Cenwch i'r Iôr fawl a mawrhad

Oddi ar Wicidestun

Mae Cenwch i'r Iôr fawl a mawrhad, yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Cenwch i'r Iôr fawl a mawrhad,
Wiw gerdd o ganiad newydd;
Yn llafar cenwch iddo glod,
Bid parod eich lleferydd.


O herwydd uniawn yw ei air,
A ffyddlawn cair ei weithred;
Barn a chyfiawnder ef a'u câr,
A'r ddaear llawn o'i nodded.


Gair yr Arglwydd a wnaeth y nef,
A'i Ysbryd ef eu lluoedd;
Efe a gasglai 'nghyd y môr,
A'i drysor yw'r dyfnderoedd.


Y ddaear oll, ofned ein Duw,
A phob dyn byw a'i preswyl;
Ei arch a saif, a'i air a fydd,
A hynny sydd i'w ddisgwyl.


Ef a ddirymodd (fy Nuw Iôr)
Holl gyngor y cenhedloedd;
A gwna trwy lysiant yn ddi-rym
Amcanion llym y bobloedd.


A phob cenhedloedd dedwydd ynt
Os Duw sydd iddynt Arglwydd;
A'i ddewisolion ef a'u gwnaeth
Yn etifeddiaeth hylwydd.