Cerddi'r Bugail/Glannau'r Lli
| ← Wrth y Bedd | Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn golygwyd gan John James Williams |
Marw yn Ieuanc → |
GLANNAU'R LLI
RWYF i yn hoffi'r blodau
Sy'n tyfu'n wyllt a rhydd
Heb undyn yn eu gwylio
Ond awel, nos a dydd;
Yr wyf yn mynd bob hafddydd
Heb gymar gyda mi
I gasglu'r blodau gwylltion.
Ar lannau glas y lli.
Af ati'n fore, fore,
I gasglu'r blodau hyn
Cyn i'r ehedydd ddeffro
Rhwng rhedyn gwyrdd y bryn;
'Rwyf wrthi hyd yr hwyrddydd
Nes casglu llu di-ri
O flodau gwyn a melyn
Ar lannau glas y lli.
Dychmygais wrth ddod adre
Weld llawer ysbryd hy
Yn llamu dros y caeau
A'i wallt yn hir a du;
Ond toc, fe welwn olau
Ffenestri 'nghartref i
Lle cefais wên i'm derbyn
O lannau glas y lli.
Mae gennyf chwaer yn gwywo
Dan farrug oer y glyn;
Mor hoff yw hi o'r blodau—
Rai melyn, gwyrdd, a gwyn;
Bob nos 'rwy'n dyfod gartref
A'm blodau gyda mi
I lonni'r hon sy'n gwelwi
Ar lannau oer y lli.