Cerddi'r Bugail/Ar Faen Bedd
Gwedd
| ← Dynes Dda | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Eirwyn → |
Ar Faen Bedd
Annedd i weddi fu calon ddiddig
Yr addfwyn, isel, beraidd fonesig;
O wawr ei heinioes hyd ei hwyr unig
Gwasgarai hudol naws gysegredig;
Ar enw'r sant forwynig—rhoes rhinwedd
Ei nefol nodwedd anniflanedig.