Cerddi'r Bugail/Blodwen
Gwedd
| ← Marw yn Ieuanc | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Dymuniad → |
BLODWEN
DYMA Blodwen wen heini—a'i grudd fac
Fel gardd fwyn o lili;
Ai tywyllwch mantelli
Y gwyll teg yw ei gwallt hi?
Dwy wefus liw gwrid afal,—a llygaid
Lliw eigion o risial;
Boed iddi glyd fywyd fal
Nefoedd o swyn anhafal.