Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Claddu Mam

Oddi ar Wicidestun
I Wyneb y Ddrycin Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Doli

CLADDU MAM

NAWNDDYDD Sadwrn trwy Drawsfynydd
Cerddai Hydre' 'n drwm ei droed,
Curai'r gwynt ffenestri'r moelydd,
Wylai yn y coed.

Pan oedd sŵn y storm yn trydar
Trwy'r gororau moelion maith,
Cludwyd arch ar ysgwydd pedwar,
Tua'r fynwent laith.

Ond er cludo'r fam i'r graean
Bydd ei bywyd prydferth gwyn
Megis cân telynau arian
Fyth ar wynt y glyn.


Nodiadau

[golygu]