Cerddi'r Bugail/1887-1917, William Morris
| ← Cerddi Coffa R. Williams Parry | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Cynnwys → |
1887—1917
GANED Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, Meirionnydd, ar y 13 o Ionawr, 1887, ac yn yr Ysgwrn, tyddyn ar gwr y pentref hwnnw, y magwyd ef.
Saif yr Ysgwrn ar yr ochr dde i'r hen ffordd sy'n arwain o Drawsfynydd i Gwm Prysor. Y mae'r tŷ yng nghanol llwyn o goed, mewn cafn yn y creigiau, a'i wyneb i gyfeiriad y wawr. Oddi yno gwelir y cwm creithiog yn ymestyn i'r pellterau, a'r Arennig Fawr ar ei gwr eithaf. Wrth edrych i'r chwith gwelir bryniau Trawsfynydd, y fynwent ar un ohonynt, a'r pentref ar y llall. Y tu draw iddynt hwy ceir ôl bysedd y Rhufeiniaid ar Domen y Mur. A thu draw i honno drachefn, tros hen gartref Morgan Llwyd, y mae ardal Ffestiniog fel Caersalem fel Caersalem "a'r mynyddoedd o'i hamgylch." Gwelir crib yr Wyddfa yn y pellter. Ac ar war y ffridd yng nghefn yr Ysgwrn gwelir Cader Idris, a mynyddoedd a Drws Ardudwy.
Nid rhyfedd bod delw ei gartref ar ganeuon Hedd Wyn. Bardd y mynydd yw efô; bardd y gwyntoedd, y gorlan, a'r grug.
Yno holais y niwloedd, a hwythau,
Y creithiog fynyddoedd;
—dyna'i neges ef. O dan hud y rhain y tyfodd ei feddwl, a'u cyfriniaeth hwy yw ei farddoniaeth.
— Fe âi Hedd Wyn, yn fylchog, i Ysgol Elfennol y Traws nes myned ohono'n ddigon hen i aros adref "i wneud rhywbeth." Adref y bu wedyn nes dyfod o'r wŷs i ymuno â'r fyddin. Bu unwaith am ysbaid yn Neheudir Cymru yn gweithio, ond nid oedd yn gysurus yno o gwbl. Fel hyn yr anfonodd ar y pryd at un o'i gyfeillion i'r Traws:
Yn y South fy nghorffyn sydd,
A f'enaid yn Nhrawsfynydd.
Hyd y ffriddoedd a'r creigiau y byddai ef wrth ei fodd. Plentyn natur ydoedd. Tyfodd fel blodyn ar y mynydd, yn ffordd Duw. Yr oedd y nwyd farddoniaeth yn ei waed, ac yn gynnar fe'i dihunwyd hi ynddo. Cafodd yr "Ysgol Farddol" gan ei dad, a dysgodd y cynganeddion yn lled dda cyn bod yn ddeuddeg oed. Medrodd Evan Evans—ei dad—helpu cryn dipyn arno'r pryd hwnnw, gan fod ganddo yntau "grap ar y llythrenne." Yn ddeunaw oed enillodd Hedd Wyn ei gadair gyntaf, yn y Bala, am bryddest i'r "Dyffryn." Ar ôl hynny y cafodd ei ffug-enw, mewn arwest ar lan Llyn y Morynion.
Daeth i adnabod Elfyn, ac yn ddiweddarach Eifion Wyn. Darllenai bopeth y caffai afael arno, yn enwedig llenyddiaeth ei wlad. Benthyciai lyfrau gan ei gyfeillion, a hefyd o lyfrgell rydd Blaenau Ffestiniog. Mynych y cyrchai ar Sadyrnau i'r Blaenau am lyfr. Ac yna treuliai ei ddyddiau mewn tawelwch a hamdden i'w ddiwyllio'i hun. Hyfryd i'w enaid oedd "sŵn hen afon Prysor yn canu yn y cwm." Yno y "golchodd ei ddeall â golau'r awenau." Ac yno, o fyfyrio ar fywyd a'i anawsterau, y cryfhâi ei ffydd yn y Duw y gwrandawai ar "suon ei fentyll yng ngwynt y nos."
Ar gyfair Eisteddfodau y canodd y rhan fwyaf o lawer o'r cerddi hyn. Enillodd gadeiriau ym Mhwllheli a Phontardawe, a dwy yn Llanuwchllyn, cyn canu i'r "Arwr." Cyfansoddodd y bryddest "Fy Ngwynfa Goll" yn 1914; "Myfi Yw" a "Chyfrinach Duw" yn 1915. Yn 1916 daeth yn ail ar yr awdl "Ystrad Fflur" yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth.
Darllen a barddoni ydoedd ei hyfrydwch yn wastad. Nid amaethwr oedd, ac nid bugail ychwaith, ond bardd a dim arall. Yn aml anghofiai ei feysydd a'i ddefaid wrth grwydro ym mroydd y breuddwydion a hunai rhwng y bryniau llwydion.
Clywais ei fam yn adrodd hanesyn amdano sy'n nodweddiadol hollol ohono. Digwyddodd yng ngwanwyn 1917, ac yntau adref am dro o wersyll Litherland. Sylwodd hi un bore fod yr wyn llyweth yn yr egin, a gofynnodd i un o'r genethod redeg yno ar unwaith. Wedi cychwyn, troes hithau yn ei hôl, a dywedyd wrth ei mam fod Ellis newydd gychwyn i'r Llan, a'i fod yn siwr o hel yr wyn o'r egin. Gan nad beth am hynny, a'r wyn yn ei ymyl, heibio'r aeth Ellis heb eu gweld o gwbl. Na, nid bref y defaid a glywai hyd lethrau ei henfro, ond "ysbryd oesoedd annisbur a dwysion."
Syndod, rywfodd, gyn lleied a ddarluniodd ar olygfeydd natur. Damhegion oedd pwerau natur iddo, yn dehongli pasiant bywyd, ac yn deffro rhyw feiddgarwch rhyfedd yn ei feddwl. Mewn llythyr o'r eiddo at gyfaill clwyfedig yn Ffrainc, fel hyn yr ysgrifenna:
'Wyddost ti beth, mae clywed sôn am filwyr clwyfedig yn gwneud i mi feddwl bob amser am Arthur chwedloniaeth y Cymry. Wedi bod ohono mewn llawer brwydr, o'r diwedd fe'i cludir dan ei glwyf i Ynys Afallon,—ynys ddi-nos yr haf anfarwol. Cofia nad chwedl mo Ynys Afallon. Ynys ym myd y galon ydyw hi, ac nid oes dim ond clwyf a dioddef yn gallu agor ei phyrth. Mae'r Ynys honno yng nghalon dy deulu, yng nghalon dy wlad, a thithau ynddi yn anwylach nac erioed.
Nid oes gennyf fawr iawn i'w ddweud wrthyt, ond ei bod hi yn dawel iawn yn dy hen gartref, yr heolydd yn wacach nac arfer, a'r gwynt fel tac o'n sibrwd "Ichabod o lwyn i lwyn, ond nid felly mae hi i fod, cofia. Mae'r gwanwyn sydd heddiw yn ifanc ar fedd y gaeaf a'r storm yn profi hynny, a chyn sicred a dyfod blagur i lwyn felly hefyd y daw bore o heddwch i fywyd ein teyrnas glwyfedig. A chyda'r bore hwnnw doi dithau a miloedd o fechgyn eraill yn ôl i'w hen gynefin, eu profiad yn fwy, a'u gwlatgarwch yn burach a mwy sylweddol, a'u cariad at heddwch yn angerdd newydd yn eu mynwesau.
Dyna fyd meddwl Hedd Wyn. Bychan y tybiai, pan ysgrifennai'r uchod, fod ei fedd ei hun mor agos ato; a chyn gwawrio o'r bore o heddwch y byddai pyrth Afallon wedi cau amdano'n dragywydd.
Un anodd i'w ddisgrifio yw Hedd Wyn. O ran yr olwg allanol, nid oedd dim neilltuol ynddo. Gellid ei basio ar y ffordd a thybied mai'r gwas ffarm distadlaf yn y wlad ydoedd. Pan weiddid ei ffug-enw yn Eisteddfod Llanuwchllyn yn 1915, cododd ar ei draed ym mhen draw'r babell; ond ar hynny dyma wraig gref o'r tu ôl iddo'n ei dynnu gerfydd ei gôt, gan ddywedyd "Eiste i lawr yn y fan ene fachgen, er mwyn imi gael gweld pwy sy'n ennill y gader!"
Oherwydd ei symlrwydd a'i naturioldeb, hoffai pawb ef. Nid wyf yn meddwl y bu iddo elyn yn unlle erioed. Ymddiddorai yn helyntion diniwed ei fro. Cofir o hyd am rai o'i ddiddanion oddi ar lwyfan y neuadd newydd yn y Traws. Cyfansoddodd aml englyn a chân chwareus, ac ymgollai mewn direidi iach cystal â neb. Yr oedd llond ei natur o ddigrifwch tawel. Byddai plant bach Trawsfynydd i gyd yn adnabod Hedd. Wyn. Erys ei englynion ar ôl rhai ohonynt mor hysbys a diarhebion yn y fro. Gweision ffermydd oedd ei ffrindiau pennaf, a llawer o hiraeth a deimlai ar eu holau pan chwalwyd hwy i bedwar cwr byd. Eithr er mor ddiymhongar ydoedd, meddai ar uchelgais a phenderfyniad di-wyro.
O'i adnabod yn iawn, buan y canfyddid bod ysbryd anghyffredin yn syllu trwy ei lygaid gleision aflonydd. Pwy a fuasai, yn ei oed ef, ac wedi derbyn cyn lleied o fanteision, yn mentro cynnig mor ddygn am y gadair genedlaethol? Gwnaeth hynny ddwywaith cyn ennill ar "Yr Arwr." Pan fethai, ni surai ddim. Yr oedd fel pe'n siwr y gwawriai ei ddydd yntau rywbryd.
Cyfansoddai ei gerddi'n hamddenol, ond mewn brys bob amser yr anfonai ei waith i ffwrdd. Torrodd amodau cystadlu fwy nag unwaith oblegid hynny. Hir-oedai gyda phopeth bron. Dyna hefyd oedd ei hanes yn ei gysylltiad â'r fyddin. Oni bai gyrraedd o'i apêl am ryddhad yn rhy hwyr i'r awdurdodau, y mae'n fwy na thebyg na chawsai'r fyddin mohono. Ac y mae'n anodd dirnad beth a welodd neb erioed yn Hedd Wyn i feddwl gwneuthur milwr ohono. Nid oedd nac osgo nac anianawd milwr ar ei gyfyl. Ond daeth y wŷs ddi-drugaredd i'w orfodi yntau. Arhosodd yn rhy hwyr wedyn cyn dychwelyd i Litherland, a gadael Trawsfynydd am y tro olaf. Dyna, efallai, a barodd ei symud mor fuan i Ffrainc.
Ychydig a wyddom amdano yno, ond amlwg yw ei fod yn hoffi'r wlad, ac yn mwynhau cwmni'r fataliwn y perthynai iddi. Fel hyn yr ysgrifennai oddi yno am y cwmpeini: Yr oedd dau o'r hogiau yma'r dydd o'r blaen yn dweud. wrth fy mhasio: "Well, kid." Ond trannoeth ar y parade dyma'r swyddog yn gofyn i mi ymysg eraill: "Well, man, did you shave this morning?" Ynteu'r swyddog ai'r hogiau oedd yn iawn, cewch chwi ddweud. Hefyd yr wyf wedi digwydd disgyn mewn lle llawn o brofiadau rhamantus, ac anghyffredin. Pan oedd tri neu bedwar ohonom yn cwyno ar y gwres, daeth hen filwr wyneb-felyn heibio, a dyma fo'n dweud: "Wel peidiwch a chwyno, boys bach, beth petae chwi yn Sudan erstalwm yr un fath a fi? Yr oedd gennyf helmet bres ar fy mhen, a phlât pres ar fy mrest, a rhywbryd tua dau o'r gloch ichwi, gwelwn rhywbeth yn llifo hyd fy nhrowsus, ac erbyn edrych yr oedd yr helmet a'r plât yn prysur doddi. Beth ydych chwi'n gwyno, boys bach?"
A dyma'r wlad, a'r hyn a welai ynddi:
Mae yma wlad ryfeddol o dlos yn y rhannau a welais i hyd yn hyn; y coed yn uchel a deiliog, a'u dail i gyd yn ysgwyd, crynu, a murmur, fel pe baent yn ceisio dweud rhywbeth na wyddom ni ddim amdano. Neu fel pe bai hiraeth siomedig o Gymru yn dychwel yn athrist, ar ôl methu cael hyd i rywun sy'n huno yn rhywle yn Ffrainc.
Gwelais yma lwyni o rosynau, a gwefusau pob rhosyn mor ddisglair a gwridog â thae myrddiwn o gusanau yn cysgu ynddynt. A chan fod y tywydd mor hyfryd ceir yma olygfa dlos y tu hwnt, yn oriau y machlud, a'r haul yr ochr draw i fataliynau o goed yn mynd i lawr mor odidog o hardd ag angel yn mynd ar dân. Ymhen ennyd gwelir llen denau o liw gwaed tros y gorwel, a rhyw felyndra tebyg i liw briallu wedi ei gyfrodeddu ynddi.
Ond y peth tlysaf a welais i hyd yn hyn oedd corff hen shell wedi ei droi i dyfu blodau,—yr oedd coeden fach werdd yn cuddio rhan uchaf yr hen shell, a naw neu ddeg o flodau bychain i'w gweld rhwng ei dail, yn edrych mor ddibryder ag erioed. Dyna i chwi brawf fod tlysni'n gryfach na rhyfel onid e, a bod prydferthwch i oroesi dig; ond blodau prudd fydd blodau Ffrainc yn y dyfodol, a gwynt trist fydd yn chwythu tros ei herwau, achos bydd lliw gwaed yn un, a sŵn gofid yn y llall.
Mae yma lawer math o bobl i'w gweld o gwmpas. Gwelais amryw o Rwsiaid, a difyr yw cael hamdden i edrych ar y rhain, a gwybod eu bod yn dystion o dragwyddoldeb eiraog eu gwlad, ei chaethiwed hen, a'i deffro sydyn. Mae yma Indiaid lawer hefyd, eu gwalltiau fel rhawn, a thywyllwch eu crwyn yn felynddu, a'u dannedd fel gwiail marmor, a dylanwad eu duwiau dieithr ar bob ysgogiad o'u heiddo. Gwelais garcharorion Almaenaidd hefyd. Yr oedd cysgod ymerodraeth fawr yn ymddatod yn eu llygaid, a haen o euogrwydd yn eu trem. Nid wyf i wedi cyrraedd at berygl eto, ond yng nghanol y nos byddaf yn clywed sŵn y magnelau fel ocheneidiau o bell. Hwyrach y caf fwy o hamdden a phrofiad i ysgrifennu fy llythyr nesaf.
Wedi ymuno â'r fyddin, wrth gwrs, y cyfansoddodd y rhan helaethaf o'i awdl i'r "Arwr"; ac o Ffrainc mewn brys y postiodd "rhyw lun o awdl ar destun y Gadair," chwedl yntau.
Bu farw ym mrwydr Cefn Pilkem, ym mis Gorffennaf, 1917. Yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, yn nechrau Awst, dyfarnwyd ei awdl yn orau. A golygfa i'w chofio oedd honno: "yr ŵyl yn ei dagrau, a'r bardd yn ei fedd." Daeth ei enw ar unwaith yn adnabyddus i bawb a garai Gymru a Chymraeg. Ac er dryllio'i delyn mor gynnar, erys ei thân ar lawer aelwyd, a'i halawon o hyd yn fyw. Y mae cofio'r bardd ei hun hefyd yn ennyn "cariad at heddwch yn angerdd newydd yn ein mynwesau."
Bryn Du, Môn