Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Cyfrinach Duw

Oddi ar Wicidestun
Ceisio Gloywach Nen Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Myfi Yw

CYFRINACH DUW

I Y Deml Gyfareddol
GWYBYDD fy mron fod ei enw melys
Fyth yn diasbad yn dlws ar ei hynt
Hyd foroedd ango' y wenlloer oedrannus,
Ar finion yr hesg chwerthingar, wylofus,
Ban grymant dan bwys yr addolgar wynt.

Weithiau fe'i gwelwn yn dringo mynyddoedd
Mewn mantell o fordor yr heulwen a'r fflur;
Weithiau fe'i gwelwn rhwng coed y dyffrynnoedd,
Gwedyn ar encil am decach ynysoedd
Yn sŵn gorohïan y gwynt a'r mŷr.

Lledais fy mreichiau i'w dderbyn ef ganwaith
Ban gerddai hyd ataf mewn islef a lliw;
Dioer, ni chefais i'm myfyr ond dryswaith,
Ac eistedd i wylo fy enaid ymaith,
Oni lefarodd i'm calon friw:

"Myfi biau fywyd y tiroedd gleisíon,
Pob lleuad dromgalon, pob seren dlos;
Myfi biau gerddi y gwynt ar wendon:
Pand digon i'th enaid a thithau weithion
Yw suon fy mentyll yng ngwynt y nos?"


II Teml yr Adfyd
Cerddais heolydd prydwelw gan dlodi
A nwyd ddolefus yr hwyr yn y gwynt;
Gwelwn y deilios yn marw yn ddifri',
A chlywwn hiraeth dolurus dderi,
Fel enaid ymhoen am yr amser gynt.

Coflwn am ysbryd yr anwel rhosynnog,
A melys gyfaredd ei gyfrin fyd,
Wylais o weled agendor dymhestlog
Rhyngddo â goror y bywyd newynog
Sy beunydd yn ymladd â thynged ddrud.

A mi'n ymdeithio, i'm cwrdd daeth hynafgwr
Ac ewyn y storm yn wyn yn ei wallt;
I'w lygaid llwydion 'roedd niwloedd a chynnwr,
I'w agwedd fregus 'roedd trernyn rhyfelwr
Brofasai waethaf rhyw drinoedd hallt;

A dywawd, a'i wefus lasliw yn crynu:
"Ba les iti adrodd y pader sant?
Ba les y defosiwn mud, ar ymgrymu?
Ba les i enaid sy ar newynu
Ddatganu am Nefoedd â gwelw fant?

"Ysgar dy hunan o lwybrau'r paderi,
A chredo ledrithiol y santaidd oed,
Cans nid oes a wnelo yr Arglwydd â thlodi,
Ac ni bydd ddiben na therfyn i'th gyni
Hyd oni chei fedd ryw ddydd dan y coed."


Minnau atebais i'r trist ei ofalon,
Galedwyd o fynych wynebu'r gwynt:
"Na themtia fy enaid, frawd di — obeithion,
Cans nid oes a wybydd undim yr awron,
Na'r amcan a dyf o'th drywydd a'th hynt.

"Boed gryf dy galon a gwybydd fod amcan
Dwyfolaf bywyd yn dilyn y groes;
Rhyw ddydd fe baid dy dlodi a'th riddfan,
Ac yna o'th ofid cei dyfu allan,
A gwrando esboniad Duw ar dy oes.

"Pe chwythai y corwynt fi'n fil o ddarnau
Fel niwl trwy gangau y deri ar yw,
Ni phallai fy ffydd, na sain fy nghaniadau,
Cans gwn nam chwythid tu allan i ffiniau
Y bwriad sy fyth yng nghyfrinach Duw.

"Tarianna dy hun â ffydd ddianwadal,
Er prinned nodau y nef ar dy glyw,
Er garwed y drain sy'n rhwygo dy sandal,
Cans ni ddygymydd bro llwydni ac anial
Hyd yma â deall cyfrinach Duw."

III Teml y Deall
Golchais fy neall â golau'r awenau,
A chyrchais ryw deml anghysbell ac oer,
I 'nghyfwrdd doi lludw y traffell allorau,
A chenais ddyrifau anorthrech fy nwydau,
Ac nid oedd a'm clywai eithr helyg a lloer.


Gwelais ifengwr ail rhywun a glwyfwyd
A llafar y moroedd, â dryswaith y fflur,
Ac nid oedd i'w lygaid ramant na breuddwyd,
Namyn goleuni y deall oer, briglwyd,—
PY deall sy'n ymdrech beunydd â chur.

A mi yn syllu ar Dduw yn y deri,
Ac eilwaith yn salm a chwerthin yr hesg,
Teimlwn fy enaid yn foliant a drysi,
Am hysbryd fel hendrer awel a'r lili,
Hyd oni lefarodd y macwy llesg:

"Tariennais fy hun â milfil o ddeddfau,
A hogais fy neall yng ngwynt y wawr;
Gwisgais fy enaid â gwybod yr oesau,
A difreg cychwynnodd fy nwyd a minnau
I herw hudoliaeth y meithder mawr.

"Mi deimlwn fy enaid fel deufor gyfarfod,
A minnau â Duw yn ymliw o hyd;
I'm hwyliau y chwythai gwynt yr anwybod
Pan geisiwn i ddeongl yr ysbryd annarfod,
Dywyllai, oleuai, demtiai fy rnryd.

"A gwelais fwg fy allorau yn codi
I geisioi dawelu, f enaid a'i gŵyr;
Ac wedyn crwydro fel ysbryd yn nellni
Ar alwad rhyw freuddwyd anorthrech difri',
Fel athrist Alastor fore a hwvr.


"Wrth bwy y dywawd efe ei feddyliau?
Wrth bwy y dywawd gyfrinach ei fyd?
Cans breuddwyd anhymig yw'r mil credoau,
A hud yn marw yw gwyddor a chelfau,
A Duw yn ddwyfol annirnad o hyd.

"Ai ni fedr enaid ond siarad a threngi
Yng ngwyddfod rhyw Unben tragywydd, mud?
Gwelaf bob deall a golau yn methu,
A'r dryswaith anghyffwrdd yn eu gwasgaru,
Fel niwl ar fynyddoedd digariad fyd."

Eto atebais i'r deall digalon
Bylwyd gan ormod disgleirdeb y nef:
"Pand bregus fel niwl yw deall yr awron?
Ac ofer y ceisia'r gwyddorau gloywon
Gyfieithu bwriadau'r anneall lef.

"Gan hynny gad ymaith dy reswm materol
A phlyg megis plentyn i'r dwyfol hud;
Ac yna di glywi yr ysbryd tragwyddol,
Wrth grymu trosot yn murmur gwyryfol
Dlws hwiangerddi'r cyfriniol bell fyd."

IV Tinc y Cariad
A'm henaid i neithiwr rhwng cwsg ac effro,
Fel breuddwyd yn nhiroedd drycin a lloer,
Mi welwn ofidus ifengwr yn crwydro
A chrog ar ei ysgwydd ddolurus yn pwyso
A'i waed yn diferu ar ddaear oer.


O oedi yng nghymun y marw dilafar,
O oedi yng nghymun y marw byw,
Teimlwn fy enaid yn gado ei garchar,
A'm hysbryd yn deffro fel fforest gerddgar
Dan awel hirfelys cyfrinach Duw.

Ac yna mi deimlais ddod cariad tragwyddol
I farw tros enaid tlawd fel myfi,
Minnau yng nghwmni y gwaed cyfareddol
Yn araf ddeffro i'r oed anherfynol
A storm o ddryswaith ar ben Calfari.

V Y Deml Ddihenydd
Mwyach mi godaf fel hedydd yng nglesni
I wybren gyfriniol cariad fy Nuw;
Cans yno mae deall oesau o'i ddellni,
Ac yno mae bywyd o'i boen a'i gyni,
Drwy allu nas gwybydd, yn dechrau byw.

Mi wn fod porthladdoedd y Môr o Dduwdod
Heddiw'n agored wrth fin Calfari;
Mwyach i fro'r tragwyddol diddarfod
Minnau wynebaf ar bell bererindod
Ac yntau'r lladmerydd dwyf gyda mi.

Pa beth yw bywyd, ac angau, a bydoedd,
Ond cymyl â heibio trwy'n glasliw nen?
Minnau â'm myfyr ar Dduw yn oes oesoedd
Ac awel Calfaria'n dod ar ei hyntoedd
I siglo'm hirwallt ac oeri fy mhen


Nodiadau

[golygu]