Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Beddrod Dafydd

Oddi ar Wicidestun
Gwas Diwyd Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Griff Llewelyn

Beddrod Dafydd

Carodd yr hen gorlennydd—ac erwau
Y corwynt a'r gelltydd;
Carodd y bêr aber rydd
Gymuna'n grug y mynydd.

Ni fu enaid yn fwynach—yn y Cwm
Nac un yn siriolach;
Hwn dyfodd heb nwyd afiach
Yn ei gorff gewynnog iach.

Yn heddwch y mynyddoedd—yn ddedwydd
Breuddwydiai wynfaoedd;
A thân aur gobeithion oedd
Yn torri ar eu tiroedd;

Eithr angau dieithr ingol—a wywodd
Yr addewid swynol;
Heddiw Prysor berorol
Wyla'n ddwys o lain i ddôl.

Heno uwch ei lwch llonydd—oeda gwaedd.
Gofid gwynt y mynydd;
A sŵn serch yn ymson sydd
Hyd ifanc feddrod Dafydd.


Nodiadau

[golygu]