Neidio i'r cynnwys

Cerddi'r Bugail/Ein Gwlad

Oddi ar Wicidestun
Marw Oddi Cartref Cerddi'r Bugail

gan Hedd Wyn


golygwyd gan John James Williams
Gwladgarwch

EIN GWLAD

HEN wlad y beirdd sy'n huno yn y glyn,
Eu coffa erys fyth yn wyn
Ar lawer mynydd, ban, a glyn,―
Brif gewri'r oesau gynt;
Mae Dafydd ap Gwilym yn y gro,
A'r bedw yn tyfu drosto fo,
A'i gywydd gwin o hyd mewn co'
Fel sŵn anfarwol yn y gwynt;
A chysga Ceiriog awen aur
Ym miwsig ei haberoedd claer
'Rôl swyno cenedl ar ei hynt.

Hen wlad y telynorion ydyw hi,
A gwlad datgeiniaid mawr eu bri;
Mae sain ei cherddi prudd a llon
Fel ymchwydd llanw pen y don;
A'u caru fyth wnaf fi;
Cans yn eu nodau bywyd sydd
Yn galw gwerin tua'r dydd
Fel miwsig clychau Cymru Fydd;
Ac ysbryd yr hen oesau tân
Sydd heddiw'n torri'n fôr o gân
Ar dannau telyn Cymru lân.


Ein gwlad a gyfyd eto er pob brad;
Hi ddawnsia wrth weled ei rhyddhâd;
A chwardd wrth ado trwm sarhâd
Gelynion oesau lu;
Mae twrf rhyfeloedd blin ar ffo
A'r dewr yn huno yn y gro,
A glas y meysydd drosto'n do,
'Rôl brwydro ag anobaith du;
A Chymru eto'n deffro gaed
A nwyd anorthrech yn ei gwaed
A'r wawr yn torri'n dân o'i thu.


Nodiadau

[golygu]