Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Doli

Oddi ar Wicidestun
Claddu Mam Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Wrth y Bedd

DOLI
Efelychiad

CÂR y fronfraith roddi cerdd
Mewn coedwig werdd o dderi;
Câr y geinach redyn glân
Y marian a'r mieri;
Caraf finnau er pob sen
Wên heulwen a fy Noli.

Clywir heddiw weddwon bro
Yn cwyno tan eu cyni;
A barus waedd y rhyfel drydd
Faith wledydd i dylodi;
Canaf finnau, brydydd syn,
Fy nhelyn i fy Noli.

Carodd "Dafydd gywydd gwin"
Ei Forfydd liw'r goleuni,
Carodd Ceiriog awen lân
Fyfanwy Fychan heini;
Dwedaf finnau, bobol bach,
Anwylach yw fy Noli.


Nodiadau

[golygu]