Neidio i'r cynnwys

Cerdd Allwyn (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cerdd Allwyn (testun cyfansawdd)

gan Edward Roberts (Iorwerth Glan Aled)

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Cerdd Allwyn
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Roberts (Iorwerth Glan Aled)
ar Wicipedia


CERDD ALLWYN

ER

Coffadwriaeth

Y PARCH. EVAN JONES (IEUAN GWYNEDD).
Y PARCH. MORGAN HOWELLS.
Y PARCH. D. RHYS STEPHEN (GWYDDONWYSON).
Y PARCH. J. JONES, A. C. (IOAN TEGID).


GAN


IORWERTH GLAN ALED.


"DEATH'S SHAFTS FLY THICK."



DINBYCH:
CYHOEDDWYD GAN THOMAS GEE.
MDCCCLIII.

CERDD ALLWYN.

I.
YMSON Y BARDD.

I'R enaid prudd sydd wrtho 'i hun yn byw,
Yn ddelw sobr o'r anfarwol Dduw;
Fel pelydr bach ar grwydr fry uwch ben,
Pan fo'r tywyllwch yn amwisgo'r nen,
Neu wlithyn unig ar y blodyn per
Yn nghanol nos, heb lewyrch haul na ser—
Mor fwyn i'r enaid hwnw yw cael gwên,
Pe ond gan faban mud ar fonwes brudd,
A bod fel pelydr bach o'r ddunos hen,
Yn saethu allan i ddysgleirdeb dydd—
Ac fel y gwlithyn bach,
Pan dyr y borau wawr,
Yn derbyn gwenau fyrdd gan dlysion flodau'r llawr.

Mae llawer enaid yn yr isod fyd,
A dim ond prudd-der bythol yn ei fryd;
Difrifwch angau, a mudanrwydd bedd
Yw prudd gymdeithion ei alarus wedd.
Ni wel oleuni pan lewyrcho haul,
Ond bythol nos orphwysa ar ei ael;
Ni chlyw beroriaeth yn y tewfrig lwyn,
Yn sü y gwynt, na cherddi adar mwyn;
Afonig fach wrth furmur ar ei glan,
Delweddau tristwch rydd i'w deimlad gwan,

Mewn bedd symudol, annheimladol, y mae ef yn byw,
Yn wagnod cudd dan sel
Rhyw farn o ddwyfol ryw!
Fy Ior! Fy Nuw!
Wyf finnau 'n enaid byw
Er bod yn ddigon prudd
Trwy lawer nos a dydd
Mae ambell fwyniant rhydd
Yn fy ngorlenwi yn yr isod fyd,
Nes sychu 'm dagrau, a llawenu mryd:
Bum unig lawer gwaith—heb wên un dyn,
Yn dal cyfeillach felus & fy hun;
Cydseiniwn gân â'r dyner awel wynt,
A'r mwyn ehedydd ar foreol hynt,
Neu'r eos ddwys yn nwfn ddystawrwydd nos,
Pan lonai anian gyd â'i chynghan dlos;
Addoli wnawn ymhlith yr adar mân,
Gan offrwm aberth moliant drud,
Yn nghanol holl ofidiau'r byd,
Yn nheml anian lân.

Y teimlad hwn ennillais i cyn hyn
Trwy brofiad dwys o amgylchiadau syn;
Mae'r byd yn wir yn groth sy'n esgor gwae,
Ond gwên gan Dduw a'i newid lle y mae,
Nes troi y dagrau chwerwaf dan ei sêl
I'r profiad wed'yn yn ddefnynau mêl :
Ochenaid ddwys, o dan gyweiriad nef,
Dry 'n alaw hyfryd o bereiddiaf lef;
A'r cri truenus ddryllia'r galon wan,
Yn Haleliwia nefol yn y fan.

I'r duwiol nid oes galar yn y byd
Y gellir dweyd mai galar yw i gyd;

Os chwerw ydyw dyfroedd Mara draw,
Mae pren i'w gael gan ragluniaethol law,
A'i try fel gwin
Yn felus ar y min.
Os dan yr ywen yn y fonwent werdd
Rhaid llunio weithiau, prudd, alarus, gerdd,
Beth lunir draw dan bren y bywyd fry,
Pan fydd pob tant yn chwyddo alaw gu?
Nid glan Iorddonen fydd ein safle byth,
Ond glan yr afon bur, mewn hedd dilyth;
Nid "pridd i'r pridd" a ddisgyn ar ein clyw
Ar ol myn'd draw i'r wynfa fry i fyw.
Mewn rhagolygiad syn
Boed genym ffydd ddigryn,
A'n dysg i edrych dros derfynau'r bedd
I diroedd bywyd lle mae bythol hedd,
Nes gyda galar, a chwynfanau 'r llawr,
Y seiniom ambell felus gerdd
Yn ngwlad y cystudd mawr.


II.

Fel yna, myfyriwn un borau 'n ddifrifol,
Wrth weled awyrgylch fy ngwlad mor bruddhaol:
A chlywed oer sibrwd awelon marwolaeth
Uwchben meibion Cymru yn taenu argyllaeth;
Ac angau fel arwr yn cwympo enwogion,
Trwy'r flwyddyn, yn yspail i ogof y meirwon;
A'i gleddyf trwy galon fy ngwlad yn trywanu,
Nes ysgar o'i monwes ei meibion anwylgu;
A hithau 'n amddifad, a'i dagrau yn llifo,
Nes lleithio 'r monwentydd lle maent hwy yn huno.

Fy ngwlad! O fy ngwlad! mae dy ddagrau yn llif:
Yn awr ar dy ruddiau fe'u gwelir heb rif!

Pa fodd y'th gysurir, y lleddfir dy gri,
Tra 'n awr gyda'r meirwon mae meibion dy fri?
Nid aur, ac nid arian, na pherlau 'r holl fyd
A allant eu hadfer byth eto ynghyd
I'th fonwes dyneraf, er lloni dy fryd :
Nid oes ond cyfeirio, trwy wydr-ddrych ffydd,
At wawr adgyfodiad yn tori yn rhydd,
Pryd hyny fe'u gwelir fel heuliau digudd.

Mewn cymysg deimladau fel hyn
Y ciliais o ddwndwr y byd,
I gysgod llwyn deiliog ar fryn-
Lle cyfnaws i'r pruddaf ei fryd:
Pa fangre mor hoff i wir fardd
A chysgod cangenau y llwyn?
O'i galon fan hòno y tardd
Myfyrdod all leddfu ei gŵyn.

Mae rhywbeth yn nghysgod y coed
Fel ysbryd naturiaeth ei hun,
Yn taflu difrifwch erioed
Trwy 'r fangre heb drefn ac heb lun:
Mor ddwys yw hyawdledd y dail,
A süad yr awel trwy 'r lle,
I'r enaid rho'nt fantais ddi-ail
I deimlo ysbrydiaeth o'r ne'.

Eisteddais yn llonydd a syn,
Gan gasglu fy meddwl ynghyd,
A'm bwriad yn hollol bryd hyn
I gwbl anghofio y byd;
Ac yno offrymu yn llwyr
Fy nagrau ar allor fy ngwlad,
Gan dreulio y dydd hyd ei hwyr
Mewn galar a gofid di-wâd.


A phob peth welwn ger fy mron
Yn drist fel fi fy hun;
Trwy'r cylch nid ydoedd dim yn llon,
Ond mewn galarus lun;
Tlos oedd yr ardd a welwn draw
O dan ei lliwiau cu;
Ond yn ei thlysni fel mewn braw,
A'i blodau 'n plygu 'n llu.

Yr afon fach oedd yn y nant,
Wrth odre 'r tawel fryn,
Mor llon y gwlychai gynt fy mant,
Ond llifai hithau 'n syn:
Murmuron dwys ei haraf li'
A daenent oerlef cŵyn,
Ac ni cheid ond adseiniau cri,
Trwy holl gilfachau 'r llwyn.

Ni chlywid odlau adar mân
Ar gangau unrhyw bren,
Ond gwelid hwynt oll ar wahân
Yn fudion uwch fy mhen:
Disgynai ambell wlithyn claer
Yn dawel wrth fy nhroed,
Fel yn fy ngwahodd i yn daer
I wylo gyda 'r coed.

Ac yn y dymher hon
Y wylais innau,
A'm dwylaw ar fy mron
Cell fy nheimladau;
Pwy wyr am galon brudd
Ar hwyr gofidus?
Dyfaled deimlad cudd
Y bardd galarus.


O dan fy mraich yr oedd
Newyddiaduron,
Er taenu oll ar goedd
Bob rhyw hanesion;
Pa un ai trist ai llon,
Eu swydd yw taenu;
Ac felly 'r enyd hon,
Ceid hwy 'n hysbysu.

Wrth agor un, Och! beth!
Llinellau duon!
Mae galar yn ddifeth
I mi yr awrhon;
Mae rhywun oedd o bwys
Ar goll yn ddiau,
Ac wele alwad ddwys
I dywallt dagrau.

Beth! beth! ai IEUAN sydd
Yn fud ar elor?
Mae achos bod yn brudd
Trwy lawer goror:
OW! IEUAN GWYNEDD fawr,
Anwylyd Cymru,
Yn huno 'n angau 'n awr,
Heb neb a'i deffry!

Ei enw fu 'n anwyl ar lafar neu len;
Yn wastad i'm llygad fel blodyn o'r nen;
Ond heddyw ar lawr yn wywedig i gyd,
Ar fonwes yr ia yn fferedig ei bryd!
Awelon oer angau o'i amgylch y sydd ;
A minnau fel delw yn fud ac yn brudd!
Ei enw mewn tristwch a seiniais yn wan,
A'r gwynt a ledaenodd yr adsain trwy'r fan;

Y foment alarus pan enwyd efe,
Ochenaid ddifrifol a rwygodd drwy'r lle;
A phruddaf gysgodion yn fantell ddu oer,
A guddiai'r olygfa, fel cwmwl ar loer.

Yn y dystawrwydd a'r tywyllwch du,
Adgofion dreiglent trwy fy mron yn llu;
Fy myfyrdodau fel yn gwibio'n syn
Am Ieuan fwyn, a'm llygad bach yn llyn;
O waelod calon glwyfus ceid pob un,
Mewn serch a galar oeddynt oll ynglŷn;
Rhy wan yw'r pin, crynedig yw fy llaw,
Ag inge nis gallaf bortreadu'r braw
A lanwai 'm bron***
Rhyw rith yr awrhon yn fy adgof sydd—
Tyr'd law grynedig, ysgrifena'n brudd:—

"Ai'r mwyn Ieuan Gwynedd mewn dawn a gwybodaeth
A safai mor uchel yn nheml llenyddiaeth,
A'i galon yn orlawn o dyner serchiadau
At bobpeth oedd anwyl yn hoffwlad ei dadau,
A wywodd, fel rhosyn, pan yn ei lawn flodau,
Yn llenwi 'r awyrgylch a'i fwyth beraroglau?
A gwympwyd i'r ddaear y gwych ysgrifenydd?
A guddiwyd dan dyweirch ein nefol awenydd?
Do! do! Gymru dirion, fe gafodd ei gwympo!
Pa ryfedd dy weled â'th ddagrau yn llifo!
Mae'n wir fod y llaw fu 'n dy bleidio 'n wywedig,—
Byth, byth, ni cha ddangos dy hawl gysegredig;
Ond bythol arhosed ei enw a'i gofion
Mewn dyfnion lyth'renau ar lechres dy galon."

Ail edrych wnawn wed'yn
Yn syn ar ei enw,
Ac arno fy neigryn
Ddisgynodd yn loew;

Dych'mygwn yn ddiau
Mai dyma'r erch ddyrnod
Oedd drymaf i minnau,
Cyn disgyn i'r beddrod.

Ond Och! pa newydd arall
Ymrithiai 'n ddu ei wawr?
Nid ydoedd angau 'n ddiwall
Ar ol cael Ieuan fawr;
Yr hen linellau duon
A daflent gysgod braw,
O elor arall wron
Giliasai wed'yn draw!

Pwy oedd yn araf sylwais
Ar yr adroddiad dwys
Trwy ddagrau llaith darllenais
Y newydd mawr ei bwys:
Beth! Cymro anwyl gollwyd!
Ow! Gymru, beth a wnaed?
Enwogion ynot godwyd,
Fel hyn yn syn dan draed!

Ai MORGAN a fu farw?
Dy FORGAN HYWEL mawr!
Yn uchel bu ei enw
Tra'n rhodio daear lawr:
Pwy draetha 'th golled, Gymru,
Am wron fu mor gu?
Neb! neb!-pawb sy'n galaru,
A thywallt dagrau'n llu!

O! Morgan anwylaf, byth mwy ni chawn glywed
Dy lais mewn addoldai, fu gynt mor bereiddied;

Y floedd anorchfygol fu'n galw pechadur
At angau Calfaria am fywyd a chysur;
Yn fudion yn awr y mae 'r hyawdl wefusau—
Ni lifa byth drostynt ffraethineb ei eiriau.

Beth pe y chwiliwn am ryw newydd gwell,
Pe nad o Gymru ond o ardal bell?
Mae cysur bach o rywle 'n well na hyn,
Na llinau duon, gwell im' bapyr gwyn;
Agoraf hwn—hwn—hwn—fy mron! fy mron!
Rhyw ergyd gref aeth drwy fy nghalon gron!
Fy mron! beth sydd? a'i holl linynau cudd,
Fy nghalon fach sy'n awr yn hollol rydd?
Ië 'n rhydd, ac nid drychiolaeth ydyw hyn,
Ei wel'd yr wyf yn awr mewn du ar wyn!

Ow! DAFYDD anwylaf! ac yntau fu farw!
Rwy'n teimlo du ofid wrth seinio ei enw;
RHYS STEPHEN a gwympwyd o'r uchel areithfan,
O deml gwybodaeth, yn fud yn y graian!
Hyawdledd Cymroaidd sy 'n awr mewn oer lewyg,
O herwydd ei golli. Ni welwn ei debyg!
Pwy mwyach ar lechres enwogion mawr Cymru
All neidio i'w safle heb ofni a chrynu?
Neb! neb! y mae 'n wagle—a gwagle yr erys,
Er dangos i'r oesoedd yr anrhaith echrydus!
 
Ow! Dafydd anwylaf
Fe'th gwympwyd i'r bedd;
Dy araeth ni chlywaf,
Ni welaf dy wedd;
Rhaid rhodio y ddaear
Heb gwrdd â thydi;
Ni phrofir ond galar,
Ni theimlir ond cri.


O haul! cyn it' ddisgyn
Dros derfyn y lli',
A'th belydr claerwyn
Dynoda i mi
Rhyw lanerch o Gymru
Sydd heddyw yn llon,
A'i meibion yn gwenu
Yn ysgafn eu bron.

HAUL.


"Mae'm pelydr i yn methu chwareu 'n llon
Yn awyr Cymru drwy y flwyddyn hon;
Mae ei chymylau 'n rhithio drychau gwae
I'm cwrdd o hyd, ac yn mhob parth y mae
Yr unrhyw deimlad! angau sydd â'i drem
Yn fy nghyfarfod yn yr awyr lem:
Ac mae rhyw oerni 'n codi 'n awr o'r llawr,
Tawch llwydoer, fferllyd, o bygdduol wawr;
Yr awyr sydd yn drom, ac fel ar esgor gwyll.
Na fu ei fath!——————————————

A mi 'n grynedig iawn,
Agorais bapyr,
I guddio'm gwyneb llawn
O boenus wewyr;
Fy llygaid gynt o'ent laith,
Yn awr yn sychion,
A rhyw ddelweddau braith
O'm blaen yn rhithion.

Wrth agor felly, Och!
LLINELLAU DUON!
A ymagorent am rhyw newydd blin,
Fel cymyl digllon
Ar esgor storm pan fyddo'n arwaf hin
Elfenau croesion!


Yn araf â fy mys
Symudais ddafnau
O annaearol chwys
Oedd ar fy aeliau;
Ond yn lle chwys ac ofn,
Dylifodd dagrau—
Teimladau monwes ddofn
Oedd yno'n ffrydiau.

Pwy eto ddilynodd? Pwy? Pa le mae llais
All seinio yr enw? Ar wefus mae trais
Mudanrwydd â'i sel! ac angau 'n ddi—gryn,
A'i drem drwy 'r llyth'renau i'm cadw yn syn!
Ow! 'r mawr IOAN TEGID, yn fud yn ei arch,
Er dysg, a gwybodaeth, a thalent, a pharch!

Y bardd, yr hanesydd, a'r ieithwr cywreiniaf,
Bu farw!—fe'i collwyd!—y cyfaill hawddgaraf;
Bu 'n un o anwylaf wladgarwyr hen Gymru,
Ei enw o'i henw nis gellir wahanu;
Tra'r erys un adsain i grwydro'i chlogwyni,
Ni chelir mewn anghof ei enw uchelfri.


III.

Ar hyn, rhyw hûn nefol
Ddaeth dros fy amrantau,
Newidiwyd yn raddol
Holl drefn fy meddyliau;
Y gofid a'r galar
Giliasant yr awrhon,
A throsof yn hawddgar
Daeth araul freuddwydion

Ni fu hûn felysach
Yn selio fy amrant,

Na delwau oedd dlysach
Erioed yn fy meddiant:
Fy mhen fel yn gorphwys
Yn dawel ar feillion,
Yn neildŷ paradwys—
Cartrefle angelion.

Clywn dyner acenion
Fel sain arian danau,
Yn chwyddo yn dirion
Yn fiwsig i'm clustiau;
Byth, byth, ni chiliasant
O'm serchog adgofion;
Yr oll yn anniflant
Yn ieithwedd angelion;—

"Sych, sych, dy ddagrau,
Blentyn mwyn,
Na foed i'th eiriau
Seinio cwyn;
Mae yr anwylion
Enwaist di,
Yn ngwynfa dirion,
Dan eu bri.

"Er colli 'r pedwar o'r byd bach islaw,
Maent oll ar gael mewn byd heb ynddo fraw;
Gwell sychu dagrau ar farwolaeth saint,
A gwenu 'n dirion ar eu dwyfol fraint:
Un olwg fechan ar eu dysglaer wawr
Yn ngwynfa ddedwydd gwlad y mwyniant mawr,
A dry 'r gruddfanau yn ganiadau hedd,
A niwl marwolaeth,
O'i brudd erchyllaeth,
Yn enfys brydferth am gynteddau'r bedd."


Ond, wele 'n ddisymwth, goleuni ysplenydd,
Fel mellten yn fflamio o gwmwl dirybudd,
Lewyrchai o'm hamgylch! A minnau, gan ddychryn,
Fel delw-yn fud. Yn y gwagle, gyferbyn,
Wrth godi fy ngolwg, canfyddwn yn gwibio
Trwy eigion yr entrych, rhyw bellen gyflymdro,
Nes prysur newidiai yn llinell ymrithiol,
A lliwiau yr enfys yn chware trwy 'i chanol:
Dynesodd i'm hymyl yn brydferth odidog,
Ac yna ymffurfiodd yn gerbyd tryliwiog,
A phorphor-olwynion o dano yn bybyr,
Yn taflu o'u cylchdro ddwfn wrid idd yr awyr;
Meirch gwynion oedd wrtho, a'u trem yn melltenu
Rhwng aeliau mawreddig; a'u mwng yn ymledu,
Fel dysglaer gymylau mewn gloew ffurfafen,
Pan fyddont yn nofio tan d'wyniad yr heulwen.

Wrth ddôr y cerbyd safai
Un angel cain ei wedd,
Ac arnaf yr amneidiai
I'w ddilyn ef mewn hedd;
I mewn i'r cerbyd aethom,
Olwynai yntau 'n rhydd,
I bellder cyrhaeddasom,
Fel chwim oleuni dydd.

Prin iawn y cefais amser
I holi am y daith,
Ond ynof rhoddodd hyder
Na fyddai yn un faith:
Yr olwg arno ydoedd
I mi ar hyn o bryd,
Yn adlewyrchu 'r nefoedd
Yn ei gogoniant drud.


Fe gefais wybod ganddo
Mai angel oedd o'r nef,
I'm harwain yn ddiflino
I ddinas hardd a chref,
Lle temlau lawer welid,
Prif demlau 'r moesol fyd,
Ac ynddynt y canfyddid
Dysgawdwyr uchel fryd.

Ar hyn y cerbyd safai wrth rhyw fur,
Ac ynddo ddôr o gaboledig ddur,
Ei byst yn bres—màn hynod iawn oedd hon,
Ac wrth ddynesu
I'r ddinas wiwgu,
Ymchwyddo wnai fy mron,
Nes yn yr olwg ar ei gwedd ddi-gryn,
Ymdorai 'm syndod yn y geiriau hyn:—

"O! ddinas dlôs! mae golwg ar
Dy heirdd heolydd heddyw 'n gu,
Yn arwain fy meddyliau gwâr,
At ddysgedigion, doethion, lu;
Offeiriaid, beirdd, athronwyr, gaed
O'th fewn, a hoff yw ôl eu traed
Ar dy dreuliedig belmynt di.
Seliasant eu hymchwilion drud
Ger bron prawfiadau oesoedd byd
A'u byth—gofiadwy waed,
Ac anwyl wyt am hyn i mi.
Dy demlau! O! mor gain eu gwedd,
Ac arnynt argraffiadau hedd,
Yn gwenu 'r enyd hon;
Dyrchafant eu pinaclau fry,
Gan wahodd engyl nef yn llu,
I'th noddi â'u hadenydd cu,

A'th feibion ar dy fron.
Rhyw gyntedd wyt i'r ddinas fawr,
Sydd draw tuhwnt i gaerau 'r wawr;
Esgorfa gwir athrylith
Meddyliau pur, diragrith,:
Cyn esgyn fry ger bron gorseddfainc Duw,
Yn ddwfn fyfyrwyr o anfarwol ryw,
A threiddio byth i'r egwyddorion sydd
Yn annattodol yn eu trefn,
A heirdd fel golau 'r dydd."

Myfyriwn fel hyn;
A'r angel yn syn,
Ar deml yn sylwi;
A theml oedd hi
Oruchel ei bri,
Oddiallan ac ynddi.

Gafaelodd yn fy llaw,
Arweiniodd fi 'n ddi-fraw,
Hyd at ei hallor;
Ond yn y gysegredig fangre hon,
Rhyw brudd—der annaearol lanwai 'm bron;
Trom oedd yr awyr, fel yr awyr sydd,
Yn nglyn cysgodau angau tywyll, prudd!
O'm llygaid ffrydiai dagrau 'n rhydd,
A holl ffynnonau cudd
Fy mron oedd yn ymagor.
A THEML GALAR
Am feibion daear,
Oedd hon, yn sefyll wrth y ddu gagendor,
Sydd yn gwahanu 'r byd a'r dduaf oror.


IV.

Ac yno 'n galaru y gwelwn offeiriad,
Yn ymyl yr allor—gwlyb, gwlyb, oedd ei lygad;

Trosglwyddai ei offrwm mewn ffrydlif o ddagrau,
A'i galon dywalltai mewn dwys ocheneidiau;
Prin iawn gellais ddeall ei iaith oedd yn ddifri',
Acenau drylliedig gawn ganddo mewn bloesgni.

O! ddwysder heb ei fath oedd yn ei eiriau,
Wrth lithro 'n araf iawn dros ei wefusau;
Pe cawn ryw swynol bin i ysgrifenu
Ei ymadroddion dwys pan yn galaru,
A'u dodi 'n syml iawn yn iaith fy nhadau,
Nid hir y byddent hwy heb doddi creigiau;
Dyferai 'r oesol iâ yn ddagrau heilltion,
Ai seiniau anian oll yn dristaf gwynion.
Cyfeiria di fy mhin, O! Ysbryd dwyfol!
Wrth geisio rhoddi i lawr ei iaith ddifrifol.

"Dybenwyd! GYMRU, 'r daith ddaearol hon,
Symudwyd IEUAN fwyn oddiar dy fron;
Draw yn y bedd mae'r corff, lle 'i ysbryd fu,
Gwahanwyd hwy yn awr gan angau du!
A gwagle niwlog rhwng y rhanau sydd;
Un acw 'n farw dan dywarchen brudd,
Mewn beddrod cudd.

O! Ieuan, dyner,
Mor fer fu'th daith!
Ehedodd amser,
Fel cwmwl gwyn uwch ben
O flaen corwyntoedd nen,
Nes yn y. pellder
Ar goll mewn awyr faith.
I mi nid oes yn awr ond sylwi ar y fan,
Ehedaist dithau drwyddo
Yn gyflym a dihuno,
Ar hynt i'r nefol dran!


"Dy yrfa fechan yn y byd
Terfysglyd hwn,
Lle teimlaist lawer gofid drud,
Ac aml bwn;
Ond erbyn hyn, mae 'r oll ar ben,
Cyrhaeddaist fedd;
Ac heddyw yn dy amdo wen,
Gwyw yw dy wedd.

"Mor dlws yr oeddit pan yn faban bach,
A'th wallt yn felyn, ac yn gywrain droellog,
Yn chwareu 'n brydferth ar dy fochau iach,
A hwythau 'n gwrido fel dau rosyn bywiog;
Yr olwg gyntaf ar dy lygaid llon
A roddai brawf fod ynot wir athrylith;
Wrth sylwi arnat, chwyddodd llawer bron,
Ac ar dy ben erfyniwyd llawer bendith.

"Fe 'th wyliwyd di yn blentyn lawer gwaith,
Pan oeddit gynt ar fron dy fam yn huno,
Ar nos dymhestlog, a'r awyrgylch faith,
Gandwrf corwyntoedd, mewnrhywerchyll gyffro:
Tydi yn dawel, ac fel delw fud,
O waith archangel, yno 'n syn y'th welid,
Ond gwên athrylith ar dy anwyl bryd,
Gan engyl serchog yno a gusenid.

"Ar riniog isel bwthyn gwyn dy dad
Y'th welwyd di, a rhosyn ar dy ddwyfron,
Yn hwnw gwelit rhyw brydferthwch mâd,
Nes ei amgylchu gyda 'th wenau tirion;
Y bardd mewn blagur welid yn mhob gwên,
Ac eilun bardd perffeithiol yn y rhosyn;
A'th hoff athrylith cyn it' fyn'd yn hen,
Fel ef flodeuodd ar fron Cymru'n burwyn.


"Mor llon chwareuit ar y meusydd gwyrdd,
Gan gasglu meillion a briallu melyn;
Mor llon gwrandewit ar yr adar fyrdd,
Ar gangau 'r coed yn moli gwisg y gwanwyn;
Twrf rhaiadr croch, a sî 'r afonig fwyn,
Prudd sain awelon ar eu hynt trwy 'r llwyni,
A ddygent iti eu rhamantawl swyn,
A'th galon dirion wnai eu bythol hoffi.

"Ar aml hafaidd nawn y buost di
Yn tremio 'n syn ar fryniau gwyllt
Meirionydd, Ei herch glogwyni, a'i mynyddoedd hi,
Yn eu haruthredd, chwyddent dy ddarfelydd;
Mwy hoff oedd genyt gysgod clogwyn ban
Na mwythsedd eurawl mewn ardderchog balas;
Byth ni anghofiaist, wedi gadaw'r fan,
Eu harucheledd a'u breninol urddas.

"Yr hoff syniadau hyn ni chollaist mwy,
Ond glynaist wrthynt trwy bob cyfnewidiad;
Yn blentyn anian dan eu heffaith hwy
Yn sugno 'i bron y gwelwyd di yn wastad;
Er ennill dysg, gwybodaeth, a phob dawn,
Ni ddarostyngwyd effaith bro Meirionydd—
Caed hi a'i hysbryd yn dy ysbryd llawn
Yn ymherodres ar dy holl ddarfelydd.

"Ar ol dy symud i ysgolion gwych
I graff astudio yr holl ddwfn wyddorau,
Dy feddwl bywiog dremiai drwy bob drych
Nes gwel'd yn fanwl i'w dirgelaf seiliau;
Yn llanw 'th ysbryd caed gwroldeb cawr,
Ac wrtho 'nglŷn y caed athrylith angel,
Yn ngrym pa rai cyrhaeddaist orsaf fawr,
Nes d'od i Gymru'n athraw gwir oruchel.


"O! Ieuan fwyn, nid heb elynion llym,
Gwg, a chasineb, gyda geiriau croesion,
Y dringaist di mewn penderfynol rym,
Er cyrhaedd pinacl uchel dy amcanion;
Y draul a fwriaist—deliaist fel y dur,
Heb blygu dim pan wgai gwrthwynebiad;
Er gorfod dyoddef llawer poen a chur,
Nid oeddynt oll ond gloewi dy gymeriad.

"Difyrus im' oedd gwel'd dy lwyddiant llawn
Pan yn meistroli dysg yn yr athrofa—
Ai 'r nos yn ddydd o flaen tywyniad dawn
Dy feddwl treiddgar, yn y dull cywreinia';
Oddiyno aethost yn dy foesol nerth
I ddymchwel cedyrn furiau anwybodaeth,
Heb ofn gelynion gwlad y fagddu gerth—
Dy ffydd o hyd oedd iti yn gynnaliaeth.
 
"Pan urddwyd di i'r weinidogaeth fawr,
Dyferai myrrh o'r nef ar hyd dy wisgoedd;
Ni welwyd neb ar wyneb daear lawr
Ag ysbryd gwell fel athraw teyrnas nefoedd:
A meddwl golau, gonest, didroi 'n ol,
Gwybodaeth fanwl, gyda dawn areithiwr
Pob rhyw gymhwysder er addysgu 'r ffol,
A dangos trefn i gadw'r drwg ei gyflwr.

"Ond er y ddawn, y ddysg, a'r ysbryd ir,
Y parch, y llwyddiant, gyda'r holl ddaioni,
Ni chefaist di ddim gwasanaethu'n hir
Yn dy anrhydedd yn y swydd uchelfri;
Rhy wan o gorff i ddal y meddwl mawr
Oedd ynddo 'n ffurfio tanbaid feddylddrychau;
Yr egni meddwl weithiai 'r corff i lawr,
A rhaid oedd yno selio dy wefusau.


"O! Ieuan fwyn yn ymyl, ar y groes,
Y gwelit ffrwythau addfed yn dyferu
Eu dafnau per, ar gyfer eisiau 'r oes,
A myrdd yn ymyl, heb eu gwel'd, yn trengu!
Fe glywit swn murmuron ffrydiau clir
Yn llifo 'n araf heibio y sychedig,
Ac yntau 'n ddall a byddar ar y tir,
Yn ymyl digon—eto yn golledig.

"Tydi ni ellit, er dy awydd mawr,
Ddim chwythu rhybudd trwy yr udgorn arian,
A dangos noddfa i drueiniaid llawr
Pa rai gyflyment dros y ddamniol geulan;
O! fel y teimlais dros dy ddiffyg nerth,
A gweled cymaint oedd o waith i'w wneuthur,
Y diafliaid oll yn gweithio 'n fyddin gerth,
A thithau 'n fud yn gorfod bod yn segur.
 
"Ond os yn fud, heb allu codi llais,
Ni threfnwyd iti fod yn llonydd oll;
Defnyddiaist law er dymchwel cam a thrais,
A phleidio 'r gwir rhag iddo fyn'd ar goll;
Fel ysgrifenydd, ni fu 'n Nghymru fwyn
Ddim un grymusach dros ei holl iawnderau;
Pa un ai nerth, ai mud—ddylanwad swyn,
Y ddau feddiennit yn eu dullwedd gorau.

"O ryfedd bin! mwy llym na chleddyf dur,
A'i rym yn fwy nag eiddo 'r erchyll fagnel;
Nid cwmwl beichiog a all esgor cur
Mwy dwys na hwn, o'i ddu orseddfa uchel;
Ei nerth sydd fwy na 'r corwynt ar ei hynt,
A rhuthriad storm o fellt a chroch daranau—
Pan mewn priodol law, fel eiddo Ieuan gynt—
Yn ymerawdwr ar y byd a'i bethau.


"Pan welwyd bradwyr a gwatwarwyr cas,
Am fathru dan eu traed y teg rianod,
Gan dynu allan eu cynlluniau bas
I ladd diweirdeb y rhai hyn trwy orfod
A hwy yn fud, a'u dagrau 'n llifo 'n hael,
Pwy ddaeth i'w hachub? Ond ein Hieuan wrol!
A'i bin gorchfygodd yr ymosod gwael,
A hwy addurnodd â'u rhinweddau'n siriol.

"Pwy barodd syndod i lywyddion gwlad,
Trwy benderfyniad na cha'i Cymru gam?
Pwy a ddinystriodd yr erchyllaf frad,
A sychodd ddagrau llawer tad a mam?
Chwi, archryfelwyr, ar eich meirch gornwyfus,
Cyfeiriwch lygaid tua'r gwely draw,
Man lle bu'r arwr, gyda gwên hyderus,
Yn gwneyd y gamp â dim ond pin mewn llaw.

"Bu yn ei arfer gyda llaw wael, wael,
Tebycach oedd i lun na llaw sylweddol;
Ond pwy mewn un—oes a fu yn fwy hael
O eu gorchestion, nag fu Ieuan ddoniol?
Nid oedd un terfyn idd eu hamrywiaethau,
Nes gwywai 'r llaw, a'r pin o'r neilldu roed—
Yr adeg bruddaf ydoedd hòno 'n ddiau,
I Gymru fach o'r un a fu erioed.

"Traethodau ar draethodau ysgrifenai,
Pob un yn orchest o'r uchelaf ryw;
Ei feddylddrychau grymus ynddynt ddodai,
A'r wlad gynhyrfai fel o farw 'n fyw:
Rhesymau eglur, cedyrn, yn cyd-ddilyn,
Fel swyn—gadwyni yn amgylchu'r farn—
Nes yn y diwedd, tan ddylanwad sydyn,
Nis gellid gwrthod ganddo unrhyw ddarn.


"Yn ei farddoniaeth ceid y symledd mwyaf,
Mewn lleddf—acenion fel si afon fwyn;
Neu suad nefol yr awelon araf
Pan yn chwedleua gyda dail y llwyn:
Dyferai fêl yn ei llinellau tyner—
Neu fel y gwlith ar yr irlasdeg ddol,
Adfywiai bawb; a gwelid gwen siriolder,
Dylanwad swynol geffid ar ei ol.

"Pa ryfedd iddo ennill buddygoliaeth
Ar fechgyn Cymru pan ar faes y gân?
Pwy allai lwyddo pan efe'n ymyraeth
A'i wir athrylith gyda'r tànau mân?
Pan y chwareuai, nid oedd Cymru 'n gwrando
Ar neb o'i meibion fel ar Ieuan fwyn;
A'i gydymgeiswyr ni rwgnachent rhagddo—
Ymorfoleddent o dan rin ei swyn.

"A hyn a wnai pan ar ei wely cystudd,
Heb gyrhaedd fawr dros ddeg ar ugain oed;
A'i gorff yn wan, a'i gur yn ddyfal beunydd,
Rhyw boen o hyd i'w gyfran ef a roed:
Sain telyn anian yn nglyn cysgod angau,
Oedd eiddo Ieuan—annaearol sain—
Ond oll mor heraidd a phe clywid tanau
Yn fyw tan ddwylaw ryw archangel cain.

"I'r dosbarth uchaf, yn yr "ADOLYGYDD,"
Ceid ganddo fwrdd yn llawn danteithion drud;
I'r dosbarth isaf, ar y tlawd aelwydydd,
Yn y "GYMRAES," gweinyddu wnai o hyd;
Plant bychain Cymru glywaf eto 'n galw,
Ar Ieuan Gwynedd am eu rhan mewn hedd;
Ond nid oes mwyach iddynt ond yr enw —
Mae hwnw ganddynt er holl wanc y bedd.


"O Gymru wylaidd! yn dy wladaidd ddiwyg,
Mae genyt fynwes lawn o nefol 'stor;
Am deimlad mam, ni fu yr un o'th debyg,
I'th blant anwylaf mae dy serch yn fôr:
Beth ellir ddysgwyl gan dy feibion gwresog,
Dy fwyn rianod, a dy blant i gyd,
Fel teyrnged wladol i dy leuan enwog,
Fu farw 'n ymladd dros dy freintiau drud?

"Dy ddagrau roddaist, gwlychaist draw ei elor,
Aeth idd ei feddrod dan berarogl serch;
Ffynnonau galar fuont yn ymagor,
Dylifodd hiraeth llawer mab a merch—
Ond sycha 'r dagrau—cilia hiraeth eto,
Try 'r nos dymhestlog yn foregwaith cain,
A swn galaru fel y gwynt ä heibio,
Ac ar ei ol y daw rhyw hyfryd sain.

"Beth meddi, Gymru, am ei weddw dyner,
A wyliodd gymaint wrth ei wely prudd?
Arosodd yno gyda phob siriolder,
Heb rwgnach dim trwy lawer nos a dydd;
Nis gall canmoliaeth byth ddim tori anghen,.
Na 'r dagrau chwerwaf dori syched chwaith,
O! cymer hon o dan dy dyner aden,
Ac engyl wenant ar dy serchog waith."

Dybenodd! yna, wele wyll araf
Yn llanw y deml â'i edyn duaf;
Man brudd oedd gynt, ond pruddach o lawer
O'm blaen pryd hyny—corffoliad o brudd-der.
Diffoddai 'r lampau, a thywyllwch mawr
Orlenwai 'r fan. A phawb yn farwol fud.
Dystawrwydd bedd dan len y nos yn awr
A ddodai sel ar wefus pawb ynghyd.


Ymlusgai braw colynog dan fy mron.
Fy anadl beidiai. Chwyddai 'm calon gron.
Ac wrth syndremio i'r tywyllwch du
Yn fuan gwelwn ddrychiolaethau lu,
A delw galar dwfn ar wedd pob un
Pe 'n ddelw hefyd, heb un math o lun.

Ar fron yr angel dodais bwys fy mhen,
Ymguddiais yno dan ei fantell wen,
Ac ef lefarai, "Offrwm ddagrau 'n awr
I alar Cymru, yn ei ymchwydd mawr,
A bortreadir yn yr arlun dwys!
Ow! golli Ieuan lwys,
Oddiar y llawr!"


V.

Ac yna dystawrwydd. Chwa adfywiol gaed
Drwy 'r deml oll. Cyfodais ar fy nhraed.
Lamp ar ol lamp oleuid, nes y fan
Fel gynt o'm blaen. Daeth newydd nerth i'm rhan;
Ac wrth yr allor clywn acenion byw
Y trist offeiriad, yn ail-ddeffro cur,
Am golled arall o ofidus ryw,
I Gymru anwyl, sydd â'i bron yn bur.
Ac wele adlais gwan
O'i deimlad yn y fan:—

"Ar ol wylo dagrau am blentyn oedd gu,
Fu farw ar hanner ei fagu,
Ail wylo raid eto! dewch ddagrau yn llu,
Un arall a gollwyd yn Nghymru.

"Dwfn, dwfn, yw y tristwch trwy Gymru yn awr,
Mae miloedd yn wlybion eu gruddiau;

Ni chlywir ond cwyno, a chwyno gwir fawr,
Yn disgyn dros fyrdd o wefusau.

"Yn holl gynnulliadau difrifol y saint,
Mae 'r golled yn awr yn annhraethol:
A cholled yw hon na fesurir ei maint,
Am arwr mor fawr a defnyddiol.

"Ar ol teimlo 'r ddyrnod gan angau mor ddwys,
Pan gwympodd ef leuan i'r ddaear;
Och! wele un arall yn disgyn i'r gwys,
Ail lanwyd y gwpan â galar.

"Dau gleddyf, dwy darian, a welir ar lawr,
Fan acw, yn nghanol y frwydyr,
Dan ddagrau gwir alar yn rhydu yn awr,
Ar dyweirch yn dawel a segur.

"Pa ryfedd fod gofid yn lleithio pob grudd,
Pan MORGAN yn angau fachludodd?
Y seren fu 'n olau mor hir yn ddigudd
Ar adeg mor dywyll yn diffodd!

"Defnyddiol iawn ydoedd yn Nghymru bob pryd,
Cai barch fel gwir sant a phregethwr;
Ei lafur a'i lwyddiant fu 'n fendith i'r byd,
Bu 'n ddyfal fel nefol genadwr.

"Nid ydoedd ond ieuanc pan ddaeth idd ei ran,
I deimlo euogrwydd ei feiau;
Dwys iawn oedd ei ddagrau, a'i galon yn wan,
Bron suddo dan bwys ei ofidiau.

"Ond Crist a dderbyniodd ei ddagrau yn gun,
Ac hefyd ei daerion weddïau,
A hwynt a gyflwynodd i'r Duwdod bob un,
Fel offrwm un tlawd ar ei liniau.


"O! fel yr ymlonodd, pan welodd heb fraw,
Wên Iesu, o'r nef yn ymdori,
Fel haul ar ol 'storm a'i olau o draw
Yn prydferth eurliwio 'r wybreni.

"Cymylau a chwalwyd, dystawodd pob twrf,
Defnynau ei alar a sychwyd,
Ac ef fu ar ddwylin yn euog a llwrf,
Yn Gristion gorchfygol gyfodwyd.

"Canfyddodd, yn angau 'r Cyfryngwr, le clyd
I'r euog gael noddfa 'n garedig;
A theimlodd ei ysbryd dros gyflwr y byd,
Yn ymyl y noddfa 'n golledig.

"Enynwyd ei zel, aeth ei galon yn fflam,
Daeth allan fel dysglaer oleuni;
Eglurodd i filoedd eu pechod a'u cam,
A'r ffynnon o waed er eu golchi.

"Tanbeidrwydd ei ysbryd oedd gyfryw ei nerth
Nad allai un cwmwl ei guddio;
Ei lewyrch a daflai pan storm fyddai 'n gerth,
A'r awyr o'i flaen wnai oleuo.

"Pan yn ei lawn hwyliau, taranai yn gryf,
A'r euog a grynai fel deilen;
Ei rymus hyawdledd, fel corwynt yn hyf,
Pan rwyga drwy 'r eang ffurfafen.

"Pan welai y miloedd yn crynu ar lawr,
Ei ddoniau newidient, fel awel,
I araf adfywio rhai lethid mor fawr,
A gwenai pob enaid yn dawel.

"Rai troion, fe 'i gwelwyd yn sefyll yn syn,
Fel Sinai cyn esgor taranau;

Ond pan y llefarai, mewn agwedd ddi—gryn,
Yn lluchio ystormydd â'i eiriau.

"Ac wed'yn, newidiai yn dyner ei wedd,
Fel mynydd Calfaria ei hunan;
O gylch ei wefusau ceid enfys o hedd,
A'i eiriau femelltl miwsig trwy anian.

"Cysurai 'r galarus, cyfodai y gwan,
Balm nefol dywalltai i glwyfau;
Ac un Haleluia a greai mewn man
Fu 'n adsain gan brudd ocheneidiau.

"Nid ffrwyth coeg addysgiaeth oedd effaith ei ddawn,
Ond ffrydlif o wreiddiol athrylith;
O natur ei hunan ei feddwl oedd lawn,
A'i gwir areithyddiaeth ddiragrith.

"Derbyniodd at hyny ddylanwad o'r nef,
Addurnwyd ei ddawn gan wir grefydd;
Bu anian a nefoedd yn hael iddo ef,
I'w godi i uchder ysplenydd.

"Pan mewn cymanfaoedd y teimlid ei ddawn,
Gan filoedd mewn dyfnion effeithiau;
Y dorf lywodraethai y borau neu 'r nawn
Ag anadl oddiar ei wefusau.

"Yn awr mi a'i gwelaf! a'i olwg yn syn,
Yn wanaidd o gorff ar y gorlawr;
Fel delw, yn deneu a gwael y pryd hyn,
Yn offeiriad yn ymyl yr allawr.

"Holl anian sy 'n dawel, ni chlywir swn gwynt,
Y dail yn y llwyni yn huno;
A dim ond murmuron afonydd ar hynt
Yn adsain tangnefedd trwy 'r harddfro.


"Ond weithiau fe glywir aderyn uwch ben
Yn cyffwrdd â thelyn y nefoedd
A blaen ei adenydd; a'r haul yn y nen
Yn gwenu ar dlysni 'r ardaloedd.

"Yr olwg ar anian o amgylch y lle,
Tirioni a swyn ei thangnefedd,
Yn gwneyd iddo deimlo hyawdledd o'r ne'
Yn llanw ei fron â gorfoledd.

"Darllena ei destun yn araf ei lais,
A'i ddull yn grynedig yr awrhon,
Fel un â'i wefusau dan effaith rhyw drais
Yn dirgel lywyddu 'r acenion.

"Ond wedi cyweirio ei delyn i'w threfn,
Mor swynol y chwery ei thànau!
Yn esmwyth, fel awel y nawn, pan yn llefn,
Yn chwareu ymhlith y rhosynau.

"Ei eiriau ddyferant fel dafnau o fêl,
A miloedd a welir yn gwenu;
Bryd arall, taranfollt yn tori mewn zel,
A'r miloedd ar amnaid yn crynu.

"Yr IAWN yw y testun. Darlunia y groes,
A'r Iesu pan arni yn trengu,
Y gwaedu, y dyoddef, a'r farwol lem loes,
A'r Duwdod o'r nefoedd yn gwgu.

"Arlunia Galfaria yn gywir yn awr,
Mewn dwysder ger llygad y dyrfa;
Y creigiau yn rhwygo, ufeldwfr trwy 'r llawr,
A'r ddaear ar ruthro ar chwalfa.

"Yr haul yn tywyllu, pob cwmwl yn brudd
Yn esgor ar fellt a tharanau;

Ac anian â'i dagrau yn llif ar ei grudd,
Ar daflu yn fyrddiwn o ddarnau.

"Y diafliaid yn gwaeddi yn groch a di-ffael,
Fod iddynt y fawr fuddygoliaeth,
Ar gipio awenau y bydoedd yn hael,
A hawlio holl gylch creadigaeth.

"Ond yn y cyfyngiad, yn rhuthro mewn trwst
O gyrhaedd swn peraidd 'GORPHENWYD!'
Mewn taran disgynant i uffern mewn ffrwst;
Ac amrant y ddaear oleuwyd.

"Yr Iawn anllygredig fan hyny a gaed,
A bywyd diderfyn i feirwon;
Trag'wyddol ddedwyddwch trwy rinwedd y gwaed
I fyrdd o fyrddiynau yr awrhon.

"Fan hyn, yn uwchafiaeth ei ddringeb, fel cawr,
Neu angel ar fynydd goleulan,
Yn tywallt hyawdledd i filoedd ar lawr,
Fel rhaiadr yn swnio drwy anian.

"Ac yno 'n cyfeirio at ffrwythau y groes
Yn ymyl gwefusau 'r newynog;
A'r ffynnon agorwyd i wella pob loes
A'i fys a ddangosai i'r euog.

"Fel adsain aur delyn ceid weithiau ei lef,
Yn beraidd ar glustiau 'r gwrandawyr;
A miloedd a glywid â'u bloedd yno 'n gref,
Yn diolch am Geidwad pechadur.

"Bu ganwaith fel hyny yn Nghymru cyn hyn,
Yn llywio tyrfaoedd â'i ddoniau;
Arweiniodd, do, filoedd i Galfari fryn,
A chawsant wir ryddid eneidiau.


"Mae 'r adsain hyd eto heb gilio o'r wlad,
Yn crwydro, gan ddeisyf cael noddiant;
A miloedd wrth gofio am dano fel tad,
Eu dagrau yn ffrydiau dywalltant.

"O! chwi Gymdeithasau Crefyddol, drwy 'r tir,
Mae 'n chwith arnoch chwi am eich gwron;
Dadleuodd eich hawliau mewn goleu oedd glir,
Hyd angau bu i chwi yn ffyddlon.

"Dyledion addoldai a welwyd yn ffoi
O flaen ei ornerthol areithiau:
A swyn ei leferydd bu 'n tawel ddadgloi
Cyndynrwydd y gwaethaf galonau.

"Byth, byth, ni anghofir holl ddwyster ei wedd,
Taerineb ei eiriau, wrth gasglu;
Bydd adgof am dano er gwaethaf y bedd,
Tra fyddo addoldŷ yn Nghymru.

"Ei enw adawodd yn beraidd i'r byd,
A phery mewn bri er pob galar;
A'i werthfawr weithredoedd a gofir o hyd,
Nes chwelir sylfaeni y ddaear."

Ar hyn, ochenaid dreiddiai drwy y fan,
Nes siglo colofnau y deml yn ddwys;
Goleuni y lampau a welid yn wan;
Ar bobpeth ceid gofid yn dodi ei bwys.

Y galar a chwyddai drwy 'r deml yn fawr,
Am golli yr arwr i briddell y llawr:
Corffoliad o alar, a thristwch, a chur,
Yn ddigon i doddi un galon o ddur;
A minnau a wylais fy nagrau yn llif,
Yn ffrydiau hiraethlawn heb fesur na rhif;
Beth ellid ond wylo mewn mangre mor brudd?
Y teimlad drylliedig ni erys yn gudd.


VI.

Daeth awel falmaidd fel o'r Wynfa nefol,
A chwalai 'r gwyll am enyd fach ddyddorol;
Ac yno 'n dyner clywn y mwyn offeiriad,
Yn dwys acenu geiriau dofn alarnad,
Am golled newydd gafodd Cymru fad,
Un ddwys i'w mynwes, O! dyneraf wlad!
A'i galar dwfn ar alar,
Eleni yn ddigymar!

"O! Gymru dirion, mae y flwyddyn hon
Yn llwytho gofid yn dy dyner fron!
Y dyrnod cyntaf oedd yn drwm a dwys,
Pan yn yr amdo cuddiwyd Ieuan lwys;
Yr ail mor fuan-cyn anadlu braidd,
Yn rhwygo 'th galon hyd ei dyfnaf wraidd!
A'r trydydd eto!-trwm yw hwn yn wir!
A'i loesion chwerwon deimlir drwy y tir
Am oesau lawer. Profiad dwys a gaed;
O dano 'n awr y wylir dagrau gwaed;
Ac er dwys wylo ffrydiau hallt bob dydd,
Mewn bedd mae 'th feibion, yn y gwely cudd
Yn huno 'n dawel. Nid taranfollt fawr,
Na thwrf corwyntoedd, a'u deffroa 'n awr.
Mwy dwfn eu hûn na chynt pan ar dy fron
Y megit hwy o dan dy wenau llon!
I mi a thithau, chwerw iawn yw 'r cur,
Am golli DAFYDD, oedd a'i fron yn bur,
Cyn braidd gyrhaeddyd calon oedran gŵr,
Ei draed yn fferu yn y marwol ddwr.
Fel haul yn machlud pan yn hanner dydd,
Yn nghanol myrddiwn o gymylau prudd,
A phawb yn synu, ac yn tewi 'n fud,
Am golli gwenau ei oleuni drud.

Hyn, Gymru dyner, oedd ei farw ef
I'th deimlad di trwy bob rhyw lan a thref.
Pa fodd y gallaf beidio wylo'n lli'?
Mae 'm cydymdeimlad dwysaf gyda thi.

"Fe welais flyneddoedd o wae,
A'u gofid yn llwytho y wlad,
A'u heffaith, mewn adgof y mae
Yn aros fel brathiad du frad:
Ond blwyddyn mor ryfedd a hon
Ni welais-mor brudd ac mor flin-
Ystormydd sy 'n curo dy fron,
Gauafaidd ryfeddol yw'r hîn!


"Mae 'th awyr yn bruddach, amwisgwyd ei glesni
A duon gymylau yn fyrddiwn eleni,
Yr oll fel galarwisg am haul ac am leuad,
Y dydd fel y nos, heb belydryn o gariad!
Awelon fu 'n fywiog yn taenu aroglion
O'r gerddi blodeuog, ynt lonydd yr awrhon;
Ond weithian yn araf symudant i esgor
Ochenaid bruddglwyfus uwchben y drist oror.
Nid ydwyf yn gweled dy fryniau mor serchog,
Na 'th uchel glogwyni mor heirdd a godidog
Yr oll yn cydwisgo niwl du ar eu hemrynt,
Yn gwgu ar bobpeth a welir o danynt.
Murmuron galarnad adseiniant drwy 'r meusydd
Eleni ar lànau dy geinion afonydd;
Eu tònau, wrth chwalu yn drist ar y graian,
Awgrymant fod gofid yn llenwi bron anian.
Arferwn ddifyru fy hunan am oriau
Yn gwrandaw peroriaeth dy adar ar gangau;
Ond nid wyf yn clywed eu hodlau eleni
Yn unman yn beraidd trwy demlau 'r gwyrddlwyni;
Os ceir ambell odl, mae hòno mor brudded,
Nes peri im' wylo yn hael wrth ei chlywed.

Rhyw olwg wywedig sydd ar dy holl erddi,
Fel dan oer ddylanwad marwolaeth eleni;
Mae gwynder dy lili, a phorphor dy rosyn,
Yn araf dywyllu pob un ar y gwreiddyn.
Nid Cymru yn gwenu mewn tlysni digymhar
Wyt heddyw, ond Cymru dan amwisg o alar-
Ymborthi ar dristwch, a dagrau hallt beunydd,
Gan rodio 'n ben-isel trwy 'r tawel fonwentydd,
O hyd yn prudd alw ar enwau dy feibion,
A'th ddwylaw 'n blethedig, ac oer ar dy ddwyfron!
Pa ryfedd? ni threiglodd un flwyddyn mor greulawn
Erioed dros dy brofiad, a chroesau mor orlawn,
Dy feibion tirionaf fel hyn yn cydgwympo
I lawr i'r du feddau, dan dyweirch i huno!

"Pan gollaist Stephen fwyn o'th fron,
Pan guddiwyd ef mewn tawel fedd,
Pa fodd y gellit fod yn llon,
A rhith o wên byth ar dy wedd?
Trywanodd angeu creulon drwy
Dy galon dyner gleddyf brad,
A phwy all draethu maint dy glwy',
Am Stephen dyner-dirion wlad?

"Mor agos oedd yr undeb cu,
Rhwng ef a thi, dyneraf fam-
Fel mae rhyw wagle mawr lle bu,
Heb neb i'w lanw! O! paham?
Pe treiglid draw oddiar ei sail
Y Wyddfa fawr, i'r gwerydd cudd,
Pa le ceid wed'yn Wyddfa 'r ail,
I sefyll yn y gwagle prudd?
Fel symud mynydd mawr,
A'i gopa yn y nen,
A chwmwl du ei wawr,
Yn goron ar ei ben,

Oedd symud Stephen gawraidd yn ei fri;
Rhyw wagle aruthr ar ei ol,
Sy'n awr i ni!

"Mor ddwys yw clywed cyngherdd gref
Mewn teml eang—porth y nef—
Plethedig leisiau 'n uno 'n fwyn,
I ladd pob gofid gyda 'u swyn,
Yn tewi 'n sydyn iawn,
A phrudd ddystawrwydd tawel nawn,
Yn llywio 'r fan!
Mae cyfnewidiad felly 'n syn,
Yn gwneyd y llygad llon yn llyn,
A'r cryf yn wan:
A phan roed sêl ar wefus Stephen gu,
Terfynwyd cyngherdd felus fu
Yn lloni clust y wlad;
Difrifwch marwol, a dystawrwydd sydd,
Ar ol ei golli;
Gofid prudd,
A dagrau dinacâd.

"O! anian dirion, megaist ef yn llon,
Ar lanau hoff Syrywi draw;
Bu 'n gwrando chwedlau llawer tòn,
A'u sisial chwalai ei holl fraw;
Y gwigoedd gwyrdd gerllaw
Wnai 'n demlau idd ei fryd,
Lle ciliai 'n aml dan rhyw bren,
I wrandaw 'r adar bach uwch ben,
Ac yntau 'n syn a mud;
Athrylith angel yn y plentyn cu,
Oedd yno 'n offrwm parch
I'r Duwdod fry!


"Dy dlysni, anian, oedd yn denu 'r bach,
Penfelyn, gwridog, ar ei ol o hyd;
Dail gwyrddion, a briallu, ffrwythau iach,
Rhosynau prydferth—lanwent ei holl fryd
Sain awel gyda'r nos ymhleth â sï y don,
A sisial dail y coed, oedd fiwsig lon
I glustiau Stephen! treiglent fwyniant pur,
Ymorfoleddai ac anghofiai 'i gur!
Aderyn bach yn unig yn y gwrych
Ar ddraenen wen, oedd iddo'n brydferth ddrych;
Ac felly tyfodd yn gorffoliad byw
O honot, anian, fwyn dy wedd,
A'th dlysni aml ryw.

"Mynyddoedd Cymru, a'i chlogwyni ban,
Ei chreigiau noethion uwch rhuadfawr li',
Oedd hoffach iddo ef na muriau can,
Palasau mawrion, er eu moethus fri;
Cael tamaid sych ar glogwyn,
Ymhell yn nghwmni 'r gwynt,
A chlywed cerdd aderyn
A hoffai ef yn gynt,
Na phe mewn castell wrth ddanteithion oes,
Lle nad oedd dim ond celfyddydol foes.


"Yn Gymro ganwyd ef yn Gymro bu,
Mewn iaith a theimlad trwy ei ddyddiau oll;
I Gymru daeth i farw'n blentyn cu,
Ar fron ei fam—ni chafodd fyn'd ar goll;
Ei anadl gyntaf ga'dd o'i hawyr hi,
A'i anadı olaf fynodd ganddi 'n fwyn!
Mwy hoff i Stephen dyner oedd cael bedd
Yn Nghymru fach heb gŵyn,
Dan dyweirch gwyrdd, briallu gwylaidd wedd,
Na phe mewn estron wlad,

C'ai amgueddfa lefn
O farmor cadarn mewn addurnol drefn.

"Pan gynt yn blentyn, dan ddylanwad braw,
Arweiniai "Gomer" ef a'i dyner law,
Ac yn y "SEREN" cafodd fantais fawr
Er meithrin dawn oedd ynddo'n ddefnydd cawr;
Yn ei ysgrifau gwelodd "Gomer" ddawn,
A gwir athrylith—noddodd hwynt yn llawn;
Ac fel gwir dad, fe roddodd help i'r gwan
I ddringo mynydd anfarwoldeb ban;
A'i ddelw gawraidd yn ei gwedd ddi—lyth,
Ar feddwl Stephen a arosodd byth.

"Iaith Cymru iddo ef,
Oedd iaith ei galon,
Fel miwsig engyl nef,
Oedd ei hacenion;
Astudiodd hi yn llon,
Pan oedd yn blentyn;
Ac nid anghofiodd hon
Trwy 'i einioes wed'yn.

"Defodau Cymru fwyn,
A'i holl lênyddiaeth,
Oedd iddo 'n llawn o swyn,
Ac at ei archwaeth;
Fe 'u hamddiffynai 'n gryf,
Rhag dirmyg estron,
A'u holl enllibwyr hyf,
Areithiai'n fudion

"Fel ysgrifenydd, gwreiddiol oedd bob pryd;
Athrylith danbaid d'wynai yn ei eiriau;
Rhesymau cedyrn, fel mynyddoedd byd,
Yn dal yn ngwyneb pob ymosodiadau;

Ucheledd anian chwyddai 'i feddwl mawr;
Darfelydd bywiog feddai ef yn helaeth;
A'i bin effeithiol chwalai fellt trwy 'r llawr,
A'i daran drylliai bob rhyw gau gyfundraeth.

"Pan sangai faes y rhyfel dros ei wlad,
Yn blaid i'w henw a'i theilyngdod uchel,
I wyll tragwyddol yr ymlidiai frad,
A gorsedd angeu oedd yn ffroen ei fagnel;
O'i holl ryfeloedd daeth yn iach yn ol,
Yn arwr gloew 'n gwenu ar ei arfau;
Derbyniai Cymru ef i'w thyner gol,
A'i llawryf blethai ar ei hyf arleisiau.

"O! Gymru! Gymru! pan y collaist ef,
Fe gollaist fab a'th bleidiodd gydag egni;
Gwaed dy elynion ar ei darian gref,
A'i gleddyf miniog, sydd yn dew eleni
Ond marw ydyw! yn ei dawel fedd;
Byth, byth, ni chyfyd at ei arfau eto,
A phwy sydd genyt a all drin ei gledd?
Pa ryfedd, Gymru, fod dy ddagrau 'n llifo!

"Fel doeth areithiwr, safai ger dy fron,
Mewn hunan—feddiant, fel y Wyddfa fawr
Pan wgai gelyn, gwelid ef yn llon
Pan wawdiai corach—gwenai ef fel cawr;
Pob gair yn gymhwys a phriodol iawn
Hyawdledd deimlid pan symudai lygad
A'r gynnulleidfa gyda nerth ei ddawn,
Ennillai 'n hollol, gyda gwên o gariad.

"Areithiau Stephen sy'n adseinio 'n awr
Rhwng muriau amryw eang ystafelloedd;
Pa rif o glustiau sydd yn fyw trwy 'r llawr,
A'i ddawn ddihafal yn gorlanw 'u celloedd?

"O'r Fenni fach i Lundain fawr orseddog,
Mae dylanwadau ar ei ol o hyd,
Ac ynot Gymru, mewn cilfachau creigiog,
Eu hadlais eto nid yw'n hollol fud.

"Fel craff dduwinydd, a phregethwr doeth,
Y safai'n uchel gyda'th gewri mwyaf;
Y fwyn efengyl yn ei ieithwedd goeth,
Osodai allan yn y dull serchocaf;
Anwylyd ydoedd gan eglwysi'r wlad,
Addurnai'r orlawr yn y cymanfaoedd—
Yn athraw pur yn llaw ei Ddwyfol Dad,
Gwnaeth les tragwyddol i eneidiau miloedd.
 
"Ond er yn uchel, ac yn gawr goleubryd,
Ni chafodd yntau ddianc heb y groes—
Corwyntoedd mawrion, ac ystormydd enbyd,
A deimlodd Stephen, gydag aml loes;
Ei awyr ddüwyd gan rhyw brudd gymylau,
Ac ef yn seren bron yn llithro'n gudd;
A thybiwyd, unwaith, y gwnai gorthrymderau,
Ei lwyr orchfygu, pan ar nawn ei ddydd!

" Yn y tywyllwch amgylchiadol hyn,
Gwynebai'r glyn yn llawn o brudd deimladau—
Y du yn duo—yntau'n fud a syn,
Yn dysgwyl—dysgwyl am y dwyfol olau;
A phan ar suddo, draw ar lan y dwr,
Pelydrodd gobaith yn ei wedd ddysgleiria',
Ac ef i'r nefoedd gipiwyd gan y Gŵr
A faeddodd uffern, pan ar ben Calfaria!

"Aeth adref—do—yn ngherbyd goreu'r nefoedd,
A myrdd o engyl yn ei hebrwng fry;
Gwên Duwdod chwalai y gelynion luoedd:
Pan oeddynt amlaf, safodd gras o'i du;

Mae heddyw'n rhodio glan yr afon nefol,
Yn eilio mawl mewn anfarwoldeb pur—
Yn seraff tanbaid mewn goleuni dwyfol,
Ymhell o gyrhaedd unrhyw boen a chur."

Ar hyn y deml drwyddi oll dywyllai,
A'r ddwys ochenaid drwy y fan ymrwygai,
Fel adlais tymhestl ar y ffrochus eigion,
Ar noson dywell. Crynu wnai pob calon.
Gwae erch deyrnasai yn ei rwysg drwy'r fangre,
Gan fwrw dychryn o'i safn ddu anaele—
A'r fan i mi oedd fel bedd mawr am lyngcu
Y byd crynedig————————————


VII.


Cyn hir, dystawodd yr ochenaid brudd
A lleddfwyd peth ar fy ngofidiau cudd;—
Ail d'wynai'r lampau; a'r offeiriad syn
Oedd yno'n drist, a'i lygad llwrf yn llyn;
Galargan newydd draethai ef yn awr
Am arwr gwympwyd i briddellau'r llawr,
Yr hwn fu'n enwog am ei ddysg a'i gerdd,
Ond heddyw'n fud o dan dywarchen werdd;
Ac wrth ei gwrando wylais yno lif
O ddagrau heilltion—treiglent yn ddirif;
Pob gair a rwygai yn fy nghalon gron
Glwyf newydd llidiog—gwaedai 'm tyner fron,
Wrth fron fy ngwlad, amddifad am ei phlant,
A bwysai'n fud ar delyn lorf ei thant.
O! alar dwys! fel cwynfan araf wynt,
Pan dros yr eigion ar bruddglwyfus hynt,—
Yn taenu gofid ar bob cwr o'r wlad
Am golli arwr a fu iddi'n dad!
Fy mhin crynedig, gad i'm tyner law
Dy hwylio di o dan ddylanwad braw,

I lawn groniclo ar bapyrlen lân
Holl ymadroddion yr alarus gân.

"Gorphenwyd! O alar! aeth Tegid i'r bedd!
Mae'n awr dan dywarchen yn huno!
Y pryf sy'n teyrnasu yn hyf ar ei wedd,
Ac yntau yn fud yn ei amdo!
Ni allaf byth mwyach ei weled yn llon
Yn gwenu ar ddaear a nefoedd,
Fel bardd—a holl anian yn llanw ei from
A'i delwau trwy'r eang amgylchoedd.

"O ddirfawr wahaniaeth! bu'n rhosyn tlws gynt,
Yn tyfu ar fonwes Meirionydd;
A'i flodau yn brydferth yn llwytho y gwynt
A'u harogl o'r ddol hyd y mynydd;
Mor deg y pryd hyny y lledai ei ddail,
A'r haul ar ei fron yn llewyrchu—
Yn ngardd lwys yr awen prin gwelid ei ail,
A'r wlad ar ei borphor yn gwenu.

"Yn foreu gwnaeth yno gyfammod oedd gun
A'r awen, ac ef ond yn blentyn!
Y llyn[1] yn offeiriad, a'u rhwyment yn un,
Acanian yn tystio gyferbyn:
Priodas wir ddedwydd i Gymru oedd hon,
Eu heppil dderbyniai'n serchocaf;
Ni welwyd hiliogaeth mwy prydferth a llon—
Yn ddelwau o'u rhiaint anwylaf.

"Llafurus fu Tegid yn moreu ei oes,—
Yn diwyd ddiwyllio ei feddwl;
Pelydrodd i'r golwg, er gwaethaf pob croes,
Yn seren o fonwes pob cwmwl:

Y nos ddaeth yn ddydd, cynnyddodd yn fawr,
Yn haul yn awyrgylch llenoriaeth,
Gan daflu goleuni oedd hyfryd i lawr,
A lloni y wlad â'i ddysgeidiaeth.

"Yn araf y dringodd i fyny mae'n wir,
A chamrau gofalus oedd ganddo;
Manylrwydd dihafal—a'i olwg yn glir—
Un craffus oedd ef wrth fyfyrio;
Y profion o hyny a welir yn awr
Yn eglur o'i ol mewn gorchestion;
Prin gwelir brycheuyn yn duo eu gwawr,
Astudiodd yr oll i'w manylion.

"Fe'i gwelwyd yn blentyn bach isel a mad,
Ac wed'yn yn wron athrawol;
Yn ngodrau cymdeithas ar aelwyd ei dad,
Yn uchel mewn cylch offeiriadol:
Fe 'i gwelwyd yn siarad a thònau y llyn,
Ac wed'yn yn dysgu llênorion;
Ar hyd bryniau Meirion, yn dlawd ac yn syn,
Yn Lloegr yn synu athrawon.

"Astudiodd yr ieithoedd dysgedig—a'i glod
A daenwyd trwy'r gwledydd yn uchel;
Llafuriodd yn ddyfal i gyrhaedd y nod,
Ond dringodd hyd ato'n ddiogel:
Er hyny, iaith Cymru a hoffai'n ddiwad
Pan ydoedd yn nghanol tir estron;
Ni allodd anghofio mo hon o'i hen wlad—
Argraffwyd hi'n ddofn ar ei galon.

"Yn Gymro bu ef yn ei ddiwyg a'i foes
Yn nghanol rhwysgfawredd y Seison,
A'r awydd brwdfrydig a'i llywiai trwy 'i oes,
Oedd marw yn Gymro pur galon;

Ni allodd coeg—ffalsder y beilchion droi draw
Gwladgarwch o orsedd ei fonwes;
Ei wlad a theyrnwialen o serch yn ei llaw,
A'i cadwodd yn Gymro dirodres.

"Astudiodd lênoriaeth yn fanwl i'w gwraidd,
A chwiliodd yn graff i henafion,
Trysorau dihafal ddadguddiodd mewn aidd,
O'u celloedd fe 'u dygodd yn dirion;
Llwch oesau orphwysodd ar ddarnau gwir ddrud
A sychodd—hwy welsant oleuni—
A miloedd o lygaid pryderus trwy'r byd
Uwch ben y gorchestion wnaent loni.

"Barddoniaeth y Cymry, dan lwch, fu yn fud,
Osododd yn fyw ar wefusau—
A theimlwyd dylanwad y cyfryw drwy'r byd,
Yn synu a swyno calonau;
Telynau hen feirddion a dynodd i lawr,
A'u tannau gyweiriodd yn dirion—
A miloedd a welwyd yn lloni yn fawr,
Wrth wrando ar odlau mor fwynion.

"Bu'n wylo yn hidl ar aml drist dro
Am Gymru a'i llwydion fynyddoedd,
Aberoedd, a llynoedd, clogwyni ei fro,
Gwylltineb ei phrydferth ardaloedd;
Ond odlau ei meibion, eu hawen, a'u dawn,
A sychent ei ddagrau yn dirion;
Gair bychan o Gymru, fel awel y nawn,
A ddygai fywiogrwydd i'w galon.

"I eilio mwyn odlau yn ol iddi hi,
Ei fysedd gyffyrddent â'i delyn,
A'r cyfryw fel tyner awelon di—ri'
Yn chwareu a blodau y gwanwyn

A lonent ei chalon. Fel eos mewn llwyn
Pan noson fo dduaf, yn seinio,
A dagrau llawenydd a welid yn fwyn,
O lygaid y Cymry yn llifo.

"Fel bardd—pwy mor syml a choeth yn ei ddull?
Goleuni ei hunan nid ydoedd
Yn fwy ei ddylanwad wrth ymlid y gwyll,
A'i wenau yn lloni y nefoedd:
Ei ardd fel awenydd oedd dlysaf yn wir,
Ei rosyn a'i lili'n brydferthaf;
Y gwlith arnynt hwy a arosai yn hir,
Awelon aent drostynt yn araf.

"Y teimlad hollnerthol sy'n hudo pob dyn,
A weithiai i'w dlysni a'i symledd;
Ei ddarnau orphenid yn gywrain bob un,
Fel anian ei hun am gywiredd:
'Ymweliad a'r Bala'—' Y Plentyn a'r Tad'—
Pwy welodd ddau rosyn prydferthach
Erioed yn blodeuo ar fonwes un wlad,
A'u harogl i bawb yn bereiddiach?

"Blyneddoedd a dreuliodd yn Lloegr yn syn,
Fel alltud o froydd ei dadau,
Yn wylo am olwg ar ddôl ac ar fryn,
A drwsiant ei gwylaidd ororau:
Deheulaw Rhagluniaeth a'i dygodd yn ol
Yn Gymro i Gymru oreuglod,
Ac yma bu'n anwyl fel bardd yn ei chôl,
Nes huno a disgyn i'r beddrod.

"Pan dawodd efe, ciliodd eos o'r llwyn
A lonai y nos gydag odlau;
Tywyllwch ei hunan wrandawai yn fwyn,
Pan dyner gyffyrddai â'r tanau:

Aeth anian yn syn, collodd drebl ei thôn,
A'r mwynder a hoffai ei chalon;
Cyfeiriodd ei llygaid at orsedd yr Iôn,
Mewn gwylder derchafodd ei chwynion.

"O! golled annhraethol i feibion y gân,
Colli'r alaw dyneraf eleni;
Acenion cywiraf wnai'r galon yn dân;
Ein cynllun sy'n awr wedi colli:
Ieuenctyd sy'n wylo am addysg oedd bur,
Yn wlith ac yn haul i'w perffeithio,
A mwyach dan effaith y tristwch a'r cur,
Fe 'u gwelir fel blodau yn gwywo.

"O angau! am holl Eisteddfodau y wlad
Y teflaist alarwisg eleni,
Pan ddygaist odd' arnynt eu llywydd a'u tad,
A'u beirniad o'i orsedd uchelfri;
Pob un sydd yn taro ei llaw ar ei bron,
A dagrau yn bwyta eu gruddiau,
Gan lefain, O Gymru! awr brudd ydyw hon,
Amddifad ŷm ni dan ein clwyfau.'

"Er dagrau a dagrau, nis gellir troi'n ol,
Y ddedfryd angeuol a basiwyd!
Fy ngwlad! O fy ngwlad! ni ddaw mwyachi'th gol,
Mewn monwent fe 'i hisel ddaearwyd.
Ond edrych i'w weithiau, rho barch iddynt hwy,
Mae ynddynt falm hyfryd i'th ddwyfron;
Cymhwysa eu rhinwedd yn awr at dy glwy',
A rhwym hwynt am giliau dy galon."

Tywyllai'r deml! fel y nos heb loer,
A thrwyddi chwythid awel lem ac oer;
Glyn cysgod angeu oedd y fan i mi,
Esgorfa erchyll poen, ac ing a chri.


Ar bwys yr awel, O! gwynfanau prudd
A ddwys ymchwyddent o fonwesau cudd;
Pa nifer fawr o fronau Cymry cu
Oedd yno'n esgor ar gŵynfanau lu?
Pryderi tost! serchiadau cenedl fawr
Yn mhangfa hiraeth: O! bruddglwyfus awr!
A minnau'n wylo—wele oleu gwan
Yn araf nesu trwy yr eang dran,
Trwy'r deml dywyll fflachiai ar ei hynt,
Na'r fellten gyflym yr oedd ef yn gynt.
Ar hyn yr angel gyda thyner law
A'm dwys arweiniai at y porth oedd draw;
Ac yno gwelwn,
Mewn lliw fermiliwn,
Y goleu'n gerbyd gwych;
Ac iddo'r aethom,—
Ar hynt brysiasom,
Heb deimlo unrhyw nych.

Yn ymyl llwyn o ddeiliog goed,
Y safai'r cerbyd,
Am fechan enyd;
A mi ddisgynais ar flodeuog lawr,
Lle gwenai myrdd o flodau pêr eu sawr;
Ac ysgafn oedd fy nhroed.
Wrth imi sylwi ar y cerbyd gwych,
A'r meirch bywioglym,
Yr angel wenai'n brydferth iawn ei ddrych,
Gan roddi awgrym
A'i ddeheulaw, ac yna ymaith fry
Y chwim brysurodd;
A'r arddrych hwn yn yr eangder cu
A lwyr ddiflannodd.

Yn swn y gwynt trwy'r llwyn,
A chŵyn cangenau,

Deffroais innau'n fwyn
Ar wely blodau;
Yr olwg oedd o hyd
Fel cynt, gyferbyn,
A galar ar ei phryd,
Ac ing diderfyn.

Pa ryfedd! wele'r bedd
A lyncodd feibion,
Drywanwyd gan lym gledd
Yr angau digllon:
Newidiwyd gwedd y wlad,
Mae'n welw eto—
Ac uwch yr erchyll frad,
Mae myrdd yn wylo.
 
Beth ddaw o'r Awen lonai fyrdd cyn hyn,
A'i meibion hi yn fudion yn y glyn?
Y meibion hyny gynt chwareuent gân
Adseiniai'n bêr trwy gyrau anian lân!
Byth mwy ni cheir un odl fwyn na cherdd,
O'u beddau oerion yn y fonwent werdd;
Ca'r gwynt oer gwynfan ar eu tanau mwy,
Ond arnynt mwyach ni chwareuant hwy.

Beth ddaw o'r enwog Eisteddfodau oll,
A'r beirniaid craffus wedi myn'd ar goll?
Y llygaid treiddgar a ganfyddent wall,
Y farn a ffurfid gyda phurdeb call,
Y cerydd tyner, a'r ganmoliaeth ddoeth,
Y reithfarn draethid mewn arddulliau coeth.
A gollwyd heddyw! Awenyddion mwy
Ni chawn ond galar—erchyll yw ein clwy!
 
Beth ddaw o'r uchel Esgynloriau sydd
Yn britho Cymru, dan alarwisg brudd?

Y ffraeth areithwyr fu yn deffro'r wlad
Wrth noddi iawnder, neu ddynoethi brad,
Sy'n awr yn fudion!—collwyd grym y llais,
Fu fel taranfollt er dinystrio trais;—
O! Gymru wylaidd, pwy a gawn i ti
Yn nawdd fel hwythau? Neb! Tyr'd wyla'n lli!

Beth ddaw o'r holl Bulpudau, fu cyn hyn
I'w cynnal hwy, er pleidio Iesu gwyn?
Blaenorent gynt y Gristionogol gâd,
Mewn blin ryfeloedd â'r uffernol hâd;
Di—floesg y traethent am rinweddau'r groes,
Er gwella clwyfau, a llareiddio loes—
Iachineb perffaith—palmwydd yn y nen,—
Ond Och! fe'u collwyd, mae eu gwaith ar ben!
 
Pa werth yw byw mewn byd mor llawn o wae!
O hyd yn esgor ar ofidiau mae!
Ar ol cael athraw, cyfaill mwyn, am dro,
Byr, byr, y pery—cwympir pawb i'r gro;
Fel hyn y collwyd yr enwogion hyn,
Ar unwaith bron, yn niwl ofnadwy'r glyn;
Pan oeddym lon yn eu cymdeithas hwy,
Fe'u cipiwyd ymaith. O! angeuol glwy!

O wynt! ar dy grwydredig daith
Trwy'r eang fyd,
Dwg o wyrddlwyni'r ddaear faith,
Aroglion drud;
Ac ar eu beddau anwyl hwy
Boed yr anadlion hyny mwy,
Er ein hadfywio tan ein clwy'—
Hiraethus blant;
Na chaffed oer awelon cri
Byth wywo'n serch—lleihau eu bri,

A fferu ein teimladau ni,
Na rhewi'n mant.

Yn ngwres yr anadliadau mwyn,
O! dyner wlith,
Eu beddau gwisgwch gyd â swyn,
A blodau brith:
Arwyddion tangnef, serch, a bri,
Arosant byth yn hael ddi-ri'
Ar feddau ein hanwyliaid ni,
Y blodau man;
Daw'r adeg eto cyn bo hir,
Cant esgyn i'r baradwys wir,
A sangu ar ddedwyddaf dir,
Yn iach, a glân!





DINBYCH: ARGRAFFWYD GAN THOMAS GEE.

Nodiadau

[golygu]
  1. 'Llyn Tegid, oddiwrth ba un y cymerodd ei enw barddonawl.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.