn wir y mae'n haws o lawer iawn mewn traethawd beirniadol siarad yn ei erbyn nag o'i blaid. Ond er hynny, y gwir yw mai cynhyrfydd yr awen yng Ngheiriog, pan oedd ar ei orau, oedd yr hyn y buasai Wordsworth yn ei alw yn atgof mewn tawelwch am gynhyrfiadau syml ac anghymleth yr amser a fu gynt. Mewn geiriau eraill, awen alltud oedd awen Ceiriog; awen y Cymro oddi cartref gyda holl wendidau yn ogystal â rhinweddau'r math hwnnw o ddyn.
Rhaid imi yn awr bwysleisio'n arbennig nad bwrw anfri ar ansawdd ei waith yr wyf wrth ddywedyd hyn amdano, ond ceisio dangos i'm gwrandawyr mai dyn yn canu am Gymru allan o Gymru oedd Ceiriog, dyn yng nghanol ei hiraeth ym Manceinion yn edrych yn ôl at olygfeydd a phrofiadau ei ieuenctid, ac yn cael ei wefreiddio gan ei hiraeth i droi gwrthrychau'r hiraeth hwnnw yn brydyddiaeth. Y gwir a ddywedodd amdano ei hun:
Mab y mynydd ydwyf innau
Oddi cartref yn gwneud cân.
Gwyddom oll mai un o eiriau mawr y ffasiwn ddiweddaraf mewn beirniadaeth lenyddol yw "nostalgia," ond yr oedd y Cymry'n ymglywed â'r peth ymhell cyn i'w enw ddyfod yn boblogaidd ymhlith cenhedloedd mwy, ac y mae ganddynt air amdano nad oes gan neb arall, sef Hiraeth. Wel, hiraeth am yr hen fywyd Cymreig, yr hen fywyd sydd, oherwydd newid lle neu newid amser, wedi dianc o'i afael, dyma yw ysgogydd holl ganu gorau Ceiriog. Pan ddaeth yn ôl i fyw i Gymru, nid oedd yr atgof am Lanarmon wledig nag am grefydd y Bedyddwyr Albanaidd yn cynhyrfu llawn cymaint arno, canys yr oedd wedi peidio â bod yn alltud; ac wrth beidio â bod yn alltud, peidiodd hefyd â chanu.
Pe bai amser byddai'n ddiddorol myned ar ôl un o nodweddion eraill "cân yr alltud," sef ei harddull, neu'n hytrach, ei chywair mynegiadol. Sylwch ar gywyddau Goronwy Owen. Cadernid yw nodwedd y rhan fwyaf ohonynt, ond yn ei ddau gywydd Hiraeth am Fôn y mae'r nodyn melys telynegol yn swnio'n uwch na'r un arall. Mae'n arwyddocaol mai yn nosbarth "cân yr alltud" y mae un o'r emynau mwyaf melodaidd yn yr iaith Gymraeg, a Cheiriog yw ei awdur. Meddyliwch yn gyntaf am y Salm enwog Ar lan afonydd Babilon, ac, am y tro, ni gymerwn arall-eiriad campus Huw Myfyr ohoni :
Ar lan afonydd Babel
Eisteddem oll yn syn,
A'n dagrau'n cyd-lifeirio
Wrth gofio Seion fryn...
Wel, yn yr un mesur, yn yr un cywair, a chyda'r un effaith ddwys ar y meddwl y mae emyn Ceiriog:
'Rwy'n llefain o'r anialwch
Am byrth fy ninas wiw,
Jeriwsalem fy nghartref,
Jeriwsalem fy Nuw.
Pa bryd y caiff fy llygaid,
Pa bryd y caiff fy mhen
Ymagor ac ymorffwys
Ym mro Caersalem wen?
Peth hawdd yw bod yn ddwys ac yn delynegol am Seion "ar lan afonydd Babel," ond nid mor hawdd canu amdani cyn felysed pan ddown yn ôl i'w heolydd hi.
Yn y cysylltiad hwn y mae'r feirniadaeth lymaf efallai a ellir ei rhoddi ar delynegion Ceiriog, sef hyn,—nid yng Nghymru fel y mae, fel cenedl a gwlad a chymdeithas, yr oedd ei ddiddordeb, ond mewn rhyw Gymru ledrithiol a grewyd gan ei ddychymyg ei hun allan o'i "nostalgia," allan o hiraeth yr alltud yn Lloegr. Am hynny, ni cheir yn ei waith ddim ymdeimlad â bywyd cyfamserol Cymru na dim diddordeb yn nhynged Cymru ymhlith y cenhedloedd. I Geiriog y mae Cymru yn debyg iawn i'r darlun a dynnodd ef o'i fam. A barnu oddi wrth y cwbl a ddywed amdani, prif rinwedd bywyd ei fam oedd ei bod hi yn gallu tywallt dagrau dros ei mab pan oedd ef yn gadael ei gartref. A ydyw hyn, meddwch, yn profi bychander Ceiriog fel bardd? Nac ydyw yn bendifaddau, ond yn hytrach gellid dadlau'r gwrthwyneb, oherwydd gallodd Ceiriog greu corff o delynegion o'r radd flaenaf ar waethaf bod ynddynt lai o gynnwys mewnol na gwaith yr un bardd arall yng Nghymru. Unwaith yn unig y cynhyrfwyd ef i ddangos bod ganddo rywbeth mwy na hiraeth yn deimlad at ei wlad ei hun, sef yn y gân "Carnfradwyr ein Gwlad " yn condemnio Brad y Llyfrau Gleision, a rhaid rhestru hon yn nosbarth cyntaf ei waith.
Credaf mai seicolegol yw'r esboniad ar yr ansawdd arbennig hon yn ei brydyddiaeth. Pan oedd yn canu ym Manceinion, yr oedd yn ceisio gwneud iawn am ei ddiffygion ei hun fel gwladwr pan oedd yn helpu ei dad ar y fferm yn Llanarmon. Fel pawb ohonom pan fydd yr ymdeimlad o ffaeledd wedi suddo i'n is-ymwybod, yr oedd mewn breuddwydion yn gwneuthur iawn am ei ddiffyg mewn gweithredoedd ac er mor galed yr ymadrodd, gwyddom bod hyn yn ddiffiniad teg o ran fawr o lenyddiaeth y byd. Breuddwyd yr artist, ym mhob un o'r celfyddydau, yw ei waith,—breuddwyd lle y gwêl y perffeithrwydd a gollwyd neu'r cariad a wrthodwyd. Yn ôl pob tystiolaeth yr oedd bywyd y fferm yn ddiflas gan Geiriog, ac nid oedd ganddo ddawn na medr at y gwaith. Yn un o'i awdlau cynnar y mae'n mynegi'n ddiamwys ei brofiad ei hun yn ei ddisgrifiad o'r morwr. Dyma un englyn o'r awdl honno, sydd yn rhoi rhesymau paham y gadawodd yr arwr ei gartref i fyned i'r môr:
Druan gŵr ni fedrwn gau—ar ochor
Y gwrychoedd a'r cloddiau;
Aethus sôn, mi fethais hau
A ffaeliais drin ceffylau.
"Ni fedrwn," "methais," ffaeliais,"—dyma brofiad y gŵr a gyhoeddodd mor glir yn "Alun Mabon" berffeithrwydd delfrydol bywyd y gwladwr. Yr oedd bryd y morwr yn yr awdl wedi ei hoelio ar anturiaethau yn y byd mawr ymhell o'i gartref gwledig; i Geiriog yntau hefyd, Manceinion, Llundain, Lerpwl, oedd Singapôr, Valparaiso, a Samarcand ei freuddwydion cynnar. Ac yr oedd ei fywyd yn ddiweddarach yn ddarlun perffaith bron o'r hyn a wyddom am yrfa dynion y môr, canys ar ôl sylweddoli'r breuddwyd a chael ar y tonnau y rhyddid agored yr hiraethasant amdano, buan iawn y try eu hysbryd i ddyheu am yr hen fywyd cynefin gartref ; awydd gorthrechol am gael "job ar y lan" yw nodwedd pob morwr y cyfarfûm i ag ef erioed. Mewn amser caiff rhai ohonynt y "job" honno y soniasant cyhyd amdani, ond wedi ei chael ni allant byth ymfodloni ac ymsefydlu yng nghanol cymdeithas ddi-anturiaeth a di-sbonc y lan. Cafodd Ceiriog yntau sylweddoli'r dyhead sydd yn ei ganeuon, cafodd ddyfod yn ôl i Gymru yn was i'r ffordd haearn newydd yr oedd Dafydd Davies, Llandinam, wedi ei gwthio trwy Gymru. Ond ni allodd y breuddwydiwr setlo i lawr i fyw bywyd parchus Caersws a Llanidloes. Tynged yr hen forwr oedd ei dynged yntau.
Dywedais ddigon i ddangos mai rhyw wlad ledrithiol ansylweddol oedd y Gymru y cân amdani, ac mae'n werth inni sylwi ymhellach mai ffrwyth anwybodaeth Ceiriog o ffeithiau llenyddol y byd yw "Alun Mabon " ond nid yw'r gân i'w bychanu am mai ffrwyth anwybodaeth ydoedd. Pan gynigiwyd gwobr yn Eisteddfod Merthyr yn 1856 am Fugeilgerdd, mae'n sicr mai cael cerdd debyg i fugeilgerddi Edward Richard oedd amcan y pwyllgor, cerddi yn yr hen draddodiad a oedd wedi para mewn llenyddiaeth o amser Theocritus a Fersil, ond ni chlywsai Ceiriog am yr un o'r rhain, ac y mae'n ddigon posibl na ddarllenasai yr un o fugeilgerddi Edward Richard. Tybiodd gan hynny mai ystyr bugeilgerdd" oedd cerdd ramantus yn disgrifio bywyd y bugail, a chanodd "Owain Wyn," ac "Alun Mabon " wedi hynny, dan ddylanwad y dybiaeth hon. Camgymeriad ydoedd, ond camgymeriad a ddug ffrwyth gwerthfawr iawn yn hanes llenyddiaeth Cymru, canys o'r camgymeriad hwnnw y tyfodd nid yn unig "Alun Mabon" ond cerddi gorau Eifion Wyn,—"Mab y Mynydd," "Cwm Pennant," a llawer eraill, heb sôn am yr adlewyrch swynol o'r traddodiad bugeiliol hwn sydd yng nghaneuon rhai beirdd diweddarach fel Crwys. Mae'n wir bod y ffynhonnell hon i awen y beirdd Cymreig wedi myned yn hesb erbyn heddiw, ac mai cymhellion eraill mwy astrus a chymhleth a gynhyrchodd brydyddiaeth Gwynn Jones, Williams Parry, a Parry-Williams, ond er hynny, ochr yn ochr â hunan-ymholi Parry-Williams, rhwysg a mawrhydi Gwynn Jones, dychymyg gwelediadol Williams Parry, rhaid inni osod hefyd symledd ac an-hunan-ymwybod Ceiriog.
Wrth sôn fel hyn am ryw Gymru ledrithiol nad oedd yn bod o gwbl ond yn ei ffansi hiraethus ei hun, yr oedd yn naturiol i Geiriog gwympo i fai parotaf y lledrithwyr, sef sentimentaliaeth, ac yn sicr dyma'r cyhuddiad gwaethaf a ellir ei ddwyn yn ei erbyn. Yn ei oes ei hun, ac am hir amser wedyn, nid oedd neb yn gweled dim o'i le yn y sentimentaliaeth blentynnaidd sydd yn "Beth yw cariad," "Wyt ti'n cofio'r lloer yn codi," a "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," oherwydd nid oedd y genedl Gymreig wedi ymarfer â barddoniaeth delynegol o radd uwch na hyn, er y dylasai urddas chwaethus ein hemynau fod wedi creu safonau amgen iddi. Ond rywsut neu'i gilydd yr oedd y ddeuoliaeth a oedd ym mywyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn rhywstro i'r Cymry ganfod mai'r emynau oedd ffrwyth godidocaf yr awen delynegol yn eu hamser hwy eu hunain. Yr oedd cenhedlaeth Ceiriog yn derbyn yn awchus ei ganeuon salaf fel ei bethau gorau, ac ar yr un pryd yr oedd llawer ohonynt yn amheus iawn o'r hyn a alwent hwy yn "ddiffyg chwaeth " yng ngwaith Ceiriog. I'r oes honno "bod yn ddi-chwaeth" oedd sôn am bethau anfonheddig; bod yn ddi-chwaeth oedd i ddyn fyned i'r parlwr, megis, yn ei ddillad gwaith, ac mewn llenyddiaeth, nid oedd dillad gwaith a llaid a chwys y bywyd beunyddiol yn bethau chwaethus. Ffordd arall yn yr oes honno o fod yn ddi-chwaeth oedd bod yn ddigrif, a chan fod Ceiriog nid yn unig yn sôn am bethau cyffredin fel ffeiriau a ffyrdd haearn yn "Ifan Benwan" a chaneuon eraill, ond hefyd yn goganu bocsach a gwynt yn "Syr Meurig Grynswth," cyhuddwyd ef gan ei gyfoeswyr o fod yn ddi-chwaeth; dyma yw baich beirniadaeth John Roberts, Conwy, er enghraifft, arno. Ond pe na allwn wneuthur dim arall yn y sylwadau hyn, rhaid imi yn awr aros i brotestio gyda phob pwyslais sydd gennyf yn erbyn y farn gyfoes am chwaeth Ceiriog, ac yn erbyn llawer o'r un rhagfarn sydd yn para'n fyw ymhlith y rhai mwyaf anniwylliedig. Od oes diffyg chwaeth o gwbl yn ei waith, yn y caneuon hynny fel "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon " a edmygid gymaint gan ei gyd-genedl y mae'r diffyg hwn, ac nid oes yn "Ifan Benwan " a "John yn mynd i Loegr " a "Syr Meurig Grynswth " rithyn o ddiffyg yn ei chwaeth. Y mae'r rhain ar y cyfan yn gampus ac i'w rhestru fel gwaith sydd nid yn unig yn nodweddiadol o awen Ceiriog ar ei gorau, ond yn gyfraniad pwysig i'r syniadau newydd a oedd yn dechrau dyfod i brydyddiaeth ac i feirniadaeth lenyddol yng Nghymru. Dylem dalu teyrnged arbennig i goffa Ceiriog am iddo roddi gwerth newydd ar ddidwylledd a difrifwch amcan; ac yn ei ganeuon ysgaifn y mae'r enghreifftiau gorau o'r rhinweddau hyn.
Y mae gwendid arall yn ei ganu sydd yn perthyn yn agos i sentimentaliaeth ei ganeuon salaf, ond efallai nad diffyg chwaeth yw'r enw iawn i roddi ar hwn. Yn ddiweddar y mae wedi tyfu'n ffasiwn lenyddol gan rai fwrw sneer ar bobl sydd yn gwybod mwy na hwy eu hunain, ac i groesawu rhywbeth a elwir yn ddiwylliant "gwerinol" fel pe buasai'n angenrheidiol ragorach oherwydd ei fod yn werinol, ond nid wyf yn ymesgusodi am ddywedyd mai diffyg diwylliant yng Ngheiriog sydd yn cyfrif am lawer o wendidau'r gerdd ragorol honno, "Myfanwy Fychan." Yn y cyfansoddiadau eisteddfodol diweddar cafwyd digon, hyd at alaru, o fyneich a lleianod, a marchogion, a thuser, a sawyr. Wel, gwendid Ceiriog yw yr hyn. sydd yn hollol wrthgyferbyniol i'r chwiw hwn, sef tybio am dywysogion a thywysogesau 'r bedwaredd ganrif ar ddeg mai pobl oeddynt yn ymddwyn (yn ddigon gweddus, mae'n wir), fel pe baent mewn picnic Ysgol Sul neu yng nghwrdd clebran y Gymdeithas Lenyddol; ac am fardd fel Hywel ab Einion fel pe bai'n aelod o'r Orsedd ac yn ymhyfrydu yn y taeogrwydd hwnnw na allaf ei ddynodi'n well na thrwy ei alw yn hwyl "Ni'r Beirdd." Yn hyn mae "Myfanwy Fychan" yn wir boenus; nid oes yn yr holl gân gymaint ag awgrym o'r hyn a oedd ardderchog a lliwgar ym mywyd yr oes honno; y mae Hywel a Myfanwy yn siarad ac yn caru nid fel penceirddiaid a thywysogesau, ond fel siopwyr a morynion ym Man- ceinion. Eto i gyd, ni synnwn ddim pe gwelwn ysgol o feirniadaeth yn codi a fydd, â holl glyfrwch difrifol dynion ieuainc yn cyhoeddi efengyl newydd, yn cyfiawnhau gwisgo bywyd yr oesoedd canol yn syniadau ac ym moesoldeb y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwisgai Shakespeare a dramawyr ei gyfnod eu holl gymeriadau ar y llwyfan yn nillad oes Elisabeth, ac ychydig amser yn ôl perfformiwyd Hamlet "in modern dress." Nid gormod efallai fydd disgwyl i amddiffynwyr Ceiriog yn y dyfodol ddal dano am wneuthur rhywbeth tebyg yn "Myfanwy Fychan."
Hyd yn hyn, wrth geisio tynnu Ceiriog allan o ddyryswch camfarnau ei ganrif ei hun, bu raid imi sôn mwy nag sydd wrth fy modd am ei wendidau, ond rhaid imi eto ddywedyd nad er mwyn ei gondemnio yr wyf wedi treulio cymaint o amser gyda hwy, ond er mwyn ceisio gwasgaru'r tew gymylau sydd yn cuddio llawer o'i ogoniant. Os dymuna rhywun sydd â chanddo ronyn o ddawn at feirniadu llenyddiaeth ganfod, drwy arbrawf syml, wir fawredd Ceiriog, ni all wneud yn well na'i gymharu â dau fardd arall a oedd yn gymheiriaid iddo yn ei gyfnod ac yn ei amcan, sef Talhaiarn a Mynyddog. Yr oedd gan Dalhaiarn yn arbennig ddiwylliant a chwaeth nad oedd gan Geiriog, ond nid oedd awen Ceiriog ganddo. Mewn rhyddiaith yn hytrach nag mewn prydyddiaeth oedd Talhaiarn yn artist, ac ni fedrodd erioed roddi yn un o'i ganeuon y filfed ran o'r bywyd sydd yn ei ryddiaith. Yr oedd Mynyddog yn debyg i Geiriog mewn un peth; yr oedd ynddo awydd rhoi difyrrwch, "entertainment," i'r genedl Gymreig, ond gallodd Ceiriog godi'r difyrrwch hwnnw i safon gwir farddoniaeth, yr hyn yn sicr na allodd Mynyddog.
Os ydym am chwilio am ei le yn hanes datblygiad y delyneg Gymreig, y mae'n haws inni ganfod ei gysylltiad â'r beirdd a ddaeth ar ei ôl nag â'r beirdd a fu o'i flaen. Ni hoffwn ddywedyd yn rhy bendant ei fod wedi yfed yn helaeth o ffynhonnau beirdd Eryri (telynegwyr fel Ieuan Glan Geirionydd a Glasynys), ond mae'r un nodwedd honno a roes arbenigrwydd a newydd-deb yn nhelynegion Ieuan Glan Geirionydd i'w gweled yn amlwg yng ngwaith Ceiriog hefyd, sef ymhyfrydu yng Nghymru fel gwlad weledig, —fel lle ar wyneb y ddaear, yn ei hunigeddau tawel, yn aruthredd ei chreigiau, ac yn sŵn pell brefiadau'r defaid ar hyd y moelydd. Cyn belled ag y gwelais i wrth ddarllen drwy lenyddiaeth Cymru a rhai gwledydd eraill, nid oedd neb yn yr hen ganrifoedd yn teimlo bod dim yn y pethau hyn yn werth canu amdanynt, ond nid yn unig fe ddarganfu Ceiriog eu gwerth trosto ei hunan, ond gwnaeth hwy hefyd yn brif ogoniant yn ei gyfraniad ef i ymerodraeth yr awen; y rhain yw'r tiroedd newydd a gonerodd ef ac a ddug i dalu eu teyrnged i'r hen frenhinoedd cydnabyddedig. Ond nid hyn oedd y cwbl a wnaeth; nid casgliad o olygfeydd rhamantus yw Cymru iddo, fel yr oedd i rai Cymry a oedd yn ysgrifennu Saesneg yn ei oes, ond yr oedd Cymru hefyd iddo ef yn genedl ac yn bobl, yn gymdeithas ddynol a hanes iddi a oedd yn gyfliw ac yn gytgord â'i golygfeydd. Ac nid hanes politicaidd yn unig ydoedd hwnnw; yr oedd traddodiad o ddiwylliant cerddorol, er enghraifft, ymhlith y rhan honno o'r werin Gymreig a swynai fwyaf ar ei fryd. O ganlyniad, iddo ef yn ogystal ag i Dalhaiarn, y mae inni ddiolch am waredu llawer o'r hen alawon rhag ebargofiant. Yr oedd ganddo ei hunan gryn ddawn gerddorol er nad oedd ei ddysg gerddorol yn uchel, ac o'r ddawn honno y cododd nid yn unig ei gariad at yr hen alawon, ond ei fedr anghyffredin i greu geiriau cyfaddas iddynt. Nid oes ofod i ymdrin â phwnc pwysig cyfraniad Ceiriog i'n gwybodaeth ni o'r hen alawon; digon yma fydd sylwi ei fod yntau weithiau wedi methu yn lled druenus fel yn "Toriad y Dydd " a "Breuddwyd y Frenhines." Mae'r holl ddiffygion y soniasom amdanynt yn Myfanwy Fychan "i'w cael yn y rhain,—prin efallai y mae yn holl erchylltod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddim hafal i vulgarity y geiriau a gyfansoddodd i "Breuddwyd y Frenhines." Ond ar gyfer hynny, rhaid gosod y ffaith bod yr alawon Cymreig o'r diwedd wedi dyfod am y tro cyntaf i fyd y diwylliant cenedlaethol. Un o nodweddion mwyaf trawiadol yr hen drefniant Cymreig ar farddoniaeth oedd y manyldeb mawr a'r gofal i gadw clasuroldeb traddodiadol y Pencerdd rhag cael ei lychwino gan gyffyrddiad diraddiol unrhyw ganu gwerinol. Parhaodd yr hollt hon yn llenyddiaeth Cymru drwy'r cyfnodau tlodion yn ogystal â'r cyfnodau cyfoethog, ac ni allai beirdd clasurol fel Goronwy Owen byth ymysgwyd o'i gafael pan sonient am farddoniaeth. "Beirdd bol clawdd " oedd y gwerinwyr awengar ym marn Goronwy, a diddorol fuasai gwybod ei syniad ef am ddiddordeb y Morysiaid yn y pethau gwerinol hyn. Bu agos i Lewis Morys lwyddo i lenwi'r gagendor a oedd fel hyn yn rhannu ymwybyddiaeth lenyddol y genedl, a'm barn bersonol yw y buasai ef a'i frawd Richard Morys gyda'i gilydd wedi llwyddo wneuthur hynny pe baent wedi cael cyd-weithio yng Nghymru. Pan lafuriai Richard Morys i gasglu'r hen gerddi gwerinol, yr oedd yn rhag-gysgodi gwaith mwy effeithiol a wnaed gan Geiriog ymhen can mlynedd yn y "Bardd a'r Cerddor," a'r "Cant o Ganeuon." Llwyddodd Ceiriog lle na lwyddodd y Morysiaid, nid yn gymaint oherwydd ei ragoriaeth prydyddol ond am fod gwerin ddiwylliedig erbyn hyn yn sefyll yn un genedl gref tu ôl iddo.
Mewn un ystyr, gwaith mwyaf Ceiriog oedd dangos i'w gydgenedl fod eu halawon gwerinaidd, eu harferion gwerinaidd, a'u dulliau gwerinaidd o feddwl a byw, yn curo wrth ddrws diwylliant Cymru ac yn hawlio cael eu gollwng i mewn; iddo ef yn anad neb arall y mae inni ddiolch am baratói lle iddynt yn adeilad y bywyd newydd yng Nghymru. Ac yn yr ystyr hon, ni ellir meddwl am ddim sy'n rhoi mwy o anrhydedd ar goffa Ceiriog na'i alw'n fardd gwerin Cymru. Os oes neb yn dal i amau gwerth ei gyfraniad ef yn ei flynyddoedd cynnar i hynny o ddiwylliant sydd gennym heddiw, carwn wahodd y gŵr hwnnw i gymharu'r hyn a geir yn y "Bardd a'r Cerddor" a "Cant o Ganeuon " ag eglurhad Syr Owen Edwards ar ei amcanion ei hun yn rhifynnau cyntaf y Cymru a Chymru'r Plant. Ni wn fod neb o'r blaen wedi cymharu Ceiriog ag Owen Edwards, ond cafodd y bachgen o Lanarmon ym Manceinion yr un weledigaeth hanfodol ag a gafodd y bachgen o Lanuwchllyn yn Rhydychen.
No. 1466
PUBLISHED BY THE BRITISH BROADCASTING CORPORATION
PRINTED BY THE PRINCIPALITY PRESS, WREXHAM