Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Cwympo Blaenor

Oddi ar Wicidestun
Cadwaladr Roberts Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Gwas Diwyd

Cwympo Blaenor

Cwympodd blaenor rhagorol;—gwyddai faint
Gweddi fer bwrpasol;
Rhuddin gwir oedd yn ei gôl
A barn bybyr'r hen bobol.

Ni all erw dywyll irad—y glyn oer
Gloi naws ei gymeriad;
Bydd clych aur calonnau'r wlad
Yn adsain llais John Richad.


Nodiadau

[golygu]